Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion i'r gogledd ddydd Iau

Rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 05:00 a 20:00 ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar gyfer gogledd Cymru.

Bydd y rhybudd yn dod i rym am 05:00 fore Iau ac yn para nes 20:00 nos Iau.

Mae disgwyl hyrddiadau hyd at 55mya yn eang ar draws ardal y rhybudd, gyda rhai ardaloedd arfordirol yn profi hyrddiadau o hyd at 70mya.

Er bod disgwyl i'r gwyntoedd ysgafnhau yn ystod y dydd, mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gall y tywydd gael effaith ar drafnidiaeth, gan annog pobl i gymryd gofal.

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer siroedd Conwy, Dinbych, Y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig