Cyngor Gwynedd i godi premiwm treth 150% ar dai gwag

Llun o afon yn llifo allan i'r môr. I'r ddwy ochr o'r afon mae yna longau a thai.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Abersoch, sy'n boblogaidd gyda thwristiaid, sydd â'r nifer fwyaf o ail gartrefi, eiddo gwag hirdymor a llety gwyliau, fel canran o'r cyfanswm tai

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Gwynedd wedi cefnogi cynllun i gynyddu premiwm treth y cyngor i 150% ar dai sydd wedi bod yn wag am dros 12 mis fel cam nesaf "i fynd i'r afael â'r argyfwng tai" yn y sir.

Cafodd y cynllun ei gefnogi gan 39 o gynghorwyr ddydd Iau, tra bod 10 wedi pleidleisio yn erbyn, a thri heb fwrw pleidlais.

Bydd y newid yn dod i rym yn Ebrill 2026.

Mae gan Wynedd tua 1,100 o dai sydd wedi bod yn wag ers dros 12 mis - y cyfanswm uchaf o holl siroedd y gogledd.

Mae'r premiwm treth ar ail gartrefi eisoes yn 150%, ond mae ffigyrau diweddaraf y cyngor yn dangos bod niferoedd ail gartrefi wedi bod yn cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ôl y Cynghorydd Paul Rowlinson, aelod cabinet y cyngor dros dai ac eiddo, ei brif nod yw "sicrhau bod pobl yng Ngwynedd yn gallu cael cartref fforddiadwy yn eu cymunedau".

Ond mae un asiantaeth gwerthu tai yn y sir yn cwestiynu a yw'r polisi yn targedu tai sy'n addas ar gyfer prynwyr tro cyntaf.

Disgrifiad,

Beth ydy'r farn yng Nghaernarfon ar y cynlluniau?

Ers 2021 mae Cyngor Gwynedd wedi codi premiwm o 100% ar eiddo sy'n wag am dros 12 mis.

Ond dydy'r polisi heb gael effaith amlwg, gyda'r niferoedd byth yn gostwng yn is na 1,000.

Yn ôl y Cynghorydd Paul Rowlinson, bydd cynyddu'r premiwm i 150% yn cael mwy o effaith.

"Mae 'na dystiolaeth gan gynghorau eraill bod codi'r premiwm yn fwy na 100% yn effeithiol," meddai.

"Mae gyda ni filoedd ar ein rhestrau aros am dai cymdeithasol, dros 4,000 o unigolion, a 1,000 o dai sydd wedi bod yn wag ers dros flwyddyn.

"Felly mae'n bwysig iawn bod ni'n helpu'r bobl yma trwy leihau nifer y tai gwag."

Map yn dangos canran y cartrefi gwag fesul ward yng NgwyneddFfynhonnell y llun, CYNGOR GWYNEDD
Disgrifiad o’r llun,

Mae canran y cartrefi sy'n wag am dros 12 mis yn amrywio ar draws Gwynedd, gyda'r ganran uchaf yn ward Llanbedrog gyda Mynytho

Ond nid yw pawb yn ffyddiog bydd codi'r premiwm yn uwch "yn gwneud gymaint o wahaniaeth a hynny".

Mae Dafydd Hardy yn berchennog asiantaeth gwerthu tai o'r un enw, a Gwynedd yw un o brif farchnadoedd y cwmni.

Mae'r cwmni wedi gweithio gyda sawl unigolyn sy'n ceisio gwerthu eu tai haf wedi i'r cyngor gynyddu'r premiwm ar ail gartrefi i 150% yn 2023.

"Dwi ddim yn meddwl bod rhoi trethi uchel ar dai haf, lle mae'r pris gofyn yn lot mwy na be' fedrith pobl lleol ei fforddio yn gweithio...

"Mae 'na gap mawr rhwng y ddau. Bydd hi'r un peth i dai gwag."

Llun o ddyn yn sefyll mewn coridor swyddfa'r cyngor yn gwenu at y camera. Mae ganddo wallt llwyd a sbectol. Mae'n gwisgo siwt llwyd tywyll, crys gwyn a thei porffor patrymog.
Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Paul Rowlinson ydy aelod cabinet Cyngor Gwynedd dros dai ac eiddo

Mae cynyddu'r premiwm ar dai gwag i 150% yn golygu bod perchnogion yn wynebu talu'r un gyfradd â pherchnogion ail gartrefi'r sir.

Yn fuan ar ôl i'r premiwm godi i 150% ar ail gartrefi, gystyngodd eu niferoedd.

Ond dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ffigyrau'r cyngor yn dangos bod nifer yr ail gartrefi wedi cynyddu'n sylweddol eto.

Mae'r niferoedd yn debyg iawn i'r cyfanswm yn 2019, pan oedd y premiwm yn 50% yn unig, yn hytrach na 150%.

Yn ystod yr un cyfnod mae nifer y llety gwyliau yn y sir wedi gostwng, a hynny yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu'r trothwy mae'n rhaid i unedau gwyliau eu cyrraedd er mwyn gymhwyso i dalu treth busnes yn hytrach na threth cyngor.

Yn ôl Mr Hardy, nid codi'r dreth yw'r ateb, ond "adeiladu mwy o dai".

"Os 'da ni'n adeiladu mwy o dai fforddiadwy yn y llefydd lle mae'r gofyn, mi neith hwnna ddatrys y broblem i raddau.

"Dyma'r broblem... ydy'r tai [cyn-dai haf] yn rai fforddiadwy? Dydyn nhw ddim."

Disgrifiad,

Mae Dafydd Hardy yn credu mai adeiladu mwy o dai fforddiadwy ydy'r ateb i'r sefyllfa o fewn y sir

Mae'r ymgynghorydd tai Sioned Hughes yn cytuno na fydd y polisi yn "cael effaith fawr iawn ar ei ben ei hun".

Ond wrth drafod ar raglen Dros Frecwast dywedodd bod holl bolisiau'r cyngor gyda'i gilydd "yn gwneud gwahaniaeth" ac y bydd codi'r premiwm yma yn "yn gwneud i berchnogion tai gwag gwestiynu be' maen nhw'n mynd i wneud gyda'r tŷ".

Roedd Ms Hughes hefyd yn meddwl y gallai'r incwm posib i'r cyngor yn sgil y cynnydd chwarae rhan yn ei phenderfyniad.

"Nes i sbïo i weld be' mae cynghorau lleol eraill yn gwneud.

"Mae Ceredigion er enghraifft wedi cynyddu'r premiwm i 200% am dai sydd wedi bod yn wag am dros 10 mlynedd, ac mae Sir Benfro wedi codi'r premiwm i 300% ar dai sydd wedi bod yn wag am dros bedair blynedd.

"Felly, be' mae Cyngor Gwynedd falle yn cadw golwg hefyd i weld os oes cynnydd yn yr incwm wedi bod, ac ie, falle maen nhw eisiau gweld tai yn dod yn ôl i'r farchnad, ond hefyd 'swn i'n meddwl bod yr incwm potensial galle' nhw gael yn uchel.

"Ac wedyn pan da chi'n gweld costau adeiladu tŷ, heb sôn am y tir, chi'n gweld bod y tai gwag yma'n bwysig."

Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru cafodd 157 o dai newydd eu hadeiladu yng Ngwynedd rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025.

Mae hynny'n fwy nag yn Ynys Môn a Chonwy, ond yn llai na'r cyfanswm yn Wrecsam, a bron hanner y cyfanswm yn Sir y Fflint.

"Rydyn ni angen llawer mwy o dai cymdeithasol, ond dim ond hyn a hyn arian grant sydd ar gael," meddai'r Cynghorydd Rowlinson.

"Rydyn ni'n defnyddio peth o'r arian sy'n cael ei godi trwy'r premiwm i drio helpu ni adeiladu mwy o dai.

"Rydyn ni hefyd eto 'efo arian o bremiwm, yn prynu tai o'r farchnad agored, gwneud nhw i fyny a gosod nhw i bobl leol.

"Felly rydyn ni yn gwneud ein gorau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig