'Diagnosis ADHD ac OCD wedi newid fy mywyd'- seren Love Island

Dr Alex GeorgeFfynhonnell y llun, Olivia Spencer
Disgrifiad o’r llun,

Gwnaeth Dr Alex George dderbyn diagnosis o ADHD ym 2022, cyn derbyn un OCD yn 2025.

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-seren Love Island, Dr Alex George yn dweud bod derbyn diagnosis ADHD ac OCD fel oedolyn wedi "newid fy mywyd yn llwyr".

Mae'r cyn-feddyg uned frys yn galw am ganolbwyntio ar wella rhestrau aros ar gyfer asesiadau, wedi iddo wario £3,000 ar gael asesiadau ADHD ac awtistiaeth yn breifat.

Yn ei lyfr newydd Am I Normal?, mae Dr George yn trafod ei brofiad o fyw gydag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) ac anhwylder obsesiynol-gorfodaethol (OCD) cyn ac ar ôl derbyn diagnosis.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw. Ym mis Rhagfyr dywedon nhw eu bod yn buddsoddi er mwyn ehangu gwasanaethau.

Y llynedd fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi £13.7m yn ychwanegol er mwyn gwella gwasanaethau niwroamrywiaeth a lleihau amseroedd aros ar gyfer asesiadau awtistiaeth ac ADHD.

Dr Alex GeorgeFfynhonnell y llun, Olivia Spencer
Disgrifiad o’r llun,

Yn ei lyfr mae Dr Alex George yn adlewyrchu ar fyw gyda niwrowahaniaeth

Wedi ei fagu yn Nantgaredig, Sir Gâr, mae Dr George yn dweud "bod wastad" arwydd o'i gyflyrau niwrowahanol pan yn blentyn.

Ag yntau heb gael diagnosis, fe gafodd brofiad anodd yn yr ysgol, gydag athrawon yn dweud wrth ei fam bod angen iddyn nhw "ostwng ein disgwyliadau o Alex".

"Ro'n i'n cael fy meio am bethau yn yr ysgol, hyd yn oed os o'n i ddim mewn y diwrnod yna," meddai.

"Oeddwn i ddim yn gas 'na'n ddrwg, o'n i jest yn mynd o gwmpas pethau yn fy ffordd fy hun."

Yn 30 oed, cafodd Dr George ddiagnosis o ADHD yn 2022, ac yna OCD yn Hydref 2025.

Mae hefyd yn disgwyl i dderbyn canlyniadau asesiad awtistiaeth.

Mae'n credu y byddai derbyn diagnosis cynt o'r cyflyrau wedi "newid fy mywyd".

"Fe wnes i ddioddef cymaint yn ddiangen gan nad oeddwn i wedi cael diagnosis pan oeddwn yn iau.

"Byswn i wedi gallu defnyddio fy mhwerau yn llawer iau - dwi'n hynod o greadigol, pan dwi'n ffocysu ar rywbeth does 'na neb yn gallu stopio fi.

"Y gwahaniaeth rhwng goroesi neu ddim, neu ffynnu, fyddai cael y diagnosis yna, ac mae hynna'n rhywbeth sy'n gallu cael eu trwsio."

Mae Dr George yn dweud bod ei frawd Llŷr, fu farw o hunanladdiad yn 2020, hefyd yn niwrowahanol - rhywbeth sydd yn cynyddu'r risg o hunanladdiad.

Dr Alex GeorgeFfynhonnell y llun, Olivia Spencer
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr George wedi gwario £3,000 er mwyn derbyn asesiadau ADHD ac awtistiaeth

Mae Dr George yn dweud ei fod yn ddigon ffodus o allu fforddio gwario miloedd ar asesiadau ADHD ac awtistiaeth - rhywbeth roedd yn teimlo ei fod wedi gorfod gwneud oherwydd rhestrau aros hir y gwasanaeth iechyd.

"Mae o'n swm poenus o arian i wario, ond dwi'n ffodus fy mod yn gallu fforddio hynny.

"Mae 'na gymaint o rwystrau ar gyfer mynediad, ac mae rhestrau aros yn annerbyniol.

"Y cwestiwn yw 'ydyn ni am dderbyn hynna, a beth ydyn ni am wneud i newid e?'"

16,812 o blant a phobl ifanc yn aros

Yn ôl ymchwil gan y Senedd yn 2024 roedd 16,812 o blant a phobl ifanc yn disgwyl am asesiad awtistiaeth neu ADHD yng Nghymru yn 2023.

Mae'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn dweud bod rhai yn dewis talu ar gyfer asesiadau oherwydd rhestrau aros byrrach.

Ond mae'r elusen hefyd yn dweud bod rhai yn gweld hi'n anodd cael y gwasanaeth iechyd i dderbyn diagnosis preifat, ac yn annog pobl i sicrhau safbwynt eu bwrdd iechyd lleol cyn talu.

Mae'r un pryderon wedi cael eu codi am ddiagnosis preifat ADHD yn y gorffennol.

Dr Alex GeorgeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Dr Alex George i enwogrwydd ar ôl ymddangos ar raglen Love Island yn 2018

Mae Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU, Wes Streeting, wedi lansio adolygiad annibynnol i'r cynnydd yn y galw am gymorth ADHD, awtistiaeth ac iechyd meddwl, gan gynnwys a oes gor-ddiagnosio.

Ond mae Dr George yn dweud bod cyflyrau o'r fath yn cael eu tan-ddiagnosio.

"Wrth ddweud pethau fel 'ni eisiau edrych i mewn i or-diagnosis', mae hynny'n awgrymu bod gor-ddiagnosis.

"Y ffaith yw bod hynny yn hollol anghywir.

"Be' dwi eisiau gweld yw y llywodraeth yn ffocysu ar sut i wella amseroedd aros am asesiadau, gwella cefnogaeth mewn ysgolion, a chreu amgylchedd ble chi ddim yn cael eich gwneud i deimlo yn wahanol pan 'da chi'n derbyn diagnosis o awtistiaeth, dyslecsia, dyspracsia, ADHD neu lawer o gyflyrau niwro wahanol eraill."

Dr Alex George a'i gi, RoloFfynhonnell y llun, Olivia Spencer
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr George hefyd yn trafod yfed, galar ac unigrwydd yn ei lyfr newydd

Fe wnaeth yr ymgyrchydd iechyd meddwl ddechrau ysgrifennu ei lyfr diweddaraf, Am I Normal?, "ar ddamwain" wrth iddo ddechrau ateb cwestiynau fel rhan o'i asesiad ADHD dair blynedd yn ôl.

"O'n i yn trio datrys os mai fi neu'r byd oedd e? Ydw i yn normal?

"Hwnna oedd y cwestiwn o'n i'n gofyn i fy hun, felly nes i eistedd i lawr gyda fy nyddiadur a chychwyn ysgrifennu'r holl gwestiynau 'ma i lawr.

"Mae'n wahanol i lyfrau eraill o'r math yma, oherwydd dyw e ddim yn llyfr hunain-help - dyw e ddim yn rhoi toptips ar gyfer byw bywyd hapus.

"Mae e yn bendant yn edrych ar fy mywyd i drwy'r cwestiynau yma."

'Profiadau cyffredin'

Tra bod y llyfr wedi ei ysgrifennu o'i brofiad o fyw gyda ADHD ac OCD, mae Dr George hefyd yn trafod pynciau fel yfed, galar ac unigrwydd.

"Mae'r llyfr yma ar gyfer unrhyw un sydd wedi gofyn i'w hunain 'ydw i yn normal?'

"Mae'r rhain yn brofiadau cyffredin, ac mae o'n herio lot o bethau sy'n cael effaith ar bawb mewn cymdeithas."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod yr angen am adnabod achosion o gyflyrau niwroddatblygiadol yn amserol a chefnogi'r bobl hynny.

"Rydyn ni eisoes wedi cymryd camau i fynd i'r afael â'r heriau hyn gyda'n Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth, gyda'r ffocws ar hyn o bryd ar leihau amseroedd aros ar gyfer asesiadau plant," meddai llefarydd.

"...Yn ddiweddar fe wnaethon ni gyhoeddi rhaglen o weithrediadau i gefnogi'r gwaith o ddiwygio'r system anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion, gan gynnwys cyllid ychwanegol, mwy o hyfforddiant a chyhoeddi canllawiau i gefnogi rhieni a gofalwyr."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig