Eisteddfod 2026: Cyhoeddi artistiaid Maes B

- Cyhoeddwyd
Mae Eden, Bwncath, Pys Melyn a Breichiau Hir ymysg rhai o brif artistiaid Maes B eleni.
Yn dilyn datblygiadau newydd ym Maes B Wrecsam 2025, mae'r trefnwyr yn dweud y bydd mwy o gyhoeddiadau i ddod dros yr wythnosau nesaf, "gan gynnwys llwyfannau a phrofiadau newydd".
Yn ogystal ag enwau cyfarwydd fel Candelas, sy'n paratoi i ryddhau albwm newydd, ac Eden, fydd yn gwneud un o'u hunig berfformiadau eleni ym Maes B, bydd yr ŵyl hefyd yn croesawu nifer o artistiaid sy'n ymddangos yno am y tro cyntaf.
Yn eu plith mae Lafant, Martha Elen, Betsan, Yr Hunanol a Tokomololo.
Bydd Maes B yn digwydd rhwng 5–8 Awst fel rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol ar gyrion Aberteifi.
Mae'r trefnwyr yn dweud bod gwerthiant cynnar tocynnau wedi bod yn dda, a bod rhagor o wybodaeth ar wefan Maes B.
Bydd manylion pellach am gigs unigol yn cael eu cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol yr ŵyl dros yr wythnosau nesaf.
Y rhestr llawn o artistiaid sydd wedi eu cyhoeddi yw:
Alffa
Betsan
Breichiau Hir
Buddug
Bwncath
Candelas
Cordia
Dewin
Dros Dro
Eden
Fleur de Lys
Lafant
Los Blancos
Martha Elen
Nogood Boyo
Papur Wal
Pys Melyn
Tew Tew Tennau
Tokomololo
Tonnau
Yr Hunanol
Wigwam
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd11 Awst 2025

- Cyhoeddwyd8 Awst 2024

- Cyhoeddwyd10 Awst 2024
