Galw am fwy o newid i reolau llety gwyliau wedi bil treth £5,000

AberystwythFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae PASC Cymru'n dweud bod rheolau Llywodraeth Cymru yn "lladd" y diwydiant hunanarlwyo

  • Cyhoeddwyd

Mae'r diwydiant twristiaeth yn disgrifio'r newidiadau diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud i reolau llety hunanarlwyo dadleuol fel rhai "mân".

Yn 2023 fe gafodd rheolau eu cyflwyno sy'n golygu bod unrhyw eiddo sydd â gwesteion am lai na 182 o nosweithiau'r flwyddyn yn cael eu cyfri fel ail gartrefi ac felly yn gymwys i dalu treth y cyngor – sydd mewn rhai ardaloedd yn cynnwys premiwm ychwanegol o hyd at 300%.

Dywed un perchennog busnes fod y rheolau wedi ei wneud yn sâl a'i fod wedi gorfod talu bil treth o £5,000 y llynedd.

Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru yn dadlau nad yw'r newidiadau diweddaraf yn mynd i'r afael â'r problemau sylfaenol ynglŷn â'r ddeddfwriaeth – sef y targedau uchel o nosweithiau gosod.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi ymateb "yn briodol i deimladau cryf gweithredwyr hunanarlwyo trwy osod meini prawf newydd".

Bydd tri newid yn dod i rym o 1 Ebrill 2026, sef bod gweithredwyr sy'n methu'r trothwy, o drwch blewyn, yn cael caniatâd i gyfrif y cyfartaledd o nosweithiau llawn dros dair blynedd.

Hefyd, bydd modd rhoi hyd at 14 noson fel rhodd i elusen a chyfrif y rheiny tuag at y cyfanswm o nosweithiau gosod.

Mae'r Llywodraeth hefyd eisiau i awdurdodau lleol "gefnogi gweithredwyr hunanarlwyo" i dalu'r gyfradd safonol o dreth cyngor am flwyddyn, cyn bod y premiwm uwch yn dod i rym.

Gwyndaf Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwyndaf Pritchard yn credu ei bod hi'n bosib y bydd rhaid iddo adael y sector twristiaeth os yw'r rheol 182 diwrnod yn parhau

Mae'r rheolau yn pwyso'n drwm ar Gwyndaf Pritchard, sy'n berchennog ar ddau lety hunanarlwyo yn Nwygyfylchi yng Nghonwy. Bu'n rhaid iddo dalu bil treth o £5,000 y llynedd.

"Mae'r rheol 182 yn fy ngwneud i'n sâl, fis Ebrill diwethaf ro'n i yn yr ysbyty am saith noson gyda salwch yn gysylltiedig â straen. Hynny, yn fy marn i, oherwydd ein bod ni'n ceisio cyflawni'r 182 noson yma," meddai.

"Mae'n fy nhristáu ei fod wedi cyrraedd y pwynt hwnnw, ond chi'n gyson ar y ffôn yn chwilio am y booking nesaf, yn edrych ar daenlenni (spreadsheets) yn ceisio cyflawni'r 182 noson. Mae'n swydd 24/7, a dwi methu cario 'mlaen fel hyn.

"I mi yn bersonol, os na fydd y 182 noson yn newid, yn anffodus byddai mewn sefyllfa lle bydd rhaid edrych o ddifrif ar werthu'r llety a gadael twristiaeth yn gyfan gwbl.

"Ni wedi ein clymu i mewn i bethau braidd, ac maen anodd dod allan ohono. Byddai hynny'n golygu symud fy nheulu o'r ardal hefyd."

Rheolau yn 'lladd' y diwydiant

Ers cael eu cyflwyno yn 2023, 60% o lety gwyliau Cymru sydd wedi cyrraedd y meini prawf.

Maen golygu bod 40% o'r eiddo bellach yn cael eu cyfrif fel ail gartrefi ac yn atebol am dreth cyngor.

Mae PASC Cymru'n cynrycholi llety gwyliau hunanarlwyo ledled Cymru yn dweud bod y rheolau yn "lladd" y diwydiant hunanarlwyo.

Mae Llion Pughe - sydd â llety hunanddarpar yng Nghemaes ger Machynlleth - yn dweud na ddylai eiddo sydd â chyfyngiadau cynllunio gael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth.

Does dim hawl byw mewn eiddo sydd wedi derbyn caniatâd cynllunio ar sail llety hunanarlwyo, ac felly ni fyddai'r tai yma yn addas fel cartrefi i bobl leol – sef bwriad Llywodraeth Cymru trwy gyflwyno'r rheolau.

"Mae'r mecanwaith yma'n cosbi'r bobl anghywir. Mae'n gorfodi pobl i fod yn fwy cynnil, i beidio â buddsoddi yn eu cymunedau ac mae'n llwyr fynd yn erbyn y gwaith sydd wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd i geisio dyrchafu'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru," meddai Mr Pughe.

Mae beirniadaeth hefyd bod y polisi yn niweidiol i fusnesau amaethyddol sydd wedi arallgyfeirio.

Ychwanegodd Llion Pughe: "Ni ddylai unedau glampio na sguboriau gael eu cynnwys yn y rheolau oherwydd bod cyfyngiadau cynllunio ar rheiny. Does dim synnwyr yn y peth."

Jeff Smith
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen cymryd camau cadarn i ddatrys yr argyfwng tai, yn ôl Jeff Smith o Gymdeithas yr Iaith

Mae Jeff Smith, o Gymdeithas yr Iaith, yn croesawu'r rheolau ond yn annog y llywodraeth i fynd gam ymhellach.

"Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod pobl leol yn gallu aros yn eu cymunedau, ac felly rhoi'r gorau i wneud mân newidiadau.

"Mae angen cymryd camau cadarn i ddatrys yr argyfwng tai a sicrhau gwell defnydd o'r stoc tai presennol."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod "yn cydnabod yr amrywiaeth o safbwyntiau a gyflwynwyd mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn".

"Rydym yn cydnabod y teimladau cryf ymhlith gweithredwyr hunanddarpar am y system trethi lleol a nodir ein sefyllfa bolisi yn y cyflwyniad i'r ymgynghoriad.

"Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod o'r farn, er mwyn i eiddo gael ei ddosbarthu'n eiddo annomestig at ddibenion trethi lleol, y dylai gael ei osod am y rhan fwyaf o'r flwyddyn.

"Mae ein cynigion penodol yn ymateb i'r materion a godwyd gan y sector hunanddarpar yn ystod o broses o roi'r meini prawf gosod newydd ar waith."

Ymateb y pleidiau

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod polisïau Llafur a Plaid Cymru yn "chwalu busnesau ac yn niweidio'n economi" ac y bydden nhw yn lleihau'r trorhwy i o 182 diwrnod i 105.

Yn ol llefarydd ar ran Reform UK Cymru, mae "Llafur, gyda chefnogaeth Plaid (Cymru) yn niweidio ein sector twristiaeth gyda threthi, tap coch a rhethreg.

"Byddai Reform yn cefnogi'r diwydiant drwy gael gwared â'r dreth twristiaeth a'r rheol 182 diwrnod."

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru eu bod "yn canolbwyntio ar greu diwydiant twristiaeth gynaliadwy yng Nghymru sy'n gweithio i'r diwydiant lletygarwch ac i gymunedau lleol.

"Byddai Llywodraeth Plaid Cymru ar ôl etholiad mis Mai o ddifrif am dyfu ein heconomi a chefnogi cymunedau lleol gyda chynlluniau gwirioneddol i rymuso busnesau bach a sicrhau cynaliadwyedd ein sector twristiaeth yma yng Nghymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.