Marc Lloyd Williams: 'O'n i'n meddwl bod strôc yn digwydd i bobl hŷn'

Mae Marc Lloyd Williams wedi gwella ar ôl cael strôc yn 43 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-beldroediwr proffesiynol, Marc Lloyd Williams, yn galw ar bobl i fod yn fwy ymwybodol o beryglon strôc, wrth gofio'n ôl ar ei brofiad annisgwyl 10 mlynedd yn ôl.
Dywedodd y Gymdeithas Strôc bod dros 72,000 o ddioddefwyr yng Nghymru, ac mae disgwyl i hynny godi i 150,000 erbyn 2035, gyda chynnydd yn nifer y bobl iau sy'n diodde'.
Ag yntau ond yn 43 oed yn cael strôc, mae byd y campau wastad wedi bod yn bwysig i Marc Lloyd Williams.
Mae hefyd yn ddarlithydd chwaraeon yng Ngholeg Menai ers blynyddoedd ac yn sylwebydd cyfarwydd ar BBC Radio Cymru a rhaglen Sgorio.
Dywedodd Marc Lloyd Williams bod strôc "ddim yn gwahaniaethu"
Ond ym mis Tachwedd 2016 mi aeth ei fywyd i gyfeiriad hollol annisgwyl wrth iddo yrru adre' o'i waith a theimlo ei goes yn wan. Yn gyndyn i alw meddyg - gan feddwl mai eistedd yn y car oedd wedi achosi'r broblem - mi fu'n rhaid galw 999 yn y diwedd.
Meddai: "'Nath y parafeddyg 'neud y pwysau gwaed a 'nes i jyst gweld 120 - pwysau gwaed normal. Dyma fo'n d'eud mai'r diastolig o'dd hwnna so ges i 'nghludo i'r ysbyty lleol yn Crewe i gael y profion ac yn y blaen a rhoi'r feddyginiaeth.
"O'dd hi tua wyth o'r gloch arna' fi'n mynd mewn ac erbyn 11 'nathon nhw dd'eud bod nhw'n meddwl 'mod i 'di cael strôc.
"Er bod chdi'n gw'bod, 'di g'neud cyrsiau cymorth cynta'- gw'bod be' ydy'r signs o strôc - o' chdi'n meddwl, dio'm yn digwydd i chdi... am bod chdi mor ifanc o'n i'n meddwl bod strôc yn digwydd i bobl hŷn.
"Ti 'di bod yn ymarfer fel chwaraewr proffesiynol a lled-broffesiynol. Pan ti'n ymddeol ti'n dal i f'yta fel o'dda chdi'n chwara', ti'n g'neud llai o ymarfer corff a ti'n rhoi pwysau 'mlaen. Ella bod hynna'n un o'r petha' 'nath anelu tuag at y strôc yn digwydd."

Bydd Marc (canol) yn rhedeg Marathon Llundain fis Ebrill er mwyn codi arian i'r Gymdeithas Strôc
Mae'r Gymdeithas Strôc yn rhagweld y bydd tua 414 o bobl yn cael strôc bob dydd yn y DU erbyn 2035 - mae hynny'n un person bob tri munud a hanner.
Maen nhw hefyd yn rhybuddio bod mwy a mwy o bobl ifanc yn diodde', fel yr esbonia Llinos Wyn Parry, Arweinydd Ymgysylltu'r Gymdeithas.
"Ar gyfer 2035, ar hyd y Deyrnas Unedig, 'da ni'n meddwl bydd yna dros 150,000 o bobl yn byw efo strôc," meddai.
"Blynyddoedd yn ôl mi oedd strôc yn cael ei weld fel r'wbath oedd yn effeithio ar bobl hŷn ond 'da ni'n gweld mwy a mwy o bobl sydd o fewn oedran gwaith y dyddiau yma yn cael strôc, a hefyd plant."

Marc (chwith) yn chwarae i Fangor yn 1998
"Mae'n bwysig iawn adnabod y symptomau - yr wyneb yn disgyn, y lleferydd yn slyrio, y fraich yn ddiffrwyth efallai, ac os ydy'r symptomau yma gan rywun iddyn nhw ffonio 999 yn syth.
"Mae yna waith gwella a 'da ni'n gweithio efo'r byrddau iechyd a hefyd efo'r llywodraeth yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y gwelliannau yna'n cael eu gwneud."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mi fydd eu cynlluniau strôc diweddara'n cael eu cyhoeddi'r wythnos nesa', pan fyddan nhw'n atgyfnerthu'r pwyslais ar atal, ac ar fynediad at wasanaethau a chymorth. Mae'r gwrthbleidiau yn y Senedd yn galw am wneud mwy i wella'r sefyllfa.

Marc sy'n ddarlithydd chwaraeon, yn galw ar bobl i fod yn ymwybodol o beryglon strôc
Gyda thriniaeth a chefnogaeth, mae Marc Lloyd Williams wedi gwella erbyn hyn ond yn pwysleisio pwysigrwydd cadw golwg ar bwysau gwaed. Fel rhan o hynny, mae wedi gosod her i redeg Marathon Llundain fis Ebrill er mwyn codi arian ac ymwybyddiaeth.
Meddai: "Mae'n 10 mlynedd yn 2026 ers i fi gael y strôc a o'n i'n meddwl ar y pen-blwydd yna fasa hi'n beth da i godi arian i'r Gymdeithas Strôc i helpu nhw helpu pobl er'ill sy'n mynd i gael strôc yn y dyfodol.
"Ac hefyd i godi ymwybyddiaeth oherwydd dydy strôc ddim yn gwahaniaethu - na pwysa' gwaed uchel.
"'Swn i'n annog unrhyw un sydd yn poeni am bwysa' gwaed i fynd allan i gerdded yn hir neu ddechra' rwbath fel nes i - y Couch to 5K - a buan iawn wedyn ma' pobl isho g'neud mwy a mwy."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr

- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2024

- Cyhoeddwyd24 Hydref 2024
