Cerdded i nodi degawd o fod yn ddi-ganser

- Cyhoeddwyd
"Pan ti'n clywed y gair cansar dwyt ti ddim yn cymryd dim byd arall i mewn, mae yna gymaint o gwestiynau jyst yn spinio o gwmpas y stafall yn dy ben di."
Ar noson ei pharti ymddeol yn 2015 fe rannodd Helen Evans o Fethesda ei gobeithion mewn araith; teithio a threulio mwy o amser gyda'i phlant a'i hwyrion.
Y diwrnod wedyn fe gafodd ddiagnosis o ganser y thyroid. Derbyniodd driniaeth dwys gan gynnwys dwy lawdriniaeth a thriniaeth RAI (Radioactive Iodine).
Bellach mae Helen yn ddi-ganser ers 10 mlynedd ac mae hi ar fin cwblhau her i gerdded 62 milltir ym mis Ionawr i nodi hynny ac er mwyn codi arian at ymchwil canser.
Diagnosis
Ond mae bod yn ddi-ganser ers degawd hefyd wedi gwneud iddi adlewyrchu ar ei thaith bersonol ei hun â chanser.
Roedd Helen sy'n fam, gwraig ac yn nain ar fin ymddeol fel gweinyddwraig iechyd pan wnaeth hi ffeindio lwmp yn ei gwddf a chael trafferth llyncu.
Ar ôl sgan, profion a thynnu'r lwmp er mewn ei archwilio am ganser, derbyniodd Helen ddiagnosis o'r math mwyaf cyffredin o ganser y thyroid sef Papillary.

Helen yn cychwyn ei her cerdded 62 milltir ym mis Ionawr
Roedd derbyn y diagnosis yn ergyd fawr i Helen oedd newydd fod mewn parti i ddathlu ei hymddeoliad.
"Roedd o mor swreal i ddweud y gwir ac o'n i'n dweud wrthaf fi fy hun, 'reit lle dwi'n mynd o fan'ma' a 'mhoen mwyaf oedd sut 'dan i'n mynd i ddeud wrth y plant.
"Fel aeth amsar heibio dyma nhw'n deud 'wel 'dan ni ddim yn gwybod be' i wneud efo chdi achos dydi cemotherapi ddim am dy siwtio di a dydi radiotherapi ddim am siwtio chdi chwaith, a ro'n i'n meddwl 'wel mae hi wedi gorffan arna i felly'."
Yn ystod yr un cyfnod roedd ei mam ei hun hefyd wedi cael diagnosis o fath arall o ganser y thyroid sef Anaplastic (ATC).
Bu farw ei mam o'r canser. Erbyn heddiw mae Helen yn falch na chafodd ei mam, oedd hefyd yn byw gyda dementia, wybod beth oedd o flaen ei merch.

Helen a'i diweddar fam
Triniaeth
Gobaith Helen wrth godi arian at ymchwil canser yw cyfrannu at y datblygiadau mewn triniaethau, a hynny ar ôl iddi hi ei hun dderbyn triniaeth Radioactive iodine (RAI) i drin ei chanser.
Eglurai: "Ar ôl cael dwy lawdriniaeth, fe benderfynodd y doctoriaid mai'r hyn fyddai orau i mi fyddai triniaeth RAI. Do'n i erioed wedi clywed amdano fo, ond roedd o'n brofiad trawmatig iawn i mi."
Mae therapi Radioiactive iodine yn golygu llyncu capsiwl iodin sy'n ymbelydrol. Mae'r celloedd canser wedyn yn amsugno'r iodin ymbelydrol. Y gobaith yw bod yr ymbelydredd yn lladd y celloedd canser yn y corff.
Ond er mwyn derbyn triniaeth RAI roedd yn rhaid i Helen fod mewn ystafell ynysig ar ei phen ei hun am dri diwrnod yn yr ysbyty.
Eglurai: "Wyt ti'n mynd mewn i siambr sydd wedi ei amgylchynu gan lead. Am ei fod o'n gallu bod mor trawmatig roedd yn rhaid i mi fynd i weld y 'stafell bythefnos cyn mynd i mewn i gael y driniaeth.
"Roedd o mor ddirdynnol i sbio arno fo, gwely bach sengl a bob dim wedi capio fel crimescene efo tap melyn du a gwyn yn deud keep out, keep clear."

Helen yn cyflawni ei her cerdded yn yr eira'n ddiweddar
Dychwelodd Helen i dderbyn y driniaeth bythefnos yn ddiweddarach. Daeth meddyg â'r capsiwl i'r ystafell iddi, dweud wrthi ei lyncu cyn gadael.
Eglurai: "Munud o'n i yn ei llyncu hi ddeudodd o 'I need to go and leave you'. O'n i yn radioactive yn syth. Wedyn mi aeth a chau'r drws haearn ac yno o'n i am dri diwrnod yn mynd yn salach ac yn salach a'r nyrsys canser yn dod bob hyn â hyn yn ei siwtiau gwyn i amddiffyn nhw eu hunain."
Ar ôl tridiau fe gafodd Helen ddychwelyd adref unwaith roedd ei lefelau ymbelydredd yn ddigon yn isel. Ond mae'r driniaeth honno wedi gadael craith seicolegol.
Meddai: "Tra ro'n i yn y siambr wnes i gadw dyddiadur, ond mae'n rhaid i mi fod yn onest, dwi'n meddwl mai ond dwy waith dwi wedi medru ei agor o.
"Oedd y driniaeth yn neud chdi mor sâl, dodd yna ddim byd yn brifo ond mae'r effaith seicolegol dal yn ddwfn."
Er yn gyfnod tywyll iddi, fe weithiodd y driniaeth, a gobaith Helen yw y bydd triniaethau canser yn parhau i ddatblygu, arloesi ac achub bywydau.
Wynebu canser head-on
Gydag ond ychydig filltiroedd ar ôl i'w cerdded, mae Helen yn awchu i barhau i gerdded yn ddyddiol yn dilyn yr her.
Eglurai: "Mae'r ofn fod y canser am ddychwelyd yno o hyd. Ond pan ddes i ar draws yr her gan Cancer Research UK ar Facebook o'n i yn teimlo mod i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i ddathlu'r garrag filltir ro'n i wedi ei gyrraedd.

Helen ar ei gwyliau yn Nhwrci
"Mi ga i fy monitro am ganser am byth ond dwi'n sicr bod cerdded am fy helpu fi wrth wynebu ansicrwydd.
"Dwi hefyd wedi ymaelodi gyda gym lleol, dwi'n mynd i ddosbarthiadau zumba ac aerobics a dwi'n teimlo'n dda."
Beth yw cyngor Helen i unrhyw un sy'n wynebu diagnosis canser?
"Yr unig beth fedri di ei 'neud ydi ei wynebu fo head-on, a gwneud bob dim maen nhw yn ei ddweud wrtha chdi.
"Faswn i ddim yma heddiw heblaw am y driniaeth ges i a dyna pa mor bwysig ydi cefnogi elusennau ac ymchwil canser.
"Ydi, mae canser yn newid dy feddylfryd di, ond mae'n rhaid i chdi fod mor positif â fedri di, mynd i bob apwyntiad a'i wynebu fo."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
