'Dim ond un person yn y byd all achub fy mywyd'

Dywedodd Sian Chathyoka ei bod hi'n "anodd iawn bod yn optimistaidd" wedi diagnosis o myelofibrosis ymosodol y llynedd
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a gafodd ddiagnosis o ganser gwaed prin yn annog pobl i fod yn rhoddwyr bôn-gelloedd ar ôl darganfod mai dim ond un person cofrestredig yn y byd sy'n addas ar gyfer ei thrawsblaniad.
Dywedodd Sian Chathyoka, 56, ei bod hi'n "anodd iawn bod yn optimistaidd" ar ôl cael gwybod y llynedd ei bod angen trawsblaniad bôn-gelloedd wedi iddi gael diagnosis o myelofibrosis ymosodol.
Cafodd y fam i ddau o blant sioc pan wnaeth hi ddarganfod mai dim ond un rhoddwr posib oedd ar y gofrestr fyd-eang.
Mae Sian, a oedd yn arfer bod yn weithiwr cymdeithasol, bellach yn paratoi i dderbyn trawsblaniad gan rywun y mae hi'n ei ddisgrifio fel "dieithryn anhunanol".
Mae trawsblaniadau bôn-gelloedd yn cynnig "cyfle olaf am fywyd" i lawer o gleifion canser y gwaed, yn ôl elusen Anthony Nolan.

"Dwi wedi bod yn gorwedd yn y gwely ers mis Awst achos does gen i ddim egni o gwbl," meddai Sian
Roedd Sian, o Abertawe, yn byw bywyd prysur cyn mynd yn sâl, yn rhedeg y maes gwersylla teuluol a gofalu am ei phlant, 18 a 13 oed. Roedd hi hefyd yn nofio mewn dŵr oer i gadw'n heini.
Fe wnaeth hi sylweddoli fod rhywbeth o'i le pan gafodd ei tharo gan "flinder eithafol" ac roedd hi'n ei chael hi'n anodd codi o'i chadair.
"Dwi wedi bod yn gorwedd yn y gwely ers mis Awst achos does gen i ddim egni o gwbl," meddai Sian.
"Mae'r blinder mor ddrwg, dydw i ddim yn gallu gwneud dim byd - mae wedi bod yn eithaf brawychus."
Pan wnaeth hi sylwi ei bod wedi colli pump pwys (2.3kg) heb drio, aeth Sian i weld ei meddyg teulu a chafodd ei hanfon am brofion gwaed ar unwaith.
Datgelodd sganiau CT ac MRI bod ganddi ddueg chwyddedig (enlarged spleen) ac, ym mis Medi 2025, cafodd diagnosis o myelofibrosis.
"Doeddwn i ddim yn gallu stopio crio," meddai.
"Mae fy nghyflwr yn un prin iawn - fi yw'r unig glaf myelofibrosis sydd ganddyn nhw yn Abertawe a Chaerdydd, ac rydw i wedi cael gwybod bod fy nghlefyd yn ymosodol hefyd.
"Mae'n gwbl frawychus. Ond mae'n rhaid i chi anghofio am hynny a bod yn bositif."

Ar ôl clywed bod rhoddwr addas wedi'i ganfod, dywedodd Sian ei bod yn teimlo'n "lwcus"
Ers ei diagnosis, mae Sian wedi bod yn cael triniaeth i leihau y chwydd ac mae'n derbyn trallwysiadau gwaed a phlatennau yn wythnosol.
Ar ôl clywed bod rhoddwr addas wedi'i ganfod, dywedodd Sian ei bod yn teimlo'n "lwcus" ac yn "ddiolchgar bod posibilrwydd o iachâd drwy drawsblaniad bôn-gelloedd".
Fodd bynnag, dywedodd Sian ei bod yn synnu cyn lleied mae pobl yn ei wybod am roi bôn-gelloedd.
"Doedd gan lawer o fy ffrindiau ddim syniad," meddai.
"Dyna pam rydw i eisiau codi ymwybyddiaeth drwy rannu fy stori."
Beth yw bôn-gelloedd a sut maen nhw'n cael eu rhoi?
Mae bôn-gelloedd yn gelloedd arbennig sy'n gallu trin sawl canser gwahanol yn ogystal â diffygion imiwnedd ac anhwylderau genetig, yn ôl y GIG.
Mae'r rhan fwyaf o fôn-gelloedd yn cael eu rhoi trwy roi gwaed mewn canolfan arbenigol, ond mewn tua 10% o achosion mae angen eu tynnu o fêr esgyrn (bone marrow) yn yr ysbyty,
Mae gan Gofrestrfa Bôn-gelloedd Anthony Nolan a'r GIG - sy'n cynnwys Anthony Nolan, DKMS UK, Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG, a Chofrestrfa Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru - fwy na 2.3 miliwn o roddwyr bôn-gelloedd posib.
Dywed y GIG fod angen recriwtio 30,000 o roddwyr bôn-gelloedd posib yn y DU bob blwyddyn i ddiwallu'r galw.
Mae Sian bellach yn gweithio gydag Anthony Nolan i annog mwy o bobl i gofrestru ac "achub bywyd".
"Drwy gofrestru yn unig, gallwch chi achub bywyd yn llythrennol. Rwy'n teimlo'n emosiynol iawn oherwydd mae hynny mor bwerus," ychwanegodd.
Dywedodd Rowena Bentley, o Anthony Nolan, fod stori Sian yn helpu i godi "ymwybyddiaeth hanfodol" o roi bôn-gelloedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.