'Gynno ni ddyletswydd' i helpu plant Patagonia i ddod yma - athrawes

Grŵp dawnsio gwerin Ysgol Gerdd y GaimanFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae grŵp dawnsio gwerin Ysgol Gerdd y Gaiman yn mwynhau cystadlu ac mae nifer o blant yno'n awyddus i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd

  • Cyhoeddwyd

"Mae gynno' ni ddyletswydd fel Cymry" i helpu plant Patagonia i ddod yma yn ôl un o drefnwyr tripiau ysgol sy'n poeni am y cynnydd mewn costau i bobl Patagonia.

Dywedodd Sioned Glyn, sy'n athrawes yn Ysgol Uwchradd Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, mai breuddwyd plant y Wladfa "ydy gallu ymweld â Chymru ryw ddiwrnod".

Ond bellach mae'n costio bron i £3000 y plentyn i ddod yma yn ôl y trefnwr ym Mhatagonia, ac mae rhieni yn y Wladfa'n "ffeindio hi'n anodd i dalu am lefydd i'w plant aros", meddai Sioned Glyn.

Mae plant o Ysgol Gerdd y Gaiman yn dweud eu bod wedi clywed a dysgu am Gymru ers yn ifanc iawn ac felly mae "mynd i Gymru fel y freuddwyd orau".

Sioned GlynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sioned Glyn yn dweud ei bod hi'n dorcalonnus bod y costau teithio i Gymru wedi codi gymaint

Mae Sioned Glyn, sydd wedi bod i Batagonia ddeuddeg o weithiau, yn awyddus i helpu gymaint o bobl ag y gallai i ddod draw o Batagonia i Gymru.

Ond gyda chyflogau is yn yr Ariannin a chostau byw uwch yng Nghymru meddai mae'n mynd yn anoddach cadw'r teithiau'n fforddiadwy i blant Patagonia.

"Mae'n dorcalonnus i ddeud y gwir.

"'Da ni just isio rhoi yr un croeso iddyn nhw a maen nhw'n rhoi i ni," ychwanegodd.

Mae wedi trefnu dau drip ysgol hyd yma o Gymru i Batagonia, un yn 2023 ac un yn 2025, a dywedodd bod plant "wrth eu boddau" yno a phlant y Wladfa "wedi gwirioni gyda'n criw a bod Cymry wedi dod draw".

Ond "mae'n anodd" meddai, "ma' nhw'n gweld ni'n mynd draw a ma' nhw just isio gneud yr un peth".

Mae criw yn gobeithio dod draw o Batagonia ym mis Tachwedd ond dydy Sioned ddim yn siŵr a fydd hynny'n bosibl i bawb sydd wedi mynegi diddordeb, gan fod "y gost wedi codi gymaint".

"Mae lot o waith i'w wneud rŵan" meddai "a trio meddwl am sut ydyn ni'n mynd i helpu nhw pan maen nhw'n dod draw."

Mae'n gobeithio gallu lleihau'r costau gymaint â phosib a dod o hyd i lety a gweithgareddau rhesymol.

"Dwi 'di holi ambell i le - dwi wedi holi'r Urdd a gofyn tybad a fysa' nhw'n rhoi gostyngiad iddyn nhw ond yn anffodus ma' nhw 'di gwrthod".

Dywedodd bod hynny'n siomedig yn enwedig o ystyried "y croeso ma' pobl Patagonia bob amser yn ei roi i ni".

Mewn ymateb fe ddywedodd yr Urdd eu bod "yn falch o'n cysylltiadau hirhoedlog â'r Wladfa ac rydym wastad yn agored i drafodaethau sy'n cryfhau'r berthynas honno".

Fe ychwanegon nhw "fel elusen ieuenctid, mae'n rhaid i ni lynu at ein polisïau yswiriant, iechyd a diogelwch, ac nid ydym mewn sefyllfa i gynnig llety neu wasanaethau am brisiau gostyngol i deithiau sy'n cael eu trefnu'n annibynnol".

Gwion Elis-WilliamsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cymro Gwion Elis-Williams, sy'n byw ac yn berchen gwesty ym Mhatagonia yn dweud bod y "cyfleoedd yn brin" i bobl ifanc yr ardal deithio i Gymru

Mae Gwion Elis-Williams, sydd o Fethesda yn wreiddiol ond sydd bellach wedi byw ym Mhatagonia ers dros ddegawd, yn aml yn helpu gyda'r tripiau.

Dywedodd fod "y ffaith bod hi'n anoddach i bobl o Batagonia deithio draw i Gymru" yn broblem.

"Mae plant a phobl ifanc fan hyn - mae rhai ohonyn nhw wedi bod yn dysgu am Gymru ers iddyn nhw fod yn dair oed.

"Wedyn erbyn iddyn nhw dyfu i fyny a dod yn arddegwyr maen nhw'n bron â torri'u boliau isio teithio draw i Gymru a chael gweld be' mae'r ffys i gyd amdan 'lly."

Ond esboniodd bod y "cyfleoedd yn brin iawn achos dydy economi sydd gynno ni fan hyn yn Yr Ariannin ddim yn caniatáu i deulu cyffredin deithio draw i Gymru".

O'r chwith i'r dde - Morena, Emilia, Ian a CarolinaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Morena (chwith), Emilia, Ian a Carolina yn breuddwydio am ddod i Gymru a chystadlu yn Eisteddfod yr Urdd

Mae Ariela Gibbon, athrawes yn Ysgol Gerdd y Gaiman ym Mhatagonia yn dweud "fel athrawes dwi isio bo' nhw [y plant] yn mynd i Gymru i gael profiad Cymraeg go iawn".

"Trwy'r amser maen nhw'n clywed am Gymru, am yr iaith Gymraeg."

Aeth ymlaen i esbonio bod yr ysgol yn "gweithio'n galed" i godi arian er mwyn gallu dod i Gymru – drwy werthu crysau-T 'Patagonia Annwyl' a drwy greu tudalen GoFundMe.

Pwysleisiodd bod disgyblion yr ysgol yn ysu am y profiad.

"'Da ni isio dawnsio achos 'da ni'n grŵp dawnsio gwerin Cymraeg. Felly 'da ni eisiau mynd i Eisteddfod yr Urdd i gystadlu," meddai Emilia.

"'Da ni isio mynd i Gymru achos 'da ni'n gallu dysgu mwy o Gymraeg, 'da ni'n gallu dawnsio gwerin yng Nghymru, a ma' hwnna'n un o'r pethau arbennig" yn ôl Ian.

Ychwanegodd Carolina ei bod "wedi dechrau astudio Cymraeg yn yr ysgol feithrin neu'r ysgol gynradd - felly, mae mynd i Gymru fel y freuddwyd orau".

Dylan Wyn Evans a Kiara Arce ThomasFfynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan o Gaernarfon, a Kiara o Batagonia yn credu ei bod hi'n bwysig iawn bod y tripiau yma ar gael i'r ddwy ochr

Mae Kiara Arce Thomas yn 19 oed ac yn fyfyrwraig yn Buenos Aires ac fe ddaeth hi i Gymru am y tro cyntaf yn 2024.

Dywedodd bod cynnig cyfleoedd i wneud hynny'n bwysig iawn "achos mae yna llawer o bobl fama yn y Gaiman sy'n dod o deuluoedd Cymreig a maen nhw'n siarad Cymraeg ers blynyddoedd" ond " pan ti wedi astudio'r iaith ers blynyddoedd ti'n gallu teimlo... Beth yw'r pwynt os dwi ddim yn mynd?"

Fe aeth Dylan Wyn Evans, athro yn Ysgol Syr Hugh ar daith i Batagonia ym mis Hydref a dywedodd bod y bobl yno'n "gweld [dod i Gymru] yn gymaint o uchelgais" ac "yn nod mawr hyd yn oed yn ifanc".

"Mae'n brofiad dylsa bo' ni'n codi ymwybyddiaeth a chodi arian fel bod plant o'r ddwy ochr yn gallu cael y profiad 'ma," ychwanegodd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.