Lluniau: Lleoliadau rhamantus Cymru
- Cyhoeddwyd
Ydy chi eisiau mynd a'ch cariad i un o lefydd hardda' Cymru ar Ddiwrnod Santes Dwynwen?
O Lanfair i'r Trallwng, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru wedi cyhoeddi casgliad o luniau o fannau mwyaf rhamantus Cymru, golygfeydd sy'n cyfleu "dw i'n dy garu di".
Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru:
"Rydym wedi dewis detholiad o olygfeydd a fydd yn ennyn 'cariad ar yr olwg gyntaf', y gellir eu methu'n hawdd os nad ydych yn gwybod ym mhle i edrych.
"Troad yn y llwybr, bwlch rhwng y coed, neu ben bryn uwchben y môr sy'n darparu'r man delfrydol i gymryd seibiant, mwynhau'r olygfa, a dweud 'rwy'n dy garu di' wrth rywun arbennig, ar y diwrnod mwyaf rhamantus yn y calendr yng Nghymru."

Gardd y Galon - calon gudd yng Ngerddi Dyffryn ym Mro Morgannwg

Allt y Môr, ger Llanfair - 'Cornel OMG' mae pobl leol yn galw'r olygfa odidog hon dros Harlech a Bae Ceredigion. Golygfa sy'n ddigon i wneud eich calon guro ychydig yn gynt

Cartref y ddraig Gymreig yn Ninas Emrys - mae'r olygfa hon dros Nant Gwynant yn Eryri yn deffro hanes chwedl enwog am y frwydr rhwng y ddraig goch a'r ddraig wen, lle bu'r ddraig goch yn fuddugoliaethus

Mae'r olygfa banoramig sydd i'w gweld o ben Foel y Mwnt yn caniatau i chi weld Ynys Enlli a'r Wyddfa ar ddiwrnod clir. Ambell waith gallwch weld dolffiniaid, llamhidyddion neu forloi o'r man ysblenydd hwn. Lle hyfryd i fynd am dro ddiwrnod Santes Dwynwen

O'r fainc bren yn y parc ceirw mae 'na olygfa wych o Dŷ Newton - edrych fel lle perffaith i gariadon gymryd hoe wrth droedio llwybr Parc y Ceirw. Mae gan Ddinefwr, Sir Gâr, gysylltiadau cryf â thywysogion Cymreig y Deheubarth

Mae elyrch yn dueddol i baru am oes, felly os ydych chi'n teimlo'r rhamant ger camlas ganolog Erddig... efallai bod cwestiwn hoffech chi ei ofyn i'ch partner!

O Blas Menai mae golygfa hyfryd o'r Fenai ac Eryri. Dim ond tafliad carreg i ffwrdd mae Ynys Llanddwyn, sef ynys cariadon Cymru a chartref adfeilion eglwys Santes Dwynwen

"Nunlle fel Dinlle pan fo'r tywydd yn braf" - ar ddiwrnod clir, gallwch weld Ynys Llanddwyn sef ynys nawddsant cariadon Cymru, Santes Dwynwen, o Ddinas Dinlle. Yn ôl y stori, dyma ble'r oedd Dwynwen yn byw ar ôl sefydlu lleiandy yno. Mae adfeilion eglwys a oedd wedi'i chysegru iddi i'w gweld yno hyd heddiw

Y Teras Rhosynnau yng ngherddi Bodnant. O'r safle yma mae 'na olygfa fendigedig o'r Carneddau dros Ddyffryn Conwy. Lle da i roi tusw o rosynnau i'ch cariad, falle?

Mae hyd yn oed petalau'r blodau ym Modnant yn teimlo'r rhamant...

Maen nhw'n dweud fod Yr Eidal yn un o'r gwledydd mwyaf rhamantus, ond gall yr olygfa hon o'r Gerddi Eidalaidd yng Nghastel Powis, Trallwng, alw'r teimlad o ramant cystal ag unrhyw le!

Dydd Santes Dwynwen Hapus i chi gyd!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2024

- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2017

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
