Tîm newydd yn mwynhau 'her' Y Talwrn

Criw o ffrindiau sy'n mwynhau barddoni a sydd ar wasgar ar draws y DU yw aelodau O Bob Cwr
- Cyhoeddwyd
Dros y penwythnos fe wnaeth tîm newydd sbon gystadlu ar Y Talwrn a'i ornest gyntaf oedd yn erbyn tîm o gyn bencampwyr a phrifeirdd.
Nanw Maelor yw capten tîm O Bob Cwr, sy'n cynnwys Celt John, Brennig Davies a Mared Fflur Jones.
Mae enw'r tîm yn adlewyrchiad o'u lleoliad yn ddaearyddol gan fod y criw ifanc bellach ar wasgar ar draws Prydain oherwydd gwahanol swyddi.
Ym mis Ionawr, symudodd Celt i Lundain ar ôl derbyn swydd ym Mhrifysgol City St George's. Mae Brennig yn Y Barri, Mared yng Nghaernarfon a Nanw yn Aberystwyth.
Er mai colli oedd hanes O Bob Cwr, roedd hi'n ornest agos ac roedd y criw newydd yn wynebu tîm Tir Iarll, sef yr aelodau profiadol Mererid Hopwood, Tudur Dylan Jones, Aneirin Karadog, Gwynfor Dafydd ac Emyr Davies.
Dywedodd Mared ar raglen Bore Cothi ar Radio Cymru:
"Erbyn hyn mae hi mor hawdd i griwiau o bob cwr o'r wlad a thu hwnt yn llythrennol ddod at ei gilydd.
"Dwi'n nabod Celt drwy gysylltiadau yn y Brifysgol a Mared a Brennig drwy gysylltiadau Pencerdd efo Llenyddiaeth Cymru a Barddas.
"Ma hwnna wedi bod yn rwydwaith grêt ac yn blatfform i ddechre tîm Talwrn," meddai.

O Bob Cwr gyda'r gwrthwynebwyr Tir Iarll a'r Meuryn, Ceri Wyn Jones
Roedd Nanw a'i thîm yn edrych ymlaen i gael wynebu Tir Iarll er iddyn nhw fod ychydig yn bryderus pan glywon nhw am yr ornest yn gyntaf.
"Mae o wedi bod yn brofiad hyfryd, o gael yr adborth 'nôl gan Ceri. Er mai cystadleuaeth ydi hi, mae teulu'r Talwrn wedi bod yn wych.
"Gafon ni tua pythefnos i baratoi'r tasgau sy'n gallu bod reit heriol.
"Un o'r heriau mwyaf i feirdd neu rhywun sy'n sgwennu yn greadigol yw ffeindio'r amser yna i sgwennu pethe ac mae cael deadline yn hwb mawr," meddai.
"Mae Tir Iarll yn un o dimoedd mwyaf profiadol a llwyddiannus y Talwrn.
"Roedd o'n braf cael wynebu Mererid Hopwood.
"Tan y llynedd roedd hi'n diwtor arna' i yn y Brifysgol a dyna sy'n dda am y Talwrn, mae'n rhoi cyfle i chi wynebu beirdd gwych a bod yng nghwmni beirdd fel 'na." meddai.

Llwyddodd Nanw i gael 10 marc am ei Englyn
I goroni noson wych o farddoni, fe gafodd Nanw 10 marc gan, Y Meuryn Ceri Wyn Jones am yr englyn Gêm;
Scrabble
Drwy flociau pren llythrennau, – dwi'n estyn
ystyr o'r pentyrrau,
ddarn 'rôl darn, mewn gêm rhwng dau,
i herio drwy greu geiriau.
Yn ystod y gyfres bydd rhagor o dimau newydd yn cystadlu ar Y Talwrn ac mae modd gwrando ar yr holl ornestau drwy glicio yma.
Hefyd o ddiddordeb:
Pum munud gyda Bardd y Mis: Robin Farrar
- Cyhoeddwyd21 Chwefror
Ateb y Galw: Nanw Maelor
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2025
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.