Ffermwyr yn sicrhau hawl i geisio adolygiad barnwrol dros beilonau

Arwydd ar giat fferm yn amlygu gwrthwynebiad i'r posibilrwydd o osod peilonau yn ardal Llandeilo
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwrthwynebiad mawr wedi bod i'r posibilrwydd o godi peilonau ar hyd dros 200 cilomedr yng nghefn gwlad Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae dros 300 o ffermwyr a thirfeddianwyr yn y gorllewin a'r canolbarth wedi sicrhau'r hawl i geisio adolygiad barnwrol yn erbyn cwmni ynni sy'n bwriadu adeiladu tri llwybr ar gyfer peilonau.

Mae'r ymgyrchwyr yn honni bod ymddygiad Green GEN Cymru yn "anghyfreithlon" wrth geisio cael mynediad at dir preifat.

Yn ôl bargyfreithwyr yr ymgyrchwyr, mae'r hawl i geisio adolygiad barnwrol wedi ei ganiatáu ar bedwar pwynt - torri hawliau dynol, ymddygiad anghyfreithlon, defnydd afresymol o bŵer, a gweithredu yn amhriodol.

Mae Green GEN Cymru yn dweud bod eu tîm cyfreithiol yn asesu goblygiadau'r penderfyniad ac nad ydyn nhw am wneud sylw pellach ar y mater ar hyn o bryd.

Dywedodd llefarydd: "Yn y cyfamser, mae cynnal arolygon amgylcheddol ac ecolegol cyn-ymgeisio arferol yn hanfodol i sicrhau bod effeithiau posib ein prosiectau yn cael eu deall yn llawn gan y busnes, yr arolygwyr cynllunio, a'r cymunedau sy'n cynnal y seilwaith hwn.

"Rydym bob amser wedi ceisio dod i gytundebau mynediad cyfeillgar gyda thirfeddianwyr ac ymgysylltu'n helaeth â chymunedau lleol, gan sicrhau bod yr holl waith yn cael ei wneud gydag ystyriaeth a pharch tuag at bobl leol a'r amgylchedd.

"Mae datblygu'r seilwaith hanfodol hwn yn allweddol i ateb heriau ein dyfodol o ran ynni ac i adeiladu rhwydwaith ynni cadarn a dibynadwy sy'n galluogi pobl ledled Cymru i elwa o ddyfodol ynni mwy sicr.

"Rydym yn ceisio datrys y materion sy'n weddill yn fuan a pharhau â'n gwaith hanfodol."

Lowri Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lowri Davies yn dweud bod "nifer o broblemau yn dod yn sgil y peilonau"

Mae Newyddion S4C wedi siarad gyda ffermwr a milfeddyg o ardal Caerfyrddin sy'n rhan o'r ymgyrch.

"Mae 'na nifer o broblemau yn dod yn sgil y peilonau," medd Lowri Davies.

"I ddechrau mae e'n mynd i fod yn o flaen ffenest y gegin - y peth cynta' fyddi di'n gweld wrth edrych mas fydd y peilonau.

"Yn ail mae e'n mynd i amharu ar sut ni'n gallu ffermio'r tir, achos pan mae gen ti beilon mawr ynghanol cae dyw e ddim yn gweithio.

"Dyw e ddim fel caeau dwyrain Lloegr, caeau anferth. Caeau bach sydd gyda ni, a ma' cael peiriannau fewn i weithio rownd, mae'n golygu bod y tir... byddwn ni methu ffermio fe.

"Ni ddim mo'yn pobl yn dod ar y tir heb bod ni'n gwybod pwy y'n nhw.

"Ma' nhw'n troi lan. Bydden nhw'n cnoco ar y drws a dim rhybudd bod nhw'n dod."

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi nodi eu bwriad i geisio bod yn wlad sero net erbyn 2050, ond mae'r polisi wedi arwain at anghytuno a thrafod brwd, gyda'r cynllun yma yn un enghraifft o hynny.

Mae disgwyl i'r adolygiad barnwrol ddigwydd ym mis Ebrill.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.