'Da ni'n colli pres' – Busnesau'n poeni am waith pont newydd Betws-y-coed

Delwedd wedi'i chynhyrchu gan gyfrifiadur o sut fydd y bont newydd yn edrych. Mae capel a pharc carafannau yn y cefndir.Ffynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio
Disgrifiad o’r llun,

Mae pont droed newydd yn cael ei chodi dros afon Conwy ar gost o £7m

  • Cyhoeddwyd

Mae rhai busnesau ym Metws-y-coed yn anhapus gyda'r ffordd maen nhw wedi eu trin gan gyngor wrth i bont droed newydd gael ei chodi dros Afon Conwy.

Roedd rhaid dymchwel yr hen Bont y Soldiwr - neu Sappers Bridge - am nad oedd hi'n ddiogel, ac mae croesiad newydd, lletach yn cael ei godi ar hyn o bryd.

Ond mae'r clwb golff lleol a pharc carafannau sy'n ddibynnol ar yr unig ffordd heibio'r safle adeiladu yn anfodlon.

Mae Cyngor Sir Conwy yn dweud eu bod wedi ceisio lleihau effaith y gwaith.

Delyth Pierce mewn crys polo pinc, cardigan glas, a gilet llwyd. Mae hi'n sefyll o flaen cwrs golff.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Delyth Pierce yn dweud bod y clwb golff yn colli refeniw oherwydd y gwaith ar y bont

Yn ôl capten tîm merched clwb golff Betws-y-coed, Delyth Pierce, maen nhw'n teimlo nad oes ots gan y cyngor am glwb "bach" fel nhw.

"I bobl sydd wedi bwcio tair wsos yn ôl, 'dan ni'n gorfod d'eud wrthan nhw bo' nhw ddim yn cael chwarae.

"Felly be' 'dan ni wedi'i 'neud ydy peidio cymryd y bookings yna ymlaen llaw, so 'dan ni wedi colli'r refeniw yna.

"Dwi just yn teimlo mai clwb bach ydan ni a dim ots gan y cyngor amdanom ni. Ond 'dan ni'n colli pres a 'dan ni'n strugglo fel mae hi."

Delwedd wedi'i chynhyrchu gan gyfrifiadur o sut fydd y bont newydd yn edrych. Mae caeau gwyrdd yn y cefndir.Ffynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o'r bont newydd, fydd yn cysylltu gyda llwybr teithio i gyfeiriad Llanrwst

Wedi ei henwi ar ôl y milwyr a gododd y croesiad cyntaf yn y llecyn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, doedd Pont y Soldiwr, a gafodd ei chodi yn 1930, ddim yn ddiogel erbyn 2021, ac mi gafodd ei chau.

Ar gost o £7m, fe fydd y bont newydd yn lletach ac yn fwy addas ar gyfer beiciau, cadeiriau olwyn a phramiau.

Fe fydd hi'n cysylltu gyda llwybr teithio iach i gyfeiriad Llanrwst.

Ond mae tywallt y cannoedd o dunelli o goncrid ar gyfer y seiliau weithiau'n golygu cau'r ffordd am y diwrnod.

Owen Davis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Owen Davis yn dweud bod unrhyw golled ariannol yn "fawr" i'r clwb golff

Er nad oes sail gyfreithiol, mae'r clwb golff wedi gofyn am iawndal o dros £5,500 gan y cyngor.

"I glwb fel ni – 'dan ni'n glwb bach, 'dan ni'n strugglo i gadw dau ben llinyn ynghyd – ydy, mae o'n swm mawr i ni," meddai Owen Davis, aelod o bwyllgor y clwb golff.

"Mae unrhyw golled yn fawr i ni."

Busnes arall sydd wedi ei effeithio gan y gwaith ydy parc carafannau Riverside Touring.

Fe gaeon nhw am y gaeaf chwe wythnos yn gynnar oherwydd yr ansicrwydd gyda'r ffordd, ac maen nhw'n dweud eu bod yn teimlo'n rhwystredig.

Mae'r parc carafannau a'r clwb golff yn pwysleisio eu bod yn cefnogi'r prosiect ac yn canmol y contractwyr, ond maen nhw'n teimlo y gallai Cyngor Sir Conwy fod wedi eu trin yn well.

Mynwent
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd platfform dros dro ei osod uwchben rhai o'r beddau yn y fynwent leol i ganiatáu i gerbydau basio

Mae'r ffordd heibio safle'r gwaith yn pasio mynwent leol, ac er mwyn cadw'r lôn ar agor, mae'r contractwyr a'r cyngor wedi tynnu rhan o wal y fynwent i lawr.

Gyda chaniatâd teuluoedd, mae platfform dros dro wedi ei osod uwchben rhai o'r beddau i ganiatáu i gerbydau deithio.

Andrew Wilkinson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Wilkinson yn dweud bod y cyngor wedi ceisio lliniaru effaith y gwaith

Roedd hynny'n "her beiriannyddol" yn ôl Andrew Wilkinson, Pennaeth Gwasanaethau Cymdogol Cyngor Sir Conwy.

"Wrth gwrs, rydyn ni'n ymddiheuro am yr anghyfleustra a'r aflonyddwch ac wedi trio gwneud trefniadau sy'n addas i'r busnesau.

"Yn anffodus does dim sail statudol ar gyfer iawndal."

Mae disgwyl i'r bont newydd agor yn yr hydref.