Dedfrydu dynes o Wynedd am dwyll triniaethau cosmetig

Adran Safonau Masnach Cyngor Ynys Môn oedd wedi erlyn Carol Edwards
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Wynedd wedi cael ei dedfrydu i orchymyn cymunedol ar ôl darparu cynnyrch cosmetig sydd heb ei drwyddedu.
Roedd Carol Edwards, 38 o ardal Bethesda, wedi pledio'n euog i dwyll trwy gam-gynrychiolaeth yn erbyn dwy ddynes yn 2023.
Roedd y ddwy o dan yr argraff eu bod yn derbyn triniaeth Botox, ond yn hytrach roedd hi'n defnyddio cynnyrch rhatach sydd heb ei drwyddedu - sef Fraxin.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon nad oedd unrhyw fodd y byddai'r cleientiaid a oedd wedi ymweld â busnes triniaeth harddwch a chosmetig Edwards ym Mhorthaethwy, yn gallu gwybod nad oeddent am dderbyn Botox.
Nid yw sgil effeithiau Fraxin wedi eu profi hyd yma.
Menyw o Wynedd yn cyfaddef twyll triniaethau cosmetig
- Cyhoeddwyd12 Ionawr
Clywodd y gwrandawiad nad oedd yr un o'r ddwy ddynes wedi bod yn fodlon gyda chanlyniadau'r driniaeth, ac roedd un ohonyn nhw wedi dioddef gyda chur pen am beth amser wedi hynny.
Dywedodd Lee Reynolds, ar ran yr erlyniad, na fyddai'r un ohonyn nhw wedi cytuno i dderbyn y driniaeth pe bydden nhw'n gwybod o flaen llaw nad Botox oedd y cynnyrch, ac nad ydy hi'n gyfreithiol i werthu Fraxin yn y DU.
Ar ran Edwards, dywedodd Amber Wong ei bod yn edifar ei gweithredoedd ac wedi pledio'n euog ar y cyfle cyntaf.
Cyfeiriodd hefyd at "ddiffyg profiad" Edwards, a bod yr achos wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl y fam i dri, sydd hefyd yn gofalu am ei thad.
Adran Safonau Masnach Cyngor Ynys Môn oedd wedi erlyn Edwards.
Wrth ei dedfrydu dywedodd y barnwr Timothy Petts y "byddai pethau wedi gallu mynd o'u lle yn sylweddol".
Yn ogystal â derbyn gorchymyn cymunedol o 12 mis, bydd Edwards hefyd yn gorfod talu dirwy o £500 ac iawndal o £500 yr un i'r ddwy ddynes.
'Teimlo'n hyll ac yn dwp'
Mae un dioddefwr a gafodd driniaeth gan Edwards, sydd am aros yn ddienw, wedi dweud wrth y BBC fod y profiad "wedi gwneud i mi deimlo'n hyll" ac "yn dwp".
Esboniodd ei bod wedi trefnu i gael triniaeth ar ôl i Edwards ei pherswadio i gael Botox.
"Pan gyrhaeddais i ar y dydd Gwener yna - o'n i ar fy mhen fy hun," meddai.
"Yn teimlo embaras bo' fi heb wneud unrhyw ymchwil i Carol... nes i barhau efo'r driniaeth."
Ar ôl pythefnos a dim newid fe aeth hi yn ôl a chael "top up" ond eto, doedd dim newid.
"Nes i gysylltu â Carol unwaith eto i roi gwybod iddi fod y top up ddim wedi gweithio.
"Roedd hi'n cynnig rhoi mwy ac mewn mwy o rannau o fy wyneb. Nes i dderbyn achos o'n i'n teimlo'n vulnerable."
"Rhoddodd Carol rywbeth (oedd i fod yn Botox) mewn sawl rhan o fy wyneb ond doedd o ddim wedi gweithio - dim ond mewn rhan o fy ngên lle gallwch chi weld ei effaith o hyd.
"Ro'n i'n ypset, ar ôl cael fy nhwyllo i dalu am gynnyrch do'n i'n amlwg heb ei dderbyn."
Esboniodd ei bod wedi mynd at ymarferydd arall ac wedi cael y driniaeth gywir sydd wedi ei helpu i deimlo'n well am y peth a cheisio symud ymlaen o'r holl brofiad.
Mae'n annog unrhyw un sydd am gael triniaeth i ond defnyddio "uwch-ymarferydd nyrsio sydd â phrofiad o ddefnyddio'r cynnyrch ond hefyd sy'n gwybod sut a ble mae angen y cynnyrch arnoch".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.