3 Llun: Chris Roberts yn Japan

- Cyhoeddwyd
Mae'r cogydd o Gaernarfon wedi teithio'n bell ar gyfer ei gyfres ddiweddaraf ar S4C, Llond Bol o Japan.
Yno, cafodd wledda ar sushi a chig eidion wagyu, dysgu gan gogyddion enwog, a phrofi diwylliant lliwgar y wlad.
Mae wedi dewis tri llun sy'n crisialu ei gyfnod yno, a rhannu ambell i stori am yr unigolion a wnaeth ei ymweliad yn un mor arbennig.
Cariad ym mhob cegiad

Chef Takayoshi 'Taka' Watanabe
Un o'r llefydd cynta' es i'n Japan o'dd Teruzushi yn Kitakyushu, bwyty sushi Takayoshi 'Taka' Watanabe. Mi o'dd yr amsar ges i efo Chef Taka yn anhygoel; 'dw i'n teimlo bod o wedi newid 'mywyd i!
Nain Taka 'na'th sefydlu'r lle nôl yn y 60au ac erbyn heddiw ma' Taka yn superstar o fewn y byd sushi ac yn feistr efo katana – y gyllell rili miniog.
Esh i efo Taka i farchnad bysgod ben bora. O'dd gweld y ffordd o'dd o'n gallu dewis y pysgod mwya' ffres a'r berthynas o'dd ganddo fo hefo'r criw yn y farchnad yn arbennig. 'Na'th o rili adael fi mewn i'w fyd o ac o'n i mor ddiolchgar.
Ma' Taka yn un o chefs mwya' viral y byd ond be' 'na'th daro fi fwya' o'dd y cariad o'dd o'n roi i bob dim. O'dd pob cegiad jyst yn dangos y blynyddoedd o waith mae o wedi 'neud fel chef a'r parch o'dd ganddo fo at y cynnyrch a'r cynhwysion.
O'dd treulio amser efo Chef Taka fath â bod rhywun 'di hitio reset button ar bob dim o'n i'n meddwl o'n i'n 'w'bod am sushi.
'O'dd o fath â gwylio theatr...'

Chef Motokichi, Bwyty Kichi Kichi yn Kyoto
Pan o'dda ni'n dewis lle i fynd yn Japan nes i ddod ar draws llwyth o fideos viral o Chef Motokichi ym mwyty Kichi Kichi yn Kyoto.
Mae o wedi cael miliyna' o views rownd y byd. Ond tan ti'n sefyll yn ei gegin o, yn gweld o'n coginio, alli di'm dallt faint o egni sy' gan Chef Motokichi.
Mae o fath â gwylio theatr – o'dd y lle yn buzzing ac o'dd y cariad 'na sy' ganddo fo at ei waith yn sbesial.
'Nes i wylio fo'n whisgio, fflipio a swirlio'r omlet 'na efo gymaint o steil; o'dd o'n 'neud iddo fo edrych mor hawdd, ond fel chef, dw i'n gw'bod yn union faint o sgil sy' angen i goginio omlet mor delicate.
I feddwl bod Chef Motokichi yn enwog ar draws y byd mi o'dd o'n hollol down-to-earth. O'n i methu peidio gwenu pan o'n i efo fo!
Bwyta wagyu dan oleuadau neon

Hisato Hamada sylfaenydd WagyuMafia
Y lle ola' es i o'dd WagyuMafia yn Tokyo. Ma'r lle ma' gymaint mwy 'na bwyty; ma' fwy fath â concept a Hisato Hamada ydy'r genius tu ôl i'r holl beth.
Mae o'n enw masif yn Japan ac yn cael ei ddathlu fath â rhywun sy' 'di newid y gêm pan ma'n dod i gig wagyu, y brîd gwartheg byd-enwog o Japan. Dw i 'rioed 'di profi egni fel o'dd tu mewn i WagyuMafia: goleuada' neon, miwsig hip-hop a fflamia' huge.
Ma' Hisato'n gweithio'n uniongyrchol efo ffermwyr graddfa bach sy'n magu gwartheg champion A5 wagyu, un o'r brîdiau gora' yn y byd. Ma' nhw'n gallu d'eud yn union o ba fuwch ma' pob stêc wedi dod. 'Na'th y lefel yna o gysylltiad rhwng ffermwyr, anifeiliaid a chefs chwythu 'mrên i go iawn.
Fel Chef Taka a Chef Motokichi, er bod Hisato a'i dîm yn enwog o'dd y croeso ges i a'r criw mor arbennig; pobl cynnes o'dd isho g'neud yn siwr bod 'mhrofiad i'n Japan yn un arbennig.
Ma'n swnio'n wirion ond pan o'n i hefo nhw o'n i'n teimlo fath â bo' fi'n profi bwyd am y tro cynta 'rioed; ma' 'nghyfnod i'n Japan 'di newid sut dw i'n sbio ar gynhwysion am byth.
Gwyliwch Llond Bol o Japan ar S4C am 21.00 nos Fawrth a'r dair pennod ar BBC iPlayer
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2017

- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2025
