Tri yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad rhwng car a lori ar yr A55

A55Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r A55 wedi cau rhwng Twnnel Conwy a Thwnnel Penmaenmawr

  • Cyhoeddwyd

Mae tri o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad difrifol rhwng car a lori ar yr A55.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ger cyffordd 17 - Morfa Conwy - tua 12:00 ddydd Iau.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans bod tri o hofrenyddion yr Ambiwlans Awyr wedi mynychu'r digwyddiad, a bod tri o gleifion wedi cael eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Fe gafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng Twnnel Conwy a Thwnnel Penmaenmawr am rai oriau.

Cafodd y ffordd i gyfeiriad y dwyrain ei hailagor yn rhannol toc wedi 15:30, ond mae'n parhau ar gau rhwng cyffyrdd 17 a 19 i'r gorllewin.