Gŵyl Cyfryngau Celtaidd: Pwy sydd wedi eu henwebu?

Mari Grug, Gareth yr Orangutan a Chris 'Flamebaster' RobertsFfynhonnell y llun, S4C/Antena/Cwmni Da
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mari Grug, Gareth yr Orangutan a Chris 'Flamebaster' Roberts wedi cael eu henwebu eleni

GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyflwynydd Chris 'Flamebaster' Roberts, rhaglen ddogfen am brofiad Mari Grug gyda chanser a chyfres deledu blant Gareth yr Orangutan ymhlith enwebiadau eraill o Gymru sydd ar restr fer yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd.

Dyma ŵyl sy'n dathlu talent o'r gwledydd a rhanbarthau Celtaidd, o fewn y diwydiannau ffilm, teledu, radio a chyfryngau digidol.

Mae'n cael ei chynnal yn flynyddol ers yr un gyntaf yn Harlech yn 1981, lle'r oedd chwe chategori yn unig.

Bellach, mae 26 o wobrau yn cael eu cyflwyno am ragoriaeth, a hynny am gynnwys yn yr ieithoedd Celtaidd, ynghyd â Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg a Galiseg.

Eleni, mae'r ŵyl yn cael ei chynnal yn Belfast ar 2-4 Mehefin.

GWAGLEFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae GWAGLE ar restr fer y categori Comedi (Sgrin)

Dau sydd ar y rhestr fer y categori comedi ar sgrin, yw Gwion Ifan a Jac Northfield am eu rhaglen, GWAGLE.

Mae'r ddau yn ymfalchïo yn y ffaith fod syniad dau ffrind "sy'n licio pethau gwirion" wedi profi'r fath lwyddiant. Â chyfres lawn o GWAGLE ar y gweill yn hwyrach eleni, mae'r ddau wedi cael cyfloedd i ddatblygu eu crefft ar y gwasanaeth Hansh.

Ond yn ôl Gwion, mae angen mwy o gomedi ar S4C:

"Mae Jac a fi yn teimlo'n gryf am hynny," eglurodd ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru. "Mae'n bwysig fod comedi yn cael ei greu ac mae Hansh yn profi ei fod yn blatfform sy'n gallu cynnig hynny a magu talent newydd a gadael i bobl gael rhwydd hynt yn greadigol i wneud beth maen nhw eisiau."

GisdaFfynhonnell y llun, S4C

Ymhlith rhai o'r enwebiadau eraill mae cyfres deledu adloniant Amour a Mynydd, y comedi radio Unig, Bôrd a Horni, cyfres Y Talwrn, a GISDA – Drws i'r digartre, sydd yn y categori Ysbryd yr Ŵyl.

Mae yna hefyd nifer o enwebiadau iaith Saesneg o Gymru, gan gynnwys y rhaglen ddogfen radio, Hidden Merthyr, y gyfres ddrama deledu boblogaidd, The Guest, a'r cyflwynydd Kiri Pritchard-McLean.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb