Llanwddyn a Phorth y Nant: Cofio pentrefi coll Cymru

Teulu yn Llanwddyn tua 1885
- Cyhoeddwyd
O Gapel Celyn i Lanwddyn, Treforys a Phorth y Nant, ar hyd a lled Cymru mae nifer o bentrefi wedi'u colli, wedi diflannu neu wedi'u gadael; rhai yn anghofiedig, eraill yn friw yn y cof.
Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn edrych ar hanes rhai o bentrefi gadawedig (abandoned) Cymru – a'r rhesymau pam y diflannon nhw.
Colli cymuned
Efallai mai'r pentref 'coll' enwocaf yng Nghymru yw Capel Celyn, cymuned wledig yng nghwm Tryweryn, ger y Bala. Yn 1965 boddwyd y pentref a rhannau eraill o'r cwm i greu cronfa ddŵr, Llyn Celyn, er mwyn bodlonni awch Corfforaeth Lerpwl am ragor o ddŵr ar gyfer diwydiant yn yr ardal.
Cafodd y teuluoedd eu gorfodi i adael eu cartrefi, a bu'n rhaid ffarwelio â'r ysgol, y capel, y swyddfa bost a'r mwyafrif o ffermydd.

Rhai o drigolion Cwm Celyn yn 1960, a oedd yn ansicr o'u ffawd
Serch hynny, nid cwm Tryweryn oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i gael ei boddi i gyflenwi dŵr i dref yn Lloegr.
Yn ystod y 1880au, boddwyd pentref Llanwddyn ym mhen uchaf Dyffryn Efyrnwy, eto gan Gorfforaeth Lerpwl i greu cronfa ddŵr Llyn Efyrnwy neu Lyn Llanwddyn, a oedd ar y pryd y llyn o waith dyn mwyaf yn Ewrop.
Ni chafwyd unrhyw ymgynghori â thrigolion yr ardal ynghylch y cynnig ar gyfer yr argae ac ofer fu eu gwrthwynebiad diweddarach iddo.
Adleolwyd y boblogaeth leol a cafodd yr eglwys, dau gapel, tair tafarn, 10 ffermdy, a 37 o dai eu dymchwel.
Penderfynodd Corfforaeth Lerpwl adeiladu anheddiad newydd – a oedd yn rhannu'r un enw – yn is i lawr y dyffryn i gartrefu'r pentrefwyr a oedd wedi colli eu cartrefi.

Roedd lefel isel y dŵr yn Llyn Erfynwy yn 1956 wedi achosi pryder i Gorfforaeth Lerpwl
Tai i'r gweithwyr
Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol agorwyd nifer o weithfeydd newydd a oedd wedi'u lleoli mewn mannau digon anghysbell yng Nghymru.
Daeth i'r amlwg ei bod hi'n angenrheidiol i adeiladu tai gerllaw i gartrefu'r gweithwyr a'u teuluoedd. Un enghraifft o blith nifer oedd Chwarel Lechi Gorseddau yng Nghwmystradllyn.
Erbyn 1859 roedd 200 o weithwyr yn ennill eu bara menyn yn y chwarel ac yn ystod yr 1850au adeiladwyd 36 o fythynnod dwy ystafell gerllaw i'w cartrefu.
Cyfeiriwyd at y casgliad o dai fel Treforys – ar ôl Richard Morris Griffith, bancwr lleol a oedd wedi helpu i sicrhau'r arian oedd ei angen ar gyfer datblygiad y chwarel.

Adfeilion Treforys - ar un adeg roedd 36 bwthyn yma ar gyfer gweithwyr y chwarel
Ponciau (lefelau yn y chwarel) tebyg i rai Chwarel y Penrhyn, Bethesda, a gafodd eu defnyddio i ddatblygu Chwarel Gorseddau ond yn anffodus nid oedd ansawdd y llechen yn dda iawn a daeth y gwaith i ben erbyn dechrau'r 1870au a gadawodd y gweithwyr a'u teuluoedd Dreforys am byth.
Mae llu o olion diwydiannol hynod i'w gweld yno hyd heddiw gan gynnwys adfail rhyfeddol melin lechi Ynysypandy, murddunnod tai'r gweithwyr a llwybr yr hen reilffordd gul a adeiladwyd i gludo llechi i Borthmadog.

Adfeilion Melin Lechi Ynysypandy, 1962
Rhoi ail fywyd i hen bentref
O ganol y 19eg ganrif, trawsnewidiwyd dyffryn Nant Gwrtheyrn ym Mhen Llŷn gan ddatblygiad y diwydiant gwenithfaen (granite).
Roedd galw mawr am wenithfaen ar gyfer adeiladu palmentydd yn y dinasoedd mawrion fel Lerpwl a Manceinion a oedd yn prysur dyfu.
Yn ystod yr 1850au dechreuwyd chwarela o ddifri yn yr ardal a cafodd Porth y Nant ei sefydlu i gartrefu'r gweithwyr a'u teuluoedd. Erbyn yr 1870au, adeiladwyd dwy res o dai teras, capel, siop a becws.

Porth y Nant yn 1983, wedi bod yn wag ers dros 20 mlynedd
Bu'r pentref yn ffynnu hyd nes yr 1920au pan ostyngodd y galw am wenithfaen yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac erbyn dechrau'r Ail Ryfel Byd daeth y gwaith i ben.
Wrth i'r diwydiant ddirywio, gadawodd nifer o deuluoedd yr ardal; caeodd yr ysgol yn 1948, ac erbyn 1959 roedd y trigolion olaf wedi mynd, gan adael Porth y Nant yn wag.
Erbyn heddiw mae Porth y Nant yn gartref i Ganolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn.

Porth y Nant heddiw
Er bod y pentrefi hyn wedi diflannu fel cymunedau byw, nid ydynt wedi'u hanghofio. Mewn rhyw ystyr, mae'r llefydd hyn – boed o dan ddŵr neu'n adfeilion moel – yn rhan annatod o dirwedd a hunaniaeth Cymru hyd heddiw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd22 Mai 2025

- Cyhoeddwyd21 Medi 2023
