Dyn o Lanbedr Pont Steffan wedi marw ar ôl cael ei frathu gan gŵn - cwest

Mae cwest wedi clywed sut y bu farw William John Jones ar ôl cael ei frathu gan gŵn
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn 68 oed o Lanbedr Pont Steffan ar ôl cael ei frathu gan gŵn, mae cwest wedi clywed.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r tŷ ar ôl 17:00 ar ddydd Llun 10 Ionawr, 2022, ble bu farw William John Jones.
Clywodd cwest yn Aberystwyth ddydd Mercher, dros bedair blynedd ers ei farwolaeth, bod William John Jones yn byw gyda'i nith, Gwenfair Benjamin, 51, a'i thri chi tarw (bulldog) pedigri.
Roedd Ms Benjamin yn gofalu am Mr Jones, oedd â syndrom Down.

Clywodd y cwest bod adroddiad patholegol yn dangos bod Mr Jones wedi dioddef 38 o anafiadau i'w gorff
Clywodd y cwest bod Ms Benjamin wedi mynd allan i ymweld â'i phartner am 13:00 ar ddiwrnod y digwyddiad.
Roedd wedi cloi y ddau gi ieuengaf y tu allan, gan eu bod yn "cnoi pethau".
Roedd y trydydd ci, eu mam, wedi aros y tu fewn, ble roedd Mr Jones ar y pryd.
Er yn gyfarwydd â'r cŵn, gan iddo fyw gyda nhw yn y tŷ ers dwy flynedd, dywedodd Ms Benjamin y byddai Mr Jones yn "gwneud ffỳs o'r cŵn" ac yn gwneud iddyn nhw "or-gyffroi".
"Fe fyddai'n dweud wrthyn nhw am stopio yn ei ffordd ei hun, ond doedd e' ddim yn gallu rhoi cyfarwyddyd yn y ffordd yr ydw i, oherwydd nam ar ei leferydd", meddai Ms Benjamin.
Clywodd y cwest ei bod hi'n debygol bod Mr Jones wedi gadael y cŵn i mewn i'r ystafell fyw.
Dywedodd Ms Benjamin bod hyn yn rhywbeth roedd Mr Jones wedi ei wneud yn y gorffennol, ond "nad oedd unrhywbeth wedi digwydd cyn y diwrnod hwnnw".

Cafodd tri chi eu cymryd o'r safle yn ardal Brynhyfryd wedi'r digwyddiad yn 2022
Pan ofynnwyd i Ms Benjamin gan y crwner, Peter Brunton, pam y gallai hyn fod wedi digwydd, dywedodd bod Mr Jones yn gwybod nad oedd i fod i adael y cŵn i mewn i'r tŷ, ond yr "unig beth" y gallai feddwl amdano oedd ei fod yn hoffi mynd nôl hufen iâ, oedd yn cael ei gadw yn y rhewgell yn y cefn.
Fe ddychwelodd Ms Benjamin bedair awr yn ddiweddarach, a darganfod Mr Jones ar lawr yr ystafell fyw.
Galwodd ei phartner, Terry Allan Jones, oedd hefyd yn rhoi tystiolaeth i'r cwest.
Dywedodd ei fod ond wedi adnabod Mr Jones am ychydig fisoedd.
Dywedodd bod y cŵn yn "gyfarwydd â chwmni William, o fod wedi gweld William yng nghwmni'r cŵn yn y gorffennol, yn gwylio teledu, gyda'r tri chi ar y soffa gydag e'".

Dywedodd Gwenfair Benjamin ei bod hi a William John Jones wedi bod fel brawd a chwaer
Clywodd y cwest bod adroddiad patholegol yn dangos 38 o anafiadau i gorff Mr Jones, a gafodd eu hachosi gan y cŵn.
Dywedodd Mr Brunton, gan gydfynd ag adroddiad y patholegydd, bod Mr Jones wedi marw o waedlif ynghlwm ag anafiadau i'w goes.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Richard Taberner wrth y cwest bod adroddiadau yn dangos nad oedd brîd y cŵn yn gysylltiedig â Deddf Cŵn Peryglus 1991.
Dywedodd y crwner ei fod "yn glir" fod Mr Jones yn gwybod nad oedd fod i adael y cŵn i mewn i'r ty, pan nad oedd Ms Benjamin adref.
"Er hynny, ar yr achlysur hwn, dyna wnaeth ef", meddai.
Ychwanegodd bod "dim esboniad pam fod y cŵn wedi ymddwyn fel y gwnaethon nhw".
"Roedd Mr Jones yn gyfarwydd â'r cŵn, fel yr oedden nhw gyda fe, a doedden nhw ddim wedi camymddwyn o'r blaen".
Cofnododd y crwner mai damwain oedd achos marwolaeth Mr Jones.
Dywedodd Ms Benjamin: "Ry'n ni wedi bod gyda'n gilydd ers i mi gael fy ngeni.
"Ry'n ni wedi bod fel brawd a chwaer drwy'r cyfan. Fyddwn i fyth wedi dymuno i hyn ddigwydd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.