Adolygiad mawr o'r amgylchedd yn rhybuddio am lygredd a dirywiad

Ymysg y pryderon pennaf mae cyflwr afonydd, nentydd a llynnoedd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae adolygiad mawr o gyflwr amgylchedd Cymru wedi rhybuddio am "afonydd llygredig, priddoedd sy'n methu" a "bywyd gwyllt sy'n dirywio".
Mae gan rannau o'r wlad "yr ansawdd aer gwaethaf ym Mhrydain" hefyd - gan gyfrannu at hyd at 1,400 o farwolaethau cynnar y flwyddyn, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mae'r sefydliad - sy'n aml yn cael ei herio gan ymgyrchwyr o ran mynd i'r afael â llygredd - yn dweud ei bod hi'n amhosib "rheoleiddio ein ffordd allan o'r twll hwn".
Mae wedi galw am weithredu ar draws cymdeithas i alluogi pobl i fyw mewn modd mwy cynaliadwy.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd canfyddiadau'r adroddiad "yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad ein polisi adnoddau naturiol yn y dyfodol yng Nghymru".
Methu ar y pedwar prif amcan
Mae'n ddyletswydd gyfreithiol ar CNC i gyhoeddi adroddiad bob pum mlynedd ar gyflwr adnoddau naturiol Cymru.
Mae'r fersiwn ddiweddaraf yn cynnwys dros 800 o dudalennau, gan edrych mewn manylder ar feysydd fel ansawdd aer, dŵr, iechyd y pridd, gwytnwch ecosystemau a mynediad pobl i lefydd gwyrdd.
Mae Cymru'n parhau i fethu ar bob un o bedwar prif amcan yr asesiad, sy'n canolbwyntio ar sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei reoli'n gynaliadwy er lles pobl a bywyd gwyllt.
Ymysg y pryderon pennaf mae cyflwr afonydd, nentydd a llynnoedd - gyda gwytnwch ecosystemau dŵr croyw heb wella ers yr adroddiad diwethaf yn 2020.
Mae disgwyl i eog ddiflannu'n llwyr o rai afonydd yng Nghymru erbyn 2030, gyda dim ond 40% o afonydd y wlad yn cael eu hystyried mewn cyflwr da.

Y disgwyl yw y bydd mwy na 350,000 o dai a busnesau yn wynebu perygl llifogydd erbyn 2100
Mae glaswelltir lled-naturiol yn dal i gael ei golli, er ei fod yn cael ei ystyried fel cynefin i'w flaenoriaethu ac yn hanfodol ar gyfer pob math o blanhigion, ffwng, pryfed a bywyd gwyllt.
Yn y môr, roedd oddeutu hanner o'r rhywogaethau a'r cynefinoedd a gafodd eu hasesu mewn ardaloedd cadwraeth arbennig mewn cyflwr gwael - sefyllfa sydd wedi rhoi stop am y tro ar waith adeiladu ar hyd yr arfordir mewn rhai ardaloedd.
Mae'r adroddiad yn rhoi'r bai ar lygredd a defnydd anghynaladwy o dir, gan ddweud bod newid hinsawdd yn dwysau'r pwysau ar yr amgylchedd.

Mae'n ddyletswydd gyfreithiol ar CNC i gyhoeddi adroddiad pob pum mlynedd ar gyflwr adnoddau naturiol Cymru
Mae disgwyl i lefel y môr gynyddu yng Nghymru hyd at fetr erbyn y flwyddyn 2100, ar y cyd â stormydd mwy cyson a chryf, tra bydd mwy na 350,000 o dai a busnesau yn wynebu perygl llifogydd.
Yn ystod cyfnodau hir o dywydd sych, gallai 70% o boblogaeth Cymru wynebu prinder dŵr erbyn 2050, yn ôl yn yr adroddiad.
Yn y cyfamser, mae trefi a dinasoedd yn ei chael hi'n anodd ymdopi yn barod, gyda'r risg cynyddol o straen gwres a llifogydd ac ardaloedd incwm isel yn cael eu taro waethaf yn rhy aml.
"Mae angen mwy o goed stryd, gerddi glaw a seilwaith gwyrdd arall arnom i gadw'r lleoedd lle rydym yn byw yn addas i fyw ynddynt yn wyneb llygredd a newid hinsawdd," meddai'r adroddiad.
Er bod 'na rai gwelliannau wedi bod, mae Cymru'n parhau i gael problemau ag ansawdd aer hefyd, gyda lle i gredu bod hyn yn costio £1bn y flwyddyn o ran dyddiau gwaith wedi'u colli a gwariant ar ofal iechyd.

Dylai'r amgylchedd fod "wrth galon bob penderfyniad", meddai CNC
Drwy'r adroddiad, mae CNC yn rhybuddio am fylchau data a'r angen am fwy o fonitro, gan godi pryder y gallai'r darlun o ran yr amgylchedd fod hyd yn oed yn waeth na'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio.
Mae diffyg monitro effeithiol yn feirniadaeth gyson o'r sefydliad gan ymgyrchwyr, ac yn fwyaf diweddar gan Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru, yr Athro Lynda Warren.
Mewn adroddiad fis diwethaf dywedodd bod blynyddoedd yn mynd heibio heb asesiad lawn o rai o safleoedd mwyaf gwerthfawr Cymru ar gyfer bywyd gwyllt, a bod cyflwr nifer o'u nodweddion yn "anhysbys".
Daw yn dilyn rhybudd gan Archwilio Cymru ym mis Tachwedd bod "cyfyngiadau ar gapasiti staff, bylchau mewn data allweddol, a systemau digidol tameidiog" yn dal CNC yn ôl rhag y gwaith o ehangu a chysylltu safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
'Dangos y gwir yn blaen i ni'
Mae CNC yn cyfeirio at ymdrechion i adfer mewndiroedd, taclo llygredd o hen lofeydd metel, cynyddu cyfraddau ailgylchu a diwygio cymorthdaliadau amaeth yng Nghymru fel enghreifftiau o waith da.
Ond mae canlyniadau pryderus eu hadroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol y wlad yn "dangos y gwir yn blaen i ni" ac fe ddylai olygu bod yr amgylchedd yn cael ei roi "wrth galon bob penderfyniad, bob polisi a phob buddsoddiad y mae Cymru yn ei wneud".
Bron i 3,000 o rywogaethau mewn perygl yng Nghymru
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2025
Galw am fwy o fuddsoddiad i ddefnyddio natur i atal llifogydd
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2025
Rhybudd bod llygredd o afonydd Cymru yn 'mygu'r môr'
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2025
Mae'n cael ei gyhoeddi gyda misoedd i fynd tan etholiad y Senedd ym mis Mai, ar y cyd ag adroddiad arall - Pontydd i'r Dyfodol, sy'n awgrymu sut y gellid mynd i'r afael â'r heriau.
Dyw'r rhain ddim yn "atebion cyflym", ond yn golygu "ail-ddylunio'r systemau sy'n siapio ein bywydau", o ynni a bwyd i wresogi a thrafnidiaeth.
'Ni fydd newidiadau bach yn ddigon'
Dyw tystiolaeth o ddifrod amgylchedd ddim bellach "yn haniaethol, yn dechnegol nac yn bell i ffwrdd", meddai cadeirydd CNC Neil Sachdev.
"Mae'r dystiolaeth i'w gweld ar stepen ein drws: cartrefi dan ddŵr llifogydd, afonydd llygredig, priddoedd sy'n methu, bywyd gwyllt sy'n dirywio, biliau ynni anfforddiadwy, costau bwyd sy'n cynyddu o hyd a chymunedau sy'n wynebu mwy a mwy o risg ac ansicrwydd.
"Gadewch i ni fod yn hollol glir: ni fydd newidiadau bach, ychydig ar y tro, yn ddigon.
"Ni allwn reoleiddio ein ffordd allan o'r twll hwn. Ni wnaiff ailgylchu yn unig ein hachub."

Dywedodd Derek Walker fod adfer natur bellach "yn llythrennol yn fater o fyw neu farw"
Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, fod adfer natur bellach "yn llythrennol yn fater o fyw neu farw ac mae gan bawb ei ran i'w chwarae".
Mae'r adroddiad yn "ddeunydd darllen hanfodol i CNC ei hun, ond hefyd i economegwyr, cynllunwyr ariannol, rheolwyr tir, gweithwyr iechyd proffesiynol, gweinidogion, a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau", meddai.
"Mae'r ysgogiadau cryfaf ar gyfer newid i'w cael o fewn y penderfyniadau a wnawn ar draws meysydd polisi cyhoeddus, buddsoddi a chyflawni, nid yn unig o fewn y sector amgylcheddol."

"Mae amddiffyn a gwella natur yn hanfodol i bobl heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol," yn ôl Huw Irranca-Davies
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, sydd hefyd â chyfrifoldeb dros newid hinsawdd, wedi diolch i CNC am yr adroddiad "sy'n rhoi asesiad cadarn i ni o'r heriau sy'n wynebu ein hamgylchedd naturiol".
"Bydd ei ganfyddiadau yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad ein polisi adnoddau naturiol yn y dyfodol yng Nghymru.
"Mae amddiffyn a gwella natur yn hanfodol i bobl heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol.
"Mae pobl Cymru wedi gwneud cynnydd gwirioneddol, ond mae angen i ni fynd ymhellach eto.
"Mae'r adroddiad hwn yn nodi sut y gallwn ni gydweithio i ymateb, gan gryfhau camau gweithredu i adfer natur, mynd i'r afael â llygredd a meithrin gwydnwch yn erbyn newid hinsawdd."
Ychwanegodd Mr Irranca-Davies y byddai'r llywodraeth yn "arwain y gwaith hwn ochr yn ochr â phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus, busnesau a chymunedau i droi tystiolaeth yn gamau gweithredu ystyrlon".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr

- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd13 Ionawr
