Oes modd defnyddio dŵr o byllau glo i wresogi ysgolion yn y gogledd?

Mi fydd cynllun sy'n awgrymu defnyddio dŵr o byllau glo i gynhesu ysgolion yn Sir y Fflint yn cael ei drafod ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Fe allai dŵr o hen byllau glo gael ei ddefnyddio i wresogi ysgolion yn Sir y Fflint, yn ôl adroddiad gan yr Awdurdod Glo.
Mae'r adroddiad yn awgrymu tynnu dŵr o'r pyllau glo sydd ddim yn cael eu defnyddio rhagor, ei gywasgu er mwyn cynyddu'r tymheredd a'i ddefnyddio i wresogi adeiladau.
Mi fydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a'r Economi Cyngor Sir y Fflint yn trafod yr adroddiad ddydd Mawrth ond mae swyddogion y cyngor yn galw am fwy o ymchwil.
Mae'r Wyddgrug a Bwcle ymhlith yr ardaloedd all fod yn gymwys, yn ôl yr adroddiad, ac mae Ysgol Maes Garmon, Ysgol Glanrafon ac Ysgol Bryn Coch o fewn un clwstwr posibl.
Y trychineb pwll glo yn 1875 a newidiodd y diwydiant
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2025
Y trychineb pwll glo yn 1875 a newidiodd y diwydiant
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2025
Torri biliau gyda dŵr o hen byllau glo?
- Cyhoeddwyd11 Medi 2024
Byddai'r system yn opsiwn carbon isel yn lle defnyddio boeleri nwy, meddai'r adroddiad, ac er y byddai costau o gynnal a chadw'r pympiau gwres yn uwch, y gobaith ydy y gallai'r cynllun arbed arian yn yr hirdymor.
Mae'r adroddiad yn nodi dwy ardal all fod yn gymwys - ac un opsiwn ychydig yn fwy cymhleth.
Y safle mwyaf addawol, medde nhw, ydy Ysgol Uwchradd Hawarden.
Mi fyddai modd cael pibellau dŵr yn mynd o'r pwll glo i lawr at dwnnel draenio sy'n arwain dŵr o dan dir preifat sy'n eiddo i Ystad Hawarden.
Ond mi fydd yn anodd gweithredu'r cynllun yma gan y bydd angen i bibell 380m o hyd fynd trwy goetir rhestredig gradd II er mwyn cyrraedd yr ysgol.
Mae clwstwr o ysgolion posibl hefyd wedi cael eu nodi yn ardal Bwcle a'r Wyddgrug.
Ond yn ôl swyddogion y cyngor: "Fel technoleg newydd, mae'n anodd asesu llawer o'r risgiau, gan gynnwys pa mor fforddiadwy fydd gweithredu a chynnal a chadw'r cynllun yn yr hirdymor."
Fe aethon nhw ymlaen i ddweud eu bod wedi cynghori aelodau bod angen mwy o ymchwil i effeithlonrwydd y cynllun cyn eu bod yn ystyried gweithredu'r system.
Mi fydd y cynllun yn cael ei drafod mewn cyfarfod ddydd Mawrth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.