Daniel Barrett: Y Cymro o Seland Newydd sydd wedi ennill dau Oscar

- Cyhoeddwyd
Wyddoch chi fod un o enillwyr yn seremoni'r Oscars nos Sul yn Gymro?
Roedd Daniel Barrett yn un o'r tîm a enillodd Oscar am yr Effeithiau Gweledol Gorau yn y ffilm Avatar: Fire and Ash.
Ac er ei fod yn byw yn Seland Newydd ers degawdau, cafodd ei eni yng Nghaerdydd, ac mae dal yn arddel ei Gymreictod, meddai wrth BBC Cymru Fyw.
"Ry'n ni'n lwcus iawn i gael bar yn Wellington o'r enw Welsh Dragon. Mae'n sefyll ar ynys yng nghanol ffordd mewn adeilad sy'n hen floc toiled (mae'n well na mae'n swnio!).
"Mae cael cwrw yna yn gwneud i mi deimlo cysylltiad gyda Chymru."

Daniel Barrett, Eric Saindon, Richard Baneham a Joe Letteri gyda'u gwobrau
Cafodd Daniel ei eni yn ardal Rhiwbeina'r brifddinas, i Richard a Jan Barrett; Richard yn dod o ardal Login yn Sir Gâr yn wreiddiol a Jan o Gas-gwent.
Mynd draw i Christchurch, Seland Newydd am bum mlynedd wnaeth Richard a Jan a'u dau fab, Sam a Daniel, a hynny ddiwedd y 70au, pan oedd Dan, y mab ieuengaf, yn ddwy oed.
Ond mae'r teulu dal yno bron i hanner canrif yn ddiweddarach!
Mae Dianne Hughes yn ffrind i'r teulu ers eu cyfnod yn byw yng Nghaerdydd, ac yn parhau mewn cysylltiad â Jan, eglurai.
"Roedd mam Richard yn byw yn Aberteifi, a rhieni Jan yng Nghas-gwent, felly oedden nhw'n dod draw eitha aml, a 'dyn ni wedi cadw cysylltiad â'r teulu. Mae Dan wedi sefyll 'da fi sawl gwaith.
"Hales i e-bost yn syth at Jan pan weles i fod e wedi ennill!"

Dan a'i chwaer Hannah ar ymweliad â Chymru, tua 1985
Dyma'r ail Oscar i Dan a'i gydweithwyr Joe Letteri, Richard Baneham ac Eric Saindon. Enillodd y pedwarawd yr un wobr yn 2023 hefyd, a hynny am eu gwaith ar Avatar: The Way of Water.
Mae wedi ei enwebu am Oscar deirgwaith dros y blynyddoedd am ei waith fel goruchwyliwr animeiddio ar ffilmiau'r gyfres Planet of the Apes, ac mae hefyd wedi gweithio ar ffilmiau mawr eraill fel The Hunger Games: Catching Fire a Man of Steel.

Dan gyda'i Oscar cyntaf yn 2023
Ynghyd â'r ddau Oscar, mae'r criw hefyd wedi ennill dwy wobr BAFTA yn 2023 a 2026.
Yn anffodus, chafodd Dan ddim mo'r cyfle i ddod draw i Gymru pan oedd yn Llundain ar gyfer seremoni'r BAFTAs ym mis Chwefror, meddai.
"Y tro diwetha' o'n i yno oedd yn 2010, yn ymweld â theulu yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, Cas-gwent ac Aberteifi."
Ag yntau ddim yn gallu ymweld â'r hen wlad mor aml â hynny'r dyddiau yma, beth mae'n hiraethu amdano tybed?
"Brains SA a phice-ar-y-maen! Mae gen i atgofion melys iawn o fwyta pice-ar-y-maen Anti Megan draw yn Login. Doedd hi ddim yn hoffi cael bwyd dros ben felly roedden ni'n bwyta lot!
"Rhaid i mi gyfadde' fod fy atgofion o yfed Brains SA ychydig mwy cymylog, ond dwi'n gwybod mod i wedi cael llawer o hwyl!"

Dan gyda'i gyfnither Gwenllian yn ei llofft ym Mhrifysgol Abertawe, ddechrau'r 90au
A'r cwestiwn pwysicaf i Kiwi Cymreig; pwy mae o'n ei gefnogi yn y rygbi? Mae'r ateb yn hawdd...
"Dwi dal yn cefnogi Cymru yn y rygbi! Ac roedd fy nghyfnither, Caryl James, yn arfer chwarae dros Gymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2025

- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2019

- Cyhoeddwyd28 Ionawr
