CBDC yn gwahardd dyn ar ôl digwyddiad mewn gêm ym Mhorthmadog

Mae'r gwaharddiad yn ymwneud â digwyddiad mewn gêm rhwng Bae Trearddur a Phorthmadog ar 17 Ionawr
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-chwaraewr pêl-droed i Fae Trearddur wedi cael ei wahardd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru [CBDC] tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i honiad ei fod wedi ymddwyn yn dreisgar.
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal wedi digwyddiad mewn gêm yn erbyn Porthmadog, yn nhrydedd haen y pyramid Cymreig - yr Ardal North West ar 17 Ionawr.
Cafodd fideo ei rannu yn helaeth ar y we ar y cyfryngau cymdeithasol, oedd i weld yn dangos un o chwaraewyr Bae Trearddur yn taro chwaraewr Porthmadog yn ei wyneb.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd ar y pryd eu bod yn ymwybodol o'r fideo a bod dyn 35 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod.
Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach dywedon nhw ei fod wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod yr heddlu yn disgwyl cyngor ynglŷn â chyhuddiadau troseddol posib.
Ni wnaeth yr heddlu enwi'r dyn, ond mae CBDC bellach wedi dweud fod Thomas Taylor wedi cael ei atal rhag unrhyw weithgaredd sy'n gysylltiedig â phêl-droed.
Mae gan Mr Taylor tan 17:00 4 Chwefror i ymateb i'r cyhuddiad, yn ôl CBDC.
Cadarnhaodd Clwb Pêl-droed Bae Trearddur, pan gafodd y dyn ei arestio, fod y chwaraewr dan sylw wedi cael ei ryddhau o'r clwb "yn dilyn adolygiad mewnol".
Dywedodd CPD Porthmadog ar y pryd mai eu prif bryder oedd lles eu chwaraewr, oedd yn "gwella gartref" ar ôl cael cyfergyd.
Rhyddhau dyn ar fechnïaeth wedi digwyddiad gêm bêl-droed Porthmadog
- Cyhoeddwyd19 Ionawr
Arestio dyn, 35, wedi digwyddiad gêm bêl-droed Porthmadog
- Cyhoeddwyd19 Ionawr
Dywedodd CBDC fod y penderfyniad i atal Mr Taylor wedi cael ei wneud yn dilyn "adolygiad gan gadeirydd annibynnol".
Yn ôl y gymdeithas, mae Mr Taylor wedi cael ei atal o dan Reol 39.6 ac ymhlith y pethau nad yw'n cael eu gwneud mae:
Mynychu unrhyw gêm bêl-droed sy'n cael ei chwarae ar gae sydd o dan awdurdodaeth CBDC;
Cymryd rhan mewn unrhyw gêm bêl-droed sy'n cael ei chwarae ar gae sydd o dan awdurdodaeth CBDC;
Mynychu neu gymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau hyfforddi sy'n gysylltiedig ag unrhyw glwb sydd o dan awdurdodaeth CBDC;
Cyflawni unrhyw ddyletswyddau gweinyddol sy'n gysylltiedig â phêl-droed neu glwb pêl-droed.
Ychwanegodd CBDC eu bod yn "cydnabod gweithredoedd rhagweithiol Bae Trearddur yn dilyn y digwyddiad honedig a'u parodrwydd i gymryd rhan weithredol yn y broses ddisgyblu".
Apêl am dystion
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd yn gynharach yn y mis eu bod yn "ymwybodol o'r lluniau fideo sy'n cael eu rhannu ar-lein, ac yn ddiolchgar i'r bobl hynny wnaeth roi gwybod i ni am y digwyddiad. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r dioddefwr".
"Rydyn ni bellach yn gofyn i'r unigolyn wnaeth ffilmio'r fideo i ddod yn ei flaen fel bod modd cael datganiad ffurfiol i ni ei gynnwys fel rhan o'r achos sy'n cael ei gyflwyno i Wasanaeth Erlyn y Goron.
"Hoffwn hefyd ofyn i unrhyw un oedd yn dyst i'r digwyddiad, ac sydd heb siarad gyda'r heddlu hyd yma, i gysylltu â ni."
Ychwanegodd fod yr achos yn un gweithredol a bod rhannu gwybodaeth neu drafod euogrwydd yn gallu arwain at sgil effeithiau cyfreithiol.