Menyw o Wynedd yn cyfaddef twyll triniaethau cosmetig

Carol Ann Edwards yng Nghanolfan Cyfiawnder Caernarfon ar 26 Tachwedd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Carol Edwards yn cael ei dedfrydu ar 26 Chwefror

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw o Wynedd wedi cyfaddef dau gyhuddiad o dwyll yn ymwneud â thriniaethau cosmetig.

Plediodd Carol Edwards, 37 oed, o Lanllechid ger Bethesda, yn euog i dwyll trwy gam-gynrychiolaeth yn erbyn dwy fenyw arall yn 2023.

Roedd y cyhuddiadau'n ymwneud â gwerthu triniaethau cosmetig yr oedd ei chleientiaid yn credu oedd yn driniaeth Botox - pan oedd yn gynnyrch rhatach sydd heb ei drwyddedu.

Roedd y cyhuddiadau mewn cysylltiad â busnes triniaeth harddwch a chosmetig ym Mhorthaethwy ar Ynys Môn.

Adran Safonau Masnach Cyngor Ynys Môn oedd wedi erlyn Edwards.

Cafodd gwrandawiad yn Llys y Goron Caernarfon ei ohirio er mwyn cael adroddiad cyn ei dedfrydu.

Cafodd Carol Edwards ei rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod.

Bydd yn cael ei dedfrydu ar 26 Chwefror.

Pynciau cysylltiedig