O Gymru i India: Dyddiadur taith ddyngarol yr Urdd

Maura a TiannaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Maura, oedd yn tywys aelodau'r Urdd yn ystod eu taith, a Tianna - un o'r gwirfoddolwyr y Gymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Tianna Patel o Gaerdydd yn un o 10 aelod o'r Urdd sydd newydd ddychwelyd o daith ddyngarol i India gyda'r elusen Her Future Coalition.

Roedd yn gyfle i'r aelodau gefnogi plant a merched bregus, yn ogystal â rhannu iaith a diwylliant Cymru sy'n seiliedig ar gynllun Chwarae yn Gymraeg yr Urdd.

Dywedodd Tianna ei bod eisiau mynd dramor i ddeall mwy am realiti bywyd i ferched ifanc mewn rhannau o India ac oherwydd rhesymau personol.

"Roeddwn i eisiau archwilio mwy o'm hunaniaeth Gymreig ac Indiaidd, a chreu pont rhwng y ddwy ochr o'm diwylliant," meddai.

"Wrth glywed straeon gan fenywod yn fy nghymuned am eu profiadau o addysg (neu'r diffyg addysg) yn India, roeddwn i'n teimlo'n awyddus i ddeall yn ddyfnach."

Yma, mae'n rhannu ei dyddiadur hi o'r profiad gyda Cymru Fyw.

16 ac 17 Chwefror

Criw yr UrddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Codi'n gynnar iawn a dal bws am 05:30 o Gaerdydd i Faes Awyr Heathrow a chwrdd â gweddill y criw a dechrau'r siwrnai hir.

Cyrraedd India ar 17 Chwefror a phawb yn flinedig ond yn falch o gyrraedd.

Neidio ar y bws a chael taith wyllt drwy sŵn a phrysurdeb dinas Kolkata. Roedd popeth yn teimlo mor fywiog. I'r gwesty a chwrdd â Maura, a fydd yn ein tywys ni o gwmpas dros y pythefnos nesaf.

18 Chwefror

Gwneud baner Cymru ac IndiaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Mynd i ganolfan ddysgu Her Future Coalition a chael croeso cynnes gan y menywod yn y caffi cyn gwrando ar sgwrs gan Srabani Sanskar o Hamari Muskaan, oedd yn sôn am y gwaith pwysig maen nhw'n ei wneud.

Wedyn aethon ni i weld y merched yn gwnïo pyrsau a bagiau allan o ffabrig wedi'i ailgylchu, a chawson ni'r cyfle i brynu rhai.

Ar ôl cinio, gwnaethon ni sesiwn yn cyflwyno Cymru a chreu baner yn cyfuno Cymru ac India gyda geiriau yn Gymraeg, Bengaleg a Hindi, cyn gorffen y diwrnod gyda bach o ddawnsio gwerin.

19 Chwefror

Tuk-tuk a phlant yn dawnsioFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Codi'n gynnar iawn i ddal trên o Howrah i Shantiniketan a mynd drwy dyrfa enfawr yn yr orsaf cyn cyrraedd y trên o'r diwedd.

Ar ôl cyrraedd Shantiniketan, neidio ar tuk-tuks i'r hostel, drwy'r traffig prysur ac yna i ysgol Suchana i weld rhai o'r merched yn creu crefftau a chael cyfle i brynu rhai.

Aethon ni i gae mawr ger un o'r llyfrgelloedd symudol i gwrdd â phlant lleol. Fe wnaethon ni gyflwyno ein hunain a Chymru iddyn nhw, chwarae gemau gyda hwla hŵps, gwneud bach o ddawnsio gwerin, ac wrth gwrs gorffen gyda dawns Mistar Urdd!

Dydd Gwener, 20 Chwefror

Plant a chriw yr Urdd yn dawnsioFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Codi'n gynnar iawn i ymweld ag un o brosiectau'r llyfrgell symudol sy'n cael ei redeg gan Suchana mewn ardaloedd gwahanol bob dydd. Aethon ni i un o'r caeau a dechrau drwy gyflwyno Cymru gan ddysgu ambell air Cymraeg i'r plant.

Ar ddiwedd y dydd, aethon ni'n ôl i Suchana i chwarae chwaraeon gyda'r plant ar y cae mawr tan i'r haul fachlud. Ar y ffordd yn ôl drwy'r pentref, ces i'r cyfle i ymarfer tipyn bach o Hindi a Bengaleg gyda rhai o'r merched ifanc.

21 Chwefror

MarchnadFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Diwrnod ychydig yn fwy hamddenol heddiw.

Mynd am dro yn Amar Kutir ac i'r farchnad awyr agored i siopa am eitemau crefft lleol wedi'u gwneud â llaw. Wedyn aethon ni yn ôl i Amoli Cafe cyn gadael Shantiniketan, lle cawson ni fwyd a sgwrs gyda Maura.

Ar ôl bwyta, aethon ni tuag at yr orsaf drenau, gan stopio yn Bolpur am ychydig i grwydro'r strydoedd ac edrych yn y siopau.

22 Chwefror

Aelodau'r Urdd gyda phlant yr ardalFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Mynd i dŷ Maura i ymweld â Llyfrgell Mustard Seed.

Yno, gwnaethon ni ddysgu'r plant sut i wneud pice ar y maen a gwneud celf. Buon ni'n siarad am beth roedden nhw'n cofio am Gymru ers ymweliad yr Urdd yno llynedd, ac roedd hi'n hyfryd clywed rhai o'u hatgofion.

Golygfa o daith afon
Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Wedyn aethon ni am ginio cyflym cyn mynd ar daith cwch ar Afon Ganga.

Stopion ni i ymweld â theml ar y ffordd, ac ar y ffordd 'nôl ar y cwch, roedden ni'n dawnsio i ganeuon Bollywood wrth fwynhau'r golygfeydd prydferth a'r bwyd Indiaidd.

23 Chwefror

Gweithdy gemwaithFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Aethon ni i ganolfan sy'n rhedeg rhaglenni i gefnogi menywod a merched ifanc i adael puteindra ac i atal merched rhag mynd i mewn iddo. Mae'r ganolfan yn dysgu sgiliau iddyn nhw fel eu bod yn gallu dechrau eu busnesau eu hunain a chynnal eu hunain yn y dyfodol.

Cawson ni'r cyfle yno i greu gemwaith allan o ddalennau pres a gwifren, gyda chymorth ac arbenigedd y merched.

Roedd e'n brofiad arbennig iawn i weithio ochr yn ochr â nhw. Gwnaethon ni hefyd sesiwn grefft yn gwneud llwyau caru gyda'r merched, ac roedden ni wedi rhoi llwyau caru bach iddyn nhw i'w cadw fel cof o'r ymweliad.

24 Chwefror

Plant yn chwaraeFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Taith gerdded o amgylch Kolkata, gan ddysgu mwy am hanes y ddinas, y cyfnod Raj Prydeinig yn India, ac effaith trefedigaeth ar y bobl sy'n byw yno heddiw.

Yn y prynhawn, aethon ni i Nabadisha, sef gorsaf heddlu sydd hefyd yn lle diogel i blant difreintiedig gael addysg a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel yoga, dawns a chelf. Pan gyrhaeddon ni, cawson ni groeso anhygoel, ac roedden nhw wedi trefnu sioe arbennig gyda dawnsfeydd, barddoniaeth, drama a gymnasteg.

25 Chwefror

Dau lun ar ddefnydd denimFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Ymweld ag ysgol Ek Tara a chael sesiwn crefft gyda grŵp bach o ferched, yn defnyddio pasteli olew i ddylunio patrymau Cymreig ac Indiaidd ar ffabrig denim.

Cael cinio anhygoel oedd wedi'i goginio gan rai o famau'r merched sy'n mynychu'r ysgol cyn chwarae gemau fel rygbi a dawnsio gwerin.

26 Chwefror

Heddiw aethon ni i ganolfan lle mae merched yn dysgu sgiliau fel mehendi, edafu a siapio aeliau, a thriniaethau harddwch eraill.

Mae'r hyfforddiant yma'n eu harwain at fod yn gymwys, fel eu bod yn gallu cymryd archebion i ennill arian a chynnal eu hunain.

27 a 28 Chwefror

Baner Cymru ac India ochr wrth ochrFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Heddiw cawson ni frecwast gyda swyddogion Llywodraeth Cymru sydd allan yn India, a rhannu mwy am yr hyn rydyn ni wedi bod yn ei wneud.

Ar ôl brecwast, aethon ni i ymweld â Mother House, lle mae bedd Mother Teresa ac i'r Scottish Cemetery, lle mae bedd y Cymro Thomas Jones, a sefydlodd yr wyddor Khasi ym mryniau Khasi.

Gyda'r nos, aethon ni i dŷ yr Uchel Gomisiynydd Prydeinig yn India ac i'r swyddfa am dderbyniad i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Cawson ni'r cyfle i gwrdd ag arweinwyr o Meghalaya a Nagaland, lle maen nhw'n dathlu bywyd Thomas Jones gyda gŵyl banc, ac i gwrdd â llawer o bobl sydd â chysylltiadau â Chymru yma yn India.

Yna paratoi i adael - ond dim cyn cwrdd â Maura am y tro olaf i fyfyrio ar y trip anhygoel gawson ni, ac i ddiolch iddi am fod yn berson mor arbennig.

Mae'r daith hon wedi newid fy safbwynt ar y byd. Mae wedi cryfhau fy hunaniaeth, wedi agor fy llygaid, ac wedi dangos i mi bwysigrwydd cymuned, addysg a chyfle.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.