Y trychineb pwll glo yn 1875 a newidiodd y diwydiant

- Cyhoeddwyd
Ychydig dros ganrif yn ôl roedd tua 620 o byllau glo yng Nghymru, ac amcangyfrir bod tua 3,000 o byllau wedi bod ar wahanol adegau.
Yn sgil hyn roedd nifer fawr o ddamweiniau dros y blynyddoedd, ym mhyllau cymoedd y de-ddwyrain, y de-orllewin ac yn y gogledd-ddwyrain.
Roedd ffrwydradau ym Mhwll Glo Senghenydd yn 1901 ac yn 1913, gyda'r ail yn lladd 439. Lladdwyd 268 ym Mhwll Glo yn Abercarn yn 1878 a lladdwyd 266 yng Ngresffordd yn 1934.
Mae sawl enghraifft arall o ddamweiniau yng Nghymru, gyda channoedd ar gannoedd o farwolaethau.
Ond mae 6 Rhagfyr eleni'n nodi 150 mlynedd ers trychineb Pwll Glo'r Llan - yr unig drychineb pwll glo yn ardal Caerdydd.
Er bod y nifer y bobl fu farw (16) yn gymharol isel i'w gymharu â thrychinebau eraill, roedd goblygiadau'r ddamwain yn bellgyrhaeddol.
Bore oer gaeafol
Roedd glo wedi ei gloddio yma ers y 17eg ganrif, ond yn 1872 yr agorwyd fel Glofa'r Llan, gan gyflogi 300 o weithwyr.
Fel pob pwll glo yn y cyfnod roedd yr amodau'n eithriadol o heriol, ac roedd hi'n eithriadol o oer ar fore Llun, 6 Rhagfyr, 1875, gyda llawer o eira'n disgyn dros yr wythnos flaenorol.
Roedd tua 150 o ddynion a bechgyn lawr yn y pwll am 9:30 y bore hwnnw, pan ddigwyddodd y ffrwydrad yn ddyfn o dan ddaear.
Atseiniodd y ffrwydrad dros y cwm ac yn fuan iawn daeth torf i fynedfa'r pwll. Penderfynodd criw dewr o bobl i fynd lawr dan ddaear i geisio helpu'r glowyr, gan gynnwys dau ddoctor.

Roedd Pwll Glo'r Llan yn ymestyn i waelodion ac ochrau Mynydd y Garth ger Caerdydd
Daeth hi i'r amlwg bod 12 wedi eu lladd, a chafodd y dynion ag anafiadau (rhai gyda llosgiadau difrifol) eu cludo i'r wyneb. Rhwng pedair a phum awr wedi'r ddamwain llwyddodd y gwirfoddolwyr gael pawb allan o'r ddaear, y meirw a'r rhai ag anafiadau.
Er mai 12 wnaeth farw'n syth yn y ddamwain, bu farw pedwar arall o'u hanafiadau yn yr wythnos a ddilynodd.
Ymysg y meirw roedd John Thomas, 18 oed, Thomas Llewellyn a John Pritchard a oedd yn 16, David Reece a oedd yn 14, a Moses Llewellyn a oedd ond yn 12 mlwydd oed.
O ystyried bod 150 o ddynion yn gweithio yn y pwll glo pan ddigwyddodd y ddamwain, fe all pethau fod wedi bod yn waeth gyda mwy o farwolaethau. Ond wedi dweud hyn, yn dilyn y drychineb roedd naw teulu heb eu tad.

Cofeb i'r gweithwyr a fu farw yn y drychineb
Yn yr oes yma doedd dim hawl am unrhyw fath o iawndal i'r teulu a adwyd ar ôl, ac roedd rhaid i rai o'r teuluoedd adael eu tai oedd wedi eu rhentu, gan wynebu tlodi a oedd hyd yn oed yn waeth na'r amodau cyn y ddamwain.
Yn y cwest a ddilynodd daeth hi i'r amlwg bod nwy wedi mynd mewn i'r pwll glo o weithfeydd cyfagos, a gall fod llwch glo trwchus wedi ei gynnau. Doedd y twneli heb eu atgywiro ers degawdau ac roedd yna ddiffyg aer yno, gyda phocedi o nwy gwenwynig yn y twneli.
Mewn dyfarniad dadleuol, penderfynodd rheithgor y cwest fod y rheswm tu ôl i'r ddamwain yn 'amhendant', ond bod angen gwneud gwelliannau - roedd honiadau bod rhai aelodau o'r rheithgor yn cael eu cyflogi gan y cwmni mwyngloddio.
Newidiadau i'r diwydiant
Yn dilyn y drychineb daeth cyfres o newidiadau yn y ffyrdd yr oedd pyllau glo'n gweithredu, gan effeithio ar y diwydiant yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Fe wnaeth y peiriannydd William Galloway ddarganfod mai ail ffrwydrad achosodd y rhan fwyaf o'r niwed, ac ei fod wedi digwydd oherwydd bod llwch glo o'r waliau a'r llawr wedi ei daflu i'r awyr yn dilyn y ffrwydrad cyntaf.
O ganlyniad i'r ddamwain ym Mhwll Glo'r Llan daeth sicrhau bod y pyllau glo yn wlypach yn gyfraith gwlad, gyda'r bwriad o gadw'r awyr yn fwy llaith a stopio llwch rhag cynnau mewn tan.
Roedd rhaid hefyd gwella'r awyr drwy awyriad (ventilation), ac wedi'r ddamwain roedd mwy o bwyslais ar y llif awyr o fewn y gweithfeydd.

Map o'r pwll glo gafodd ei ddylunio gan Mr W. Galloway wrth ymchwilio i achosion y ddamwain
Cyfrannodd y trychineb at newid agwedd ynglŷn â phlant a gwragedd yn gweithio mewn pyllau glo.
Roedd newidiadau yn 1887 pan pasiwyd deddf yn datgan bod rhaid i blant fod yn 12 mlwydd oed neu'n hŷn i weithio mewn pwll glo, ac roedd rheolau llymach ynglŷn â'r oriau roeddent yn cael gweithio uwchben y ddaear hefyd.
Yn 1900 daeth deddf yn atal llafur plant dan ddaear, ac fe godwyd yr oed i 13 oed, ac un arall yn 1911 yn codi'r oed i 14.
Roedd y newidiadau yma'n cydfynd gyda chodi'r oed a oedd plant yn cael gadael yr ysgol - i 12 yn 1899, ac yna i 14 yn 1936.
Cafodd ymchwil William Galloway i'r ddamwain gymaint o ddylanwad yn y maes nes iddo gael ei enwi fel yr Athro cyntaf ym maes astudiaeth diogelwch pyllau glo.
Mae damwain Pwll y Llan yn cael ei ystyried fel trobwynt yn hanes y diwydiant glo yng Nghymru, Prydain a thu hwnt. Er ddaeth cyfnod o alar a cholled i gymuned Gwaelod-y-garth, mae achos i ymfalchïo yn y newidiadau a ddilynodd yn sgil y ddamwain.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2024

- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2022

- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2023
