Teyrnged i ddynes o Fôn fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A55

Bu farw Jennifer Anne Brown yn y gwrthdrawiad rhwng car a lori ddydd Iau
- Cyhoeddwyd
Mae dynes fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A55 yng Nghonwy ddydd Iau wedi'i henwi'n lleol fel Jennifer Anne Brown o ardal Niwbwrch ar Ynys Môn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ger cyffordd 17 - Morfa Conwy - tua 12:00 yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a lori.
Dywedodd yr heddlu bod Ms Brown, oedd yn teithio yn y car, wedi cael ei chyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.
Cafodd y tri pherson arall oedd yn teithio yn y car eu cludo i'r ysbyty - dau ohonynt i Stoke ac Aintree mewn hofrenyddion, ac un i Aintree mewn ambiwlans ar y ffordd.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod gyrrwr y lori yn helpu'r llu gyda'u hymholiadau.

Roedd A55 ar gau am rai oriau ar ôl y gwrthdrawiad ger Morfa Conwy
Roedd Ms Brown, oedd yn ei 40au, yn gweithio yng Nghartref Gofal Glan Rhos ym Mrynsiencyn ers dros 20 mlynedd.
Dywedodd y cartref gofal mewn teyrnged iddi fod "pawb yn 'nabod Jenny yn annwyl fel 'Brenhines', ac roedd hi'n fwy nag aelod o staff, roedd hi'n deulu".
"Ers iddi gychwyn gweithio yn y cartref yn 17 oed, mi wnaeth Jenny flodeuo i fod yn berson gofalgar y daethom i gyd i'w hadnabod a'i charu.
"Mi gyffyrddodd Jenny â bywyd sawl un yn ystod ei gyrfa, gan gyfarch pawb gyda gwên gynnes allai oleuo unrhyw 'stafell.
"Mae'r newyddion am ei marwolaeth mewn amgylchiadau mor drasig wedi'n tristáu ni i gyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
