Jade Edwards-Leaney: Y dyn o Ffestiniog sy'n hwylio rownd y byd

Jade Edwards-LeaneyFfynhonnell y llun, Jade Edwards-Leaney
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Globe 40 yn un o'r rasys hwylio mwyaf yn y byd - dau berson ar gwch monohull, gyda chwe chymal yn mynd â nhw rownd y byd.

Un o'r cystadleuwyr eleni ydi Jade Edwards-Leaney, Cymro Cymraeg o bentref Manod, ger Blaenau Ffestiniog

Ar hyn o bryd mae Jade ar ei ffordd i Valparaíso yn Chile, sef checkpoint nesaf y daith.

Siaradodd Jade gyda Cymru Fyw o'i gwch yn y Cefnfor Tawel.

CwchFfynhonnell y llun, Jade Edwards-Leaney
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jade wedi bod â pherthynas agos â'r môr ers dros 30 mlynedd

Symudodd Jade i ardal Blaenau Ffestiniog yn bedair oed, ac mae'n ystyried gogledd Cymru fel ei gartref.

"Mae gogledd Cymru wedi bod yn gartref ac yn faes chwarae i mi erioed," meddai.

Aeth i Ysgol Manod ac mae'n ei ddisgrifio fel "yr ysgol gyda'r olygfa banoramig orau o'r ardal".

"Dwi'n cofio sefyll ar y maes chwarae yn cynllunio teithiau'r penwythnos yn y mynyddoedd o amgylch - adeiladu bomb-proof shelters, mynd i'r chwareli, adeiladu argaeau... roedd o'n faes chwarae diddiwedd!

"Bellach dwi'n mynd i'r llefydd yna efo fy dwy ferch fach, Erin a Maeve - maen nhw'n hoffi antur hefyd."

Ond roedd hwylio hefyd yn rhan fawr o fywyd Jade yn blentyn: "Fe dreuliais dwy flynedd gyntaf fy mywyd yn byw ar houseboat."

cwchFfynhonnell y llun, Jade Edwards-Leaney
Disgrifiad o’r llun,

Jade a'i bartner, Lisa, ar ddechrau'r daith

Aeth Jade i Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, ac yna i Ysgol Ardudwy yn Harlech. Mae'n dweud mai uchafbwynt ei addysg uwchradd oedd wythnos o brofiad gwaith ym Marina Pwllheli, ble ddisgynnodd mewn cariad â hwylio.

Yn dilyn dwy flynedd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor Dolgellau, aeth ymlaen i astudio ffotograffiaeth yn y brifysgol.

"Wedi fy amser yn Nolgellau es i'r brifysgol yn Truro, Cernyw. Agorodd yr ardal fy llygaid i'r byd yn llwyr, ac roeddwn i'n gweithio ar gychod ac yn hwylio bob cyfle o'n i'n ei gael."

Yn fachgen ifanc roedd Jade yn helpu ei Dad i adeiladu cychod ym Mhorthmadog.

Fe wnaeth hefyd groesi'r Iwerydd gyda'i Dad, gan hwylio yn y llynnoedd mawr yng Ngogledd America, y Caribî, ac o amgylch de Sbaen a môr y Canoldir.

Y 'Globe 40'

Esboniodd Jade rhai o brif elfennau'r ras: "Mae pob un o'r cychod yn y ras yn 'nosbarth 40', sy'n golygu eu bod wedi'u hadeiladu o dan yr un rheolau ond bod ganddyn nhw ddyluniadau gwahanol o fewn y rheolau hynny.

"Maen nhw i gyd yn 40 troedfedd o hyd, maen nhw i gyd yn pwyso o leiaf 4500kg, yr unig ffibr carbon a ganiateir yw'r mast, y bŵm a'r bowsprit.

"Ond, mae dyluniadau'r gragen yn amrywio'n fawr, gyda'r rhai newydd yn costio ymhell dros £1 miliwn a'r fersiynau hŷn tua degfed y gost yna."

Cafodd cwch Jade (Akilaria RC2) ei adeiladu yn 2010 a rhif y gragen yw 93.

CwchFfynhonnell y llun, Jade Edwards-Leaney
Disgrifiad o’r llun,

Cwch Jade yw'r hynaf yn y ras

Prynwyd y cwch gan Lisa, sydd wedi ei henwi'n Wilson gan y cwpl, yn ne Sbaen, ac fe deithiodd y ddau arni yn ôl i Bwllheli er mwyn gwneud y gwelliannau angenrheidiol ar gyfer y ras.

Fe gymerodd 10 mis i baratoi'r cwch ac roedd yn broses heriol tu hwnt.

Dechreuodd y ras yn Lorient ym mis Medi 2025, gyda chwe chymal yn mynd a'r cychod rownd y byd o'r gorllewin i'r dwyrain. Mae'r daith yn 30,000 o filltiroedd morol, sy'n cyfateb i thua 35,000 milltir ar y ffordd.

Y cam cyntaf (oedd ddim yn rhan o'r ras) oedd hwylio o Bwllheli i Lorient, gyda'r teulu a ffrindiau'n ffarwelio yn y marina - y diwrnod cyntaf o 150 ar y dŵr.

Cymalau'r ras yw:

  • Lorient i Cadiz

  • Cadiz i Mindelo, Cape Verde

  • Mindelo i ynys La Reunion

  • La Reunion i Sydney

  • Sydney i Valparaiso, Chile

  • Valparaiso i Recife, Brasil

  • Recife yn ôl i Lorient

Ras JadeFfynhonnell y llun, Globe 40
Disgrifiad o’r llun,

Llwybr y ras o amgylch y byd

Dywed Jade ei fod yn gwneud yr her ar gyllideb fechan, gan ddefnyddio'r amser rhwng y cymalau i wneud gwelliannau ar y cwch, ble mae cystadleuwyr eraill efo tîm i'w cefnogi ar bob cymal.

"Mae fy mlynyddoedd o weithio ar gychod o saith oed ymlaen yn helpu'n fawr rŵan," meddai Jade.

Wrth ochr Jade yn y ras mae ei gariad, Lisa Berger. Daw Lisa o Awstria ac mae hi'n hwylio'n broffesiynol - mae hi'n enw eitha' mawr yn y maes, gyda dilyniant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Fe ddechreuodd hi hwylio'n ifanc gyda'i theulu a dyna yw ei bywyd hi. Yn 2023 fe wnaeth hi gwblhau ras unigol ar draws yr Iwerydd mewn 'Mini Transat'," meddai Jade.

"Mae hi wedi cyflawni gymaint o fewn y gamp - mae hi wir yn elît, ac mae hi am wneud pethau anhygoel yn y byd hwylio yn y dyfodol."

CwchFfynhonnell y llun, Jean-Marie Liot / Globe 40
Disgrifiad o’r llun,

Llun swyddogol o Jade a Lisa ar ddechrau'r daith

Felly, sut mae bywyd o ddydd i ddydd ar y cwch?

"'Dan ni'n coginio ar stôf fechan, bwced yw'r toiled, a 'dan ni'n 'molchi drwy daflu bwced (un gwahanol!) o ddŵr halen oer dros ein hunain."

"Mae'r cysgu'n digwydd rhwng beanbag a chaban bach cul.

"Mae pwysau'n ffactor bwysig ar y cychod, felly mae be 'dan ni'n ei gario'n gallu cael ei symud o un ochr y cwch i'r llall, er mwyn cadw'r balans yn unol â sut mae'r gwynt yn chwythu."

Molchi ar y cwchFfynhonnell y llun, Jade Edwards-Leaney
Disgrifiad o’r llun,

Fel hyn mae Jade a Lisa'n 'molchi yn ystod y daith...

Dywed Jade eu bod yn cario digon o ddŵr i yfed a choginio, gan godi mwy rhwng y cymalau.

"Mae'r rhan fwyaf o'r hyn 'dan ni'n ei fwyta wedi'i rewi-sychu, pethau tebyg i boil in a bag, ynghyd ag un wy wedi'i ferwi'r dydd a snacks.

"'Dan ni'n cario cwrw a siampên ar gyfer adegau fel croesi'r Cyhydedd a mynd rownd rhyw benrhyn fel De Affrica neu De America. Does 'na ddim scurvey ar y cwch hyd yma," meddai dan chwerthin.

CwchFfynhonnell y llun, Jade Edwards-Leaney
Disgrifiad o’r llun,

Dathlu mynd rownd rhan ddeuhol cyfandir Affrica

Dywed Jade bod 'na ddim achos o banig difrifol wedi bod ar y cwch hyd yma, a bod y problemau sydd wedi codi wedi eu datrys yn agos i ddiwedd cymalau, gyda chyfle i atgyweirio mewn porthladd.

"Yr her fwyaf o bell ffordd oedd cyrraedd y llinell gychwyn, cwblhau'r gwaith adnewyddu mewn pryd a phasio'r cwrs cymhwyso er mwyn i ni allu gwneud y ras."

Mae trefnu materion bywyd personol hefyd wedi bod yn her yn ôl Jade.

"Gan bo' ni'n mynd mor bell yn y ras y peth anodda' i fi ydi delio â hiraethu am fy ddwy ferch - maen nhw'n ifanc ac dwi'n agos iawn atyn nhw, felly roedd ffarwelio ar y pontŵn ym Mhwllheli yn ofnadwy o anodd," esboniodd.

"Ond mae'r ffordd maen nhw 'di delio â'r cyfan wedi bod yn wych. Maen nhw'n defnyddio'r sefyllfa i ddysgu mwy am y byd a dilyn fy nhaith.

"Mi fydda i'n dod 'nôl fel tad balch iawn, a dwi eisiau dangos iddyn nhw beth 'allan nhw hefyd ei wneud os ydyn nhw'n rhoi eu meddwl ar rywbeth."

Maeve ac ErinFfynhonnell y llun, Jade Edwards-Leaney
Disgrifiad o’r llun,

Merched Jade, Maeve (ar y chwith) ac Erin (ar y dde) yn dilyn taith Dad ar y map

Mae Jade yn falch ei fod wedi penderfynu gwneud yr her: "Roeddwn i'n agosáu at 40 oed ac mewn comfort zone, ond o'n i'n teimlo fyswn i'n gallu gwneud cymaint mwy.

"Ar y daith 'ma o'n i eisiau gwthio fy hun, yn gorfforol ac yn feddyliol.

"Yn ddibynnol ar sut mae gweddill y ras yn mynd, hoffwn barhau a gwneud mwy o rasio ar y moroedd - fel pâr ac ar fy mhen fy hun.

"Dwi'n gyfforddus efo mynd â pheiriant rydw i wedi'i roi at ei gilydd i rannau anghysbell o'r byd. Dwi'n edrych ymlaen at yr heriau nesaf, a phwy a ŵyr, efallai taith ddi-stop ar ben fy hun o amgylch y byd."

jade a lisaFfynhonnell y llun, Jade Edwards-Leaney

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig