Byw gyda lipoedema: 'Sut mae straeon sêr teledu wedi fy helpu'

Sian Jones
Ffynhonnell y llun, Sian Jones
  • Cyhoeddwyd

Ers yn blentyn mae Sian Jones wedi bod yn boenus o ymwybodol fod ei choesau a'i breichiau'n fwy na gweddill ei chorff.

Ond doedd y fam 44 oed o Ddinbych ddim yn deall y rheswm pam nes iddi wylio Love Island bedair mlynedd yn ôl a sylweddoli fod gan un o'r cystadleuwyr, Shaughna Phillips, yr un siâp coesau â hi.

Roedd gan Shaughna Phillips y cyflwr lipoedema. Ac ar ôl degawdau o deimlo cywilydd roedd Sian yn gwybod mai dyma oedd ganddi hi hefyd, fel mae'n esbonio wrth Cymru Fyw: "Dydy pobl ddim yn gwybod am lipoedema.

"Dwi wedi gwybod ers blynyddoedd bod rhywbeth o'i le ar fy nghoesau a'm mreichiau – ond ddim yn gwybod pam."

Mae'r cyflwr yn arwain at fraster i gronni yn y coesau, pen-ôl a chluniau ac yn gallu bod yn boenus yn gorfforol yn ogystal â chael effaith seicolegol.

'Cuddio'

Meddai Sian: "Mae teulu a ffrindiau'n dweud, mae dy goesau di'n iawn ond mewn gwirionedd dydan nhw ddim, a dwi'n cuddio nhw o hyd.

"Pan o'n i'n ifanc mi o'n i dros fy mhwysau. A phan o i'n 21, mi wnes i golli pump stôn. Ac er bod fi wedi colli pwysau o'n i dal yn andros o paranoid am goesau a breichau fi a ddim yn teimlo'n hapus."

Er gwaetha'r ffaith fod Sian o hyd wedi gwneud dipyn o ymarfer corff doedd hi methu deall pam fod ei siâp hi ddim yn newid.

Meddai: "O'n i'n paranoid yn tynnu top neu siaced i ffwrdd a dangos fy mreichiau. Dwi ddim yn gallu gwisgo t-shirt, dwi ddim yn gallu gwisgo shorts.

"Roeddwn i mor embarrassed jest yn cerdded i'r pwll ar wyliau.

"Mae fy ysgwyddau i'n fach a'r darn top yn fach. Doedd o ddim yn gwneud sens a fel na o'n i am flynyddoedd."

Sian JonesFfynhonnell y llun, Sian Jones

Cysylltiad efo hormonau

Ond mae lipoedema yn gallu gwaethygu wrth i hormonau newid ac ar ôl i Sian gael tri o blant a chyrraedd ei 40au mae hi'n teimlo fod y cyflwr wedi gwaethygu: "Roedd fy nghoesau wedi mynd gymaint gwaeth, achos mae'r ffat ar ben y ben-glin fel silff o ffat felly mae yna fwy o bwysau ar y pengliniau wedyn. Dwi wedi bod mewn poen ac yn limpio.

"Ac er bod fi'n gwybod yn fy mhen, dwi'n siŵr bod gen i'r lipoedema yma o'n i'n lot rhy embarrassed i fynd at y doctor."

Mi fydd angen dau ben-glin newydd ar Sian yn y pen draw ond, er gwaethaf effaith corfforol y cyflwr, mae ymwybyddiaeth hyd yn oed ymhlith doctoriaid wedi bod yn isel, mae'n dweud.

Meddai: "Roedd hynny'n cau fi lawr fwy byth wedyn os ydy'r doctoriaid ddim yn gwybod beth ydy o. Mae'n ordeal mawr i ddangos coesau neu breichiau ac o'n i mor embarrassed yn sôn am y peth. Dwi jyst yn casáu o."

Enghreifftiau o goesau menywod sy'n dioddef o lipoedema
Disgrifiad o’r llun,

Enghreifftiau o goesau menywod sy'n dioddef o lipoedema

Diagnosis

Cafodd Sian ddiagnosis swyddogol o lipoedema dwy flynedd yn ôl yn 42 oed gan feddyg oedd yn ymwybodol o'r cyflwr.

Meddai: "Oedd o'n release fod rywun yn coelio fi bod gen i rhywbeth a bod o ddim jyst yn bod fi dros fy mhwysau. O'n i ddim yn gallu stopio crio."

Er fod y cyflwr yn achosi poen, nid oes triniaeth ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol heblaw darparu trowser cywasgu.

Meddai Sian: "Mae'r coesau'n mynd i deimlo'n andros o drwm ac mae'r traed yn chwyddo'n fawr erbyn y nos."

Yr unig opsiwn yw triniaeth liposuction, sy ddim ar gael ar y GIG ac sy'n costio miloedd. Mae'n driniaeth arbenigol gan fod y braster mewn pobl gyda lipoedema yn wahanol.

Felly mae Sian wedi newid ei ffordd o fyw er mwyn byw gyda'r cyflwr gyda diet uchel mewn protein yn help mawr iddi: "Mae beth ti'n fwyta yn gwneud gwahaniaeth.

"Maen nhw'n dweud mai diet carnivore efo lot o gig ydy'r peth gorau a ddim gymaint o siwgr.

"Pan dwi'n sticio at fwyd protein achos bod hwnna'n anti-inflammatory, mae'n gwneud andros o wahaniaeth.

"Er yn seicolegol dwi dal yn meddwl bod fy nghoesau'n edrych yn wael, ar y funud dwi'n teimlo gymaint gwell achos dwi wedi gwella'r pwysau a'r mobility, dwi'n gwybod pa ymarfer corff i'w wneud. Dwi'n gwybod beth sy'n gweithio."

Ymwybyddiaeth

Mae Sian yn ddiolchgar iawn fod dioddefwyr eraill o'r cyflwr fel seren Love Island ac, yn Ionawr 2026, enillydd Big Brother Josie Gibson wedi sôn am eu profiadau gyda'r cyflwr.

Meddai: "Mae'n golygu gymaint. Dwi ar y rhwydweithiau gwahanol yma i wneud efo lipoedema ers i fi gael y diagnosis. Mae gymaint o bobl wedi bod mor diolchgar i Josie Gibson am agor i fyny amdano fo. Mae angen creu ymwybyddiaeth."

Talodd Josie Gibson am y driniaeth yn breifat. Ond mae'r gost yn uchel, yn ôl Sian, gyda trin rhan o'r goes yn unig yn costio dros £5000.

Meddai: "Er bod o'n dda bod hi'n codi ymwybyddiaeth, dyw e ddim yn deg achos mae gymaint ohonom ni ddim yn gallu fforddio'r driniaeth.

"Ond os ydyn ni'n ennill y loteri, dyna'r peth cyntaf fyddwn i'n ei wneud achos yn anffodus dyna'r unig ffordd o cael gwared ohono fo.

"Yn seicolegol, mae dal jyst yn horibl. Mae ffeindio rhywbeth i wisgo efo canol fi mor fach a'r darn gwaelod gymaint mwy mor anodd.

"Dyna beth rydyn ni eisiau ei wneud ydy creu ymwybyddiaeth."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig