Hanes coll merched y pyllau glo

- Cyhoeddwyd
Er ein bod yn gwybod llawer am hanes glo a glowyr yng Nghymru, anaml ydyn ni'n clywed am rôl merched yn y pyllau.
Roedd yna ferched a oedd yn gwneud gwaith corfforol caled iawn o dan amodau anodd, ond yn derbyn llai o gyflog na'r dynion.
Norena Shopland - hanesydd sy'n arbenigo mewn hanes cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd - yw awdur llyfr newydd Women in Welsh Coal Mining: Tip Girls at Work in a Men's World, sydd yn ceisio rhoi llais i ferched anghofiedig y pyllau glo:
Merched a phlant y pyllau
Os ewch chi i ymweld ag amgueddfa lofaol Big Pit, ac amgueddfeydd tebyg eraill, pur anaml y gwelwch chi sôn am, neu weld lluniau o ferched.
Beth welwch chi yw ambell i gyfeiriad at grwpiau o ferched yn gweithio ar yr aelwyd, y gwragedd yn paratoi bath tun ar gyfer y dynion, neu’n sefyllian mewn grwpiau o amgylch ymyl y pwll yn aros i weld pa ddynion oedd wedi goroesi damwain o dan y ddaear.
Weithiau, bydd yna luniau o ferched ifanc cyn 1842 pan oedden nhw, a'r bechgyn, yn llusgo tramiau glo trwm gerfydd cadwyni a fyddai’n achosi iddyn nhw waedu, ac amharu ar dwf eu cyrff bach.
Drwy’r coridorau hir, tywyll, byddan nhw’n tynnu neu wthio’r tramiau tuag at siafft y pwll, neu byddai plant bach yn eistedd ger drysau, yn eu hagor neu eu cau wrth i’r tramiau ddod heibio, yn aml yn syrthio i gysgu, wrth i’w canhwyllau ddiffodd a'r llygod mawr fwyta eu bwyd prin.

Merch yn tynnu cert llawn glo o dan y ddaear
Yn 1833, gwellodd safonau gweithio plant mewn ffatrïoedd er gwell, ond cymerodd hi ffrwydriad Huskar Pit yn ne Swydd Efrog yn 1838 i bethau newid.
Boddodd 26 o blant, o saith i 17 oed, a daeth y dyn a oedd yn arwain yr ymdrech achub o hyd i gorff ei ferch wyth oed, Catherine.
Roedd y cyhoedd wedi eu brawychu, a'r Frenhines Victoria wedi ei syfrdanu, gan orchymyn i’w phrif weinidog, yr Arglwydd Melbourne, gynnal ymchwiliad.
Roedd yr ymchwilwyr wedi siomi i ddod o hyd i nifer o ferched hŷn yn gweithio mewn cyflyrau gwarthus a diraddol, felly cafodd yr ymchwiliad ei ymestyn i gynnwys menywod, er gwaetha’r teitl, Children’s Employment (Mines) 1842 Report.
Canlyniad yr adroddiad oedd fod bechgyn o dan 10 oed a merched i gyd wedi eu gwahardd rhag gweithio o dan y ddaear.
Gwaith anodd a budr
Yn anffodus, ni chymerodd hyn i ystyriaeth pa mor brin oedd swyddi i ferched mewn ardaloedd glofaol, ac fe gafodd y gwaharddiad yma ei anwybyddu, nid yn unig gan y merched oedd angen parhau i ennill arian, ond hefyd gan y cyflogwyr, a oedd yn talu ffracsiwn o’r hyn roedd y dynion yn cael ei gael.
Anaml y byddai arolygwyr yn dod i’r pyllau i sicrhau eu bod yn dilyn y gyfraith, ac os oedd un yn ymweld, byddai’r merched yn gwisgo fel dynion ac yn parhau i weithio.
Yn y diwedd, fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o ferched yn gweithio ar ymyl y pwll, ble byddai’r glo yn dod i fyny’r siafft, a byddan nhw’n tynnu a gwthio’r tramiau – oedd yn aml yn pwyso gymaint â char bach – at feltiau er mwyn sortio a thorri’r glo yn ddarnau, ei olchi (roedd cleientiaid yn cwyno os oedd gormod o lwch yn y sachau) a’i becynnu.
Roedd y gwaith yn anodd a budr, ac roedd y merched yn llwch du drostynt, gyda’u dillad yn gymaint o drwch fel nad oedd modd eu golchi; yn hytrach, roedden nhw’n curo eu dillad yn lân.

Dwy o ferched y pyllau glo, yn barod i weithio
Ffasiwn y pyllau glo
Er yr amodau gweithio caled, roedd yn well gan y merched y gwaith yma, yn lle gwaith fel morwyn, neu yn y caeau neu ffatrïoedd – nid fod yna nifer o gyfleoedd yn ardaloedd de Cymru ar gyfer gwaith felly, ac roedd gwaith fferm yn tueddu i fod yn dymhorol.
Ym Merthyr, roedd hi’n well gan Charlotte Chiles, 19 oed, i drin glo ym mhwll glo Graig am 40 swllt y mis, yn hytrach na’i gwaith blaenorol, fel morwyn yng nghegin yr Arglwydd Kensington ger Caerfyrddin am 60 neu 70 swllt y flwyddyn, gyda llety.
Cwyn y merched oedd fod gweision yn gorfod byw yn y tai, ac ar alw fore a nos. Yn y pyllau, roedd ganddyn nhw’n aml dair neu bedair awr bob noswaith i wneud fel y mynnon nhw.
Roedd ganddyn nhw hefyd fwy o ryddid o ran eu dillad, ac er eu bod nhw i gyd yn gwisgo’r un fath o ffrog, bydden nhw’n ychwanegu eu twtsh unigryw eu hunain, fel sgarffiau pen lliwgar, siolau ac yn arbennig, hetiau. Roedd merched Cymreig yn adnabyddus am eu hetiau o blu llachar, rhubannau, botymau, a byddai awduron a ddaw i’w hastudio yn aml yn gwneud sylw amdanyn nhw.
Ysgrifennodd newyddiadurwr yn y cylchgrawn Good Words yn 1869 am:
"...pinafored girls – very dirty, very bold-eyed, and yet squalidly picturesque, with their cheap ear-rings and their coloured kerchiefs, now and then giving a hint of a concealed mild chignon. They ply their shovels like navvies, and lift blocks of stone and coal that make your arms ache as you fancy yourself lifting them … Perhaps the most painful features in the South Welsh mineral districts are the hardness of the work which the girls and women have to perform, and its unsexing nature. It is strange to see them so merry over it."

Rhai o ferched y pyllau glo yn eu hetiau addurnedig
Beirniadaeth cymdeithas
Doedd cymdeithas, fodd bynnag, ddim yn eu cymeradwyo. Roedd sylwebwyr cymdeithasol – fel rheiny sydd ar y cyfryngau cymdeithasol heddiw – yn beirniadu'r merched, gan honni fod eu dillad budr, a'r ffaith eu bod yn rhegi fel dynion ac yn ysmygu, yn arwydd eu bod yn anfoesol ac yn anaddas i fod yn wragedd a mamau.
Am dros gan mlynedd, brwydrodd y merched i fynnu bod eu henw da yn cael ei arddel, ac er fod nifer o ymchwiliadau yn datgan nad oedden nhw’n fwy anfoesol na gweddill cymdeithas, ni roddodd hynny stop ar y beirniadu.
Wrth i'r defnydd o beiriannau gynyddu, lleihaodd nifer y merched, er fod rhai wedi parhau i weithio tan 1966.
Bellach, o dan y ddeddf cydraddoldeb gweithio, mae gan ferched yr hawl i weithio o dan y ddaear, ond prin yw’r rhai sy’n gwneud hynny.
Ond gobeithio fydd fy llyfr Women in Welsh Coal Mining: Tip Girls at Work in a Men’s World yn sicrhau fod mwy o’r merched rhyfeddol yma yn cael eu cynnwys yn yr arddangosfeydd mewn amgueddfeydd sy’n adrodd hanes glo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2019

- Cyhoeddwyd2 Mai 2021

- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2023
