Alun Thomas i gyflwyno Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru

Disgrifiad,

Bydd Alun Thomas yn cyflwyno Post Prynhawn - sy'n cael ei chynhyrchu ym Mangor - bob dydd Mawrth i ddydd Gwener

  • Cyhoeddwyd

Mae BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi mai'r newyddiadurwr Alun Thomas fydd cyflwynydd newydd rhaglen Post Prynhawn.

O ddechrau Chwefror fe fydd yn cyflwyno o ddydd Mawrth i ddydd Gwener rhwng 17:00 a 18:00, gyda Nia Thomas yn parhau i gyflwyno'r rhaglen ar ddyddiau Llun.

Mae Alun eisoes yn llais cyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru ac yntau wedi gweithio ar sawl rhaglen newyddiadurol a materion cyfoes i'r BBC.

Mae hefyd wedi treulio cyfnodau yn cyflwyno rhaglenni fel Dros Frecwast, Taro'r Post, Post Cyntaf, ac yn fwyaf diweddar Dros Ginio ar brynhawniau Iau.

Alun a Nia fydd olynwyr parhaol Dylan Jones, wnaeth ymddeol fel cyflwynydd Post Prynhawn fis Chwefror y llynedd.

'Un o gonglfeini BBC Radio Cymru'

Dywedodd Alun ei bod yn "fraint dilyn ôl traed cyflwynwyr fel Dylan Jones, Dewi Llwyd, Gareth Glyn a Dei Tomos, sydd wedi bod yng ngofal y rhaglen dros y blynyddoedd".

"Mae Post Prynhawn wedi bod yn un o gonglfeini BBC Radio Cymru ers dros 45 o flynyddoedd, ac rwy'n edrych ymlaen at gymryd yr awenau gyda Nia," meddai.

"Ein nod ni fydd rhoi crynodeb o newyddion y dydd o Gymru a'r byd rhwng pump a chwech, fel eich bod chi'n cael gwybod am bopeth o bwys wrth orffen y diwrnod gwaith."

Gwenllian Grigg
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwenllian Grigg ei bod yn "fraint arbennig cael ymuno â thîm Dros Ginio"

Y cyflwynydd Gwenllian Grigg fydd yn cymryd yr awenau gan Alun i gyflwyno Dros Ginio rhwng 13:00 a 14:00 pob prynhawn Iau.

Mae Gwenllian eisoes yn cyflwyno rhaglen Dros Frecwast ar foreau Gwener.

"Yn ogystal â dod â'r diweddaraf ar straeon y dydd, mae'n gyfle i fynd i grombil ambell bwnc neu thema," meddai.

"Does wybod i ba gyfeiriad yr awn ni, ond mae un peth yn sicr: fe fydd hi'n orig ddifyr yng nghwmni arbenigwyr o bob math o feysydd, gydag ambell stori bersonol ryfeddol, dwi'n siŵr.

"Yn fwy na dim, bydd hi'n bleser cael cwmni gwrandawyr BBC Radio Cymru Dros Ginio."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol