'Rôl fy mamiaith yn allweddol i'm hadferiad' - Lleuwen Steffan

Lleuwen SteffanFfynhonnell y llun, Lleuwen Steffan
Disgrifiad o’r llun,

"Pan oedd fy nibyniaeth ar ei waetha' roedd rôl fy mamiaith yn allweddol i mi ar gyfer fy ngwellhad," meddai Lleuwen

  • Cyhoeddwyd

Mae Lleuwen Steffan yn dweud ei bod yn "gam naturiol" iddi fod yn llysgennad i elusen dibyniaeth, wedi i hithau dderbyn cefnogaeth y gwasanaeth yn y gorffennol.

Mae'r gantores a'r gyfansoddwraig ymhlith pedwar unigolyn amlwg sydd wedi'u penodi'n Llysgenhadon i Gyngor ar Alcohol a Chyffuriau Eraill (CACE).

Mae'r elusen yn darparu cefnogaeth dosturiol, hirdymor i bobl sy'n cael eu heffeithio gan gaethiwed, trawma a thrallod emosiynol.

Bydd y penodiadau'n cefnogi gwaith teulu CACE o wasanaethau, gan gynnwys Y Stafell Fyw – canolfan adferiad sy'n cynnig cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg i bobl sy'n byw gyda dibyniaethau o bob math.

Daw hyn wrth i fwy o bobl nag erioed yng Nghymru geisio cymorth adferiad.

Yn ôl ffigyrau diweddar, mae nifer y bobl sy'n derbyn cymorth gan wasanaethau dibyniaeth wedi mwy na dyblu mewn blwyddyn - o tua 17,000 yn 2024 i dros 35,000 yn 2025, gyda marwolaethau sy'n gysylltiedig â dibyniaeth hefyd ar gynnydd.

Ym mis Mawrth 2018, aeth Lleuwen at y gwasanaeth am gymorth ei hun.

"Mae'n gam naturiol i mi mewn ffordd fod yn llysgennad i'r Stafell Fyw," meddai.

"Mae yna lysgenhadon o wahanol feysydd yn cynrychioli'r Stafell Fyw, a'n rôl ni yw hyrwyddo'r gwaith maen nhw'n ei wneud – i adael i bobl wybod am y gwasanaethau sydd ar gael."

Yn ôl Lleuwen, mae gwaith y Stafell Fyw yn arbennig o bwysig gan eu bod yn cynnig cymorth nid yn unig i bobl sy'n delio â dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, ond hefyd dibyniaethau eraill.

"I mi yn bersonol, mae'n waith pwysig iawn i hyrwyddo'r ffaith bod yna wasanaeth fel hyn sydd yn cynnig help i bob math o ddibyniaeth," meddai.

"Ac yn bwysicach fyth, bod gwasanaeth fel hyn yn bodoli trwy gyfrwng y Gymraeg."

Lleuwen SteffanFfynhonnell y llun, Tudur Dylan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Lleuwen, er bod modd derbyn therapi mewn ieithoedd eraill, mae rhywbeth unigryw am allu mynegi profiadau dwys drwy iaith gyntaf rhywun

Mae Lleuwen yn byw yn Llydaw ac yn siarad pedair iaith, ond dywed mai ei mamiaith sy'n ganolog i'w hadferiad.

"Dwi'n berson sy'n byw drwy bedair iaith, ond pan oedd fy nibyniaeth ar ei waetha' roedd rôl fy mamiaith yn allweddol i mi ar gyfer fy ngwellhad," meddai.

"Dyna'r prif reswm pam dwi mor awyddus i adael i Gymry Cymraeg wybod bod y gwasanaeth yma ar gael."

Yn ôl Lleuwen, er bod modd derbyn therapi mewn ieithoedd eraill, mae rhywbeth unigryw am allu mynegi profiadau dwys drwy iaith gyntaf rhywun.

"Wrth gwrs, mae modd gwneud hyn yn Saesneg neu Ffrangeg neu beth bynnag, ond mae rôl y famiaith mor allweddol.

"Mae'n anodd sylweddoli hynny nes eich bod chi'n rhoi cynnig arni ac yn gweld y gwahaniaeth mawr sydd yna."

'Salwch ydi dibyniaeth'

Mae hi hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod y Stafell Fyw yn wahanol i lawer o wasanaethau eraill gan ei bod yn cynnig cymorth hirdymor, gan gydnabod bod dibyniaeth yn salwch cronig.

"Yn aml iawn, mae rhywun yn mynd i rehab neu'n cael saith sesiwn, ac wedyn mae'r therapi'n gorffen," meddai.

"Ond mewn gwirionedd, yr hyn sydd ei angen yw gwasanaeth hirdymor i'r unigolyn – a dyna beth mae'r Stafell Fyw yn ei gynnig."

Er mai elusen yw'r Stafell Fyw, nid yw'n derbyn yr un lefel o gyllid â rhai elusennau mwy, sy'n golygu bod angen codi arian yn barhaus i gynnal y gwasanaethau.

"Mae gwaith i'w wneud o ran codi arian i'r Stafell Fyw a'r holl wasanaeth mae'r elusen yn ei gynnig i gynifer o bobl," meddai.

Yn ganolog i'w neges fel llysgennad, mae Lleuwen yn awyddus i newid y ffordd mae cymdeithas yn edrych ar ddibyniaeth.

"Mae'n bwysig i bobl sylweddoli mai salwch ydi dibyniaeth," meddai.

"Nid ewyllys person sy'n ei wneud yn gaeth, ond y salwch ei hun.

"Mae'n salwch meddyliol ac emosiynol ond yn salwch ysbrydol yn bennaf.

"Trwy fod yn llysgennad dwi'n gobeithio gallu pasio'r neges honno ymlaen i bobl eraill."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi cael effaith arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.