Senedd Cymru i gael rôl ffurfiol wrth benodi cadeirydd S4C yn y dyfodol

Delyth EvansFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ms Evans yn olynu'r cadeirydd dros dro Guto Bebb a'r cadeirydd parhaol diwethaf, Rhodri Williams

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd gan Senedd Cymru rôl ffurfiol i'w chwarae yn y broses o benodi cadeirydd S4C yn y dyfodol.

Mae pwyllgor diwylliant y Senedd wedi hen alw am rôl ffurfiol wrth benodi cadeirydd S4C, ond fe gafodd hynny ei wrthod y llynedd.

Yn yr hydref, dywedodd Ian Murray, gweinidog cyfryngau Llywodraeth y DU, nad oedd "unrhyw gynlluniau i newid y prosesau penodi presennol".

Ond mewn llythyr ym mis Ionawr, dywedodd Mr Murray na fyddai'n gwrthwynebu i "bwyllgor y Senedd wahodd ymgeiswyr cadeirydd S4C yn y dyfodol i'w gwrandawiad ei hunain cyn cadarnhau'r ymgeisydd".

Mae'r cyhoeddiad wedi'i groesawu gan Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd, Delyth Jewell, sy'n dweud ei bod "yn hanfodol fod gan broses ddemocrataidd Cymru lais yn y mater."

'Anomaledd' nad yw pwerau dros S4C 'yn nwylo'r genedl'

Yr ysgrifennydd diwylliant yn San Steffan sy'n penodi cadeirydd S4C, ond mae 'na gytundeb y bydden nhw'n ymgynghori gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â phenodiadau i fwrdd y darlledwr cenedlaethol.

Mae gan bwyllgor materion Cymreig San Steffan rôl ffurfiol i'w chwarae yn y penodiad, ond gan nad yw darlledu wedi'i ddatganoli does dim llais i bwyllgorau'r Senedd ym Mae Caerdydd.

Nôl yn 2024 roedd y pwyllgor wedi argymell "bod angen cytundeb Llywodraeth Cymru ar gyfer penodiad cadeirydd S4C gan Lywodraeth y DU".

"I gyd-fynd â hyn, dylid cynnig cyfle i un o bwyllgorau'r Senedd gynnal gwrandawiad cyn penodi gyda'r ymgeisydd a ffefrir."

Ar ôl i Delyth Evans gael ei phenodi ym mis Mai 2025, fe ysgrifennodd Delyth Jewell at yr ysgrifennydd diwylliant Lisa Nandy yn dadlau ei fod yn "anomaledd" nad yw'r pwerau dros S4C "yn nwylo'r genedl lle mae'r iaith honno'n cael ei siarad yn bennaf".

Roedd hi'n dadlau y byddai "craffu ar ddarlledu ac atebolrwydd y rhai sy'n gyfrifol am redeg sefydliadau darlledu yn gwella pe byddai'r Senedd yn cael rôl".

Mewn ymateb ym mis Hydref dywedodd Ian Murray AS bod y pwyllgor eisoes yn gallu galw ar gadeirydd S4C i roi tystiolaeth iddyn nhw ar ôl cael eu penodi, a bod hynny "i'w groesawu ac yn addas", ond nad oedd ganddyn nhw "unrhyw gynlluniau i newid y broses benodi bresennol".

Ian Murray Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ian Murray wedi newid ei feddwl ers dadlau bod trefniadau presennol "wedi gweithio'n dda" ym mis Hydref

Ar ôl derbyn llythyr arall gan Delyth Jewell yn dadlau y byddai hyn yn gam "cymedrol o ystyried pwysigrwydd S4C i faterion datganoledig", mae Ian Murray nawr wedi ildio.

Gan ddweud mewn llythyr ar 23 Ionawr ei fod yn "cydnabod y manteision posib" o roi llais i'r Senedd.

"Ni fyddwn i'n gwrthwynebu i bwyllgor y Senedd wahodd ymgeiswyr cadeirydd S4C yn y dyfodol i'w gwrandawiad ei hunain cyn cadarnhau'r ymgeisydd.

"Byddai hyn yn sicrhau bod gan y Senedd gyfle ffurfiol i holi'r ymgeisydd a ffefrir a rhannu ei ganfyddiadau gyda llywodraethau Cymru a'r DU, er mwyn i ni eu hystyried, cyn gwneud penodiad terfynol."

Ond mae'n pwysleisio nad yw hyn yn newid y ffaith y bydd darlledu yn parhau i fod yn fater sydd dan rym Llywodraeth y DU.

Delyth Jewell
Disgrifiad o’r llun,

Mae cael "llais cryfach i Gymru" yn "hanfodol i gynulleidfaoedd" meddai Delyth Jewell

Mewn ymateb i lythyr Ian Murray dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd:

"Rydym yn croesawu cadarnhad y Gweinidog y bydd pwyllgor yn y Senedd bellach yn rhan o'r broses i benodi cadeirydd nesaf S4C.

"Nid yw darlledu yn fater sydd wedi ei ddatganoli, sy'n golygu bod penderfyniadau yn nwylo Llywodraeth y DU yn hytrach na'r Senedd.

"Ond o ystyried pwysigrwydd S4C i Gymru a'r iaith Gymraeg mae'n hanfodol fod gan broses ddemocrataidd Cymru lais yn y mater.

"Mae cael llais cryfach i Gymru yn y penodiad hwn yn hanfodol i gynulleidfaoedd Cymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.