Y newyddiadurwr a'r cyflwynydd, Sulwyn Thomas, wedi marw yn 82 oed

Sulwyn Thomas mewn stiwdio radio
Disgrifiad o’r llun,

Sulwyn Thomas tra'n gweithio fel cyflwynydd Radio Cymru yn 1984

  • Cyhoeddwyd

Mae'r newyddiadurwr a'r cyflwynydd, Sulwyn Thomas, wedi marw yn 82 oed.

Roedd yn fwyaf enwog am gyflwyno'r rhaglen radio Stondin Sulwyn ar BBC Radio Cymru - un o raglenni mwyaf poblogaidd yr orsaf.

Daeth y rhaglen yn hynod boblogaidd adeg eira 1982 wrth i gyfranwyr o bob man ffonio Stondin Sulwyn i ganslo digwyddiadau, roedd rhai yn gofyn am gymorth i fynd i ymweld â chlaf neu ffrind ac eraill yn cynnig cymwynasau lu i gyd-wrandawyr.

Treuliodd Sulwyn Thomas hefyd gyfnod fel cyflwynydd teledu, gan gyflwyno Y Sioe Fach, rhaglenni o Sioe Llanelwedd, a Ffermio rhwng 1997 a 2004.

Roedd yn un o sefydlwyr gwasanaeth Radio Glangwili yn 1972 a Papur Llafar y Deillion.

Sulwyn Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sulwyn Thomas yn fwyaf enwog am gyflwyno rhaglen radio Stondin Sulwyn ar BBC Radio Cymru

Cafodd ei eni yng Nghaerfyrddin yn 1943 ac aeth i Ysgol Ramadeg y bechgyn yno.

Ar ôl gadael yr ysgol cafodd ei hyfforddi fel newyddiadurwr yn swyddfa'r Evening Post yn Abertawe, cyn ymuno â chwmni teledu TWW (Television Wales and the West) fel gohebydd yng ngorllewin Cymru i raglen Y Dydd.

Aeth ymlaen yn 1977 i ymuno â'r BBC fel un o gyflwynwyr rhaglen Heddiw, cyn troi at fyd radio.

Cyflwynodd raglen Stondin Sulwyn tan 2002 - roedd yn rhaglen a oedd yn denu nifer o gyfranwyr i fynegi barn ar bynciau'r dydd.

Roedd Sulwyn wrth ei fodd yn nghwmni'r cyhoedd ac un o'i eiriau mawr ymhob rhaglen oedd 'Bendigedig'.

Sulwyn Thomas (dde) yn cyfweld â phobl fel rhan o ddarllediad y BBC o'r eisteddfod genedlaethol yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd ym 1988
Disgrifiad o’r llun,

Sulwyn Thomas (dde) yn cyfweld â phobl fel rhan o ddarllediad y BBC o'r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd yn 1988

Roedd hefyd yn ddiacon yng Nghapel y Priordy, Caerfyrddin, ac yn aelod o'r cwmni drama a gyflwynodd y ddrama 'Dan y Wenallt' am y tro cyntaf.

"Mi oedd y lle yma [Capel y Priordy] yn agos iawn at ei galon e. Roedd e wedi ei fagu yma, wedi bod yn ddiacon yma ers yn ifanc iawn.

Roedd e'n weithgar ac yn gefnogol i bob agwedd o fywyd yr eglwys hefyd," meddai ei weinidog y Parchedig Beti Wyn James.

"Ond yn ogystal â'r ochr gyhoeddus, roedd e'n gwneud lot o waith yn y cefndir. Fe oedd yn agor y drws bob bore Sul, fe oedd y cyntaf 'ma, fe oedd yn gosod y rhifau ar y byrddau ac yn gwneud lot o bethau bach.

"Fe oedd yn croesawu wrth y drws hefyd – bore a nos pan oedd dwy oedfa. Roedd e wrth ei fodd yng nghanol pobl - pawb yn meddwl y byd ohono fe, o'r ieuengaf i'r hynaf. Roedd hyd yn oed y plant lleia' yn yr Ysgol Sul yn meddwl y byd o Sulwyn.

"Mae'n anodd meddwl am gapel y Priordy heb Sulwyn."

Beti Wyn James
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sulwyn Thomas yn ddiacon ffyddlon, medd y Parchedig Beti Wyn James

Lluniodd raglenni am y frwydr i achub Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach rhag y bygythiad i'w boddi, ac roedd yn rhan o'r pwyllgor a drefnodd ddathliadau 50 mlynedd y fuddugoliaeth yn 2013.

Cafodd ei urddo i'r wisg wen yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2003.

Bu ef a'i wraig Glenys ar un adeg hefyd yn arwain aelwyd yr Urdd yng Nghaerfyrddin. Fe wnaeth y ddau gyfarfod yn Eisteddfod yr Urdd Caerfyrddin yn 1967.

Sulwyn Thomas yn derbyn y wisg wen yn Eisteddfod Meifod 2003
Disgrifiad o’r llun,

Sulwyn Thomas yn derbyn y wisg wen yn Eisteddfod Meifod 2003

Wrth siarad ar raglen Beti a'i Phobl yn 2005 fe ddywedodd Sulwyn Thomas ei fod wedi "mwynhau pob munud" o'i yrfa.

"Un o'r pethe dwi'n credu bo' fi 'di 'neud yn wahanol i bawb arall" meddai, "yw 'neud popeth o'n isie 'neud o fewn y 'ngallu i a'r cyfryngau a heb symud o Gaerfyrddin.

"Dwi i 'di gweithio ym myd radio, dwi 'di gweithio ym myd teledu, dwi 'di bod yn ohebydd a chael trafaelu... roeddwn i'n ca'l profiade a wedyn gallu dod gartre, dydyn ni ddim wedi gorfod symud."

Dywed Dafydd Meredydd, Golygydd BBC Radio Cymru: "Fe roddodd Sulwyn ei galon i'r bobol ac i'r diwylliant.

"Gyda'i chwerthiniad iach a heintus, roedd ganddo'r ddawn i ddod â phobl ynghyd.

"Roedd Sulwyn yn newyddiadurwr wrth reddf, yn gyntaf gyda'r BBC ar raglen Heddiw ac wedyn ar wasanaeth newyddion BBC Radio Cymru.

"Rhoi llwyfan i bobol oedd ei ddawn wrth i filoedd o gyfranwyr ar draws Cymru gael cyfle i ddweud eu dweud ar Stondin Sulwyn. A Sulwyn yn ei elfen pan fo pwnc yn cydio a'r drafodaeth yn tanio.

"A phwy all anghofio'r gwasanaeth amhrisiadwy yr oedd yn ei gynnig mewn cyfnod cyn y we a'r cyfryngau cymdeithasol, gyda'r wybodaeth diweddaraf mewn cyfnod o dywydd garw ac eira?"

Rhian Evans
Disgrifiad o’r llun,

"Roedd Sulwyn fel brawd i fi," meddai Rhian Evans

Mae Rhian Evans wedi bod yn ffrind oes i Sulwyn Thomas ac a hithau'n ddall mae wedi gwerthfawrogi yn fawr ei waith yn darparu llyfrau llafar.

"Roedd Sulwyn a finne wedi 'nabod ein gilydd ers pan o'n i'n blant yn yr Ysgol Sul - ac yna fe ddaethon ein dau yn aelodau yng Nghapel y Priordy yr un pryd.

"Ry'n ni'n dau wedi bod yng Nghaerfyrddin drwy'n hoes ac wedi bod yn ffrindiau mynwesol.

Mae e wedi bod fel brawd i fi ac yn gefn i'r gwaith llyfrau llafar ers y cyfarfod cyntaf yn 1976."

'Cymeriad cynnes oedd yn deall ei bobl'

"Roedd Sulwyn yn gymeriad cynnes, hwyliog iawn iawn ond yn fachog iawn hefyd," meddai Garffild Lloyd Lewis, cyn-bennaeth adran newyddion Radio Cymru.

"Roedd ei brofiad dros y blynyddoedd yn ei alluogi i holi'n galed iawn ond ro'dd yna ddireidi yna hefyd.

"Ro'dd y cymeriad cynnes 'na yn dod allan yn ei gyflwyno ac yn ei newyddiaduraeth hefyd.

"Ro'dd e'n ddyn o'dd yn deall ei bobl ac yn medru ymdopi â straeon mawr y dydd - straeon fel clwy' y traed a'r genau."

Sulwyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sulwyn wrth ei fodd yn nghwmni'r cyhoedd ac un o'i eiriau mawr ymhob rhaglen oedd 'Bendigedig'

Dywedodd y cyflwynydd, Richard Rees - oedd yn nabod Sulwyn ers dyddiau radio Glangwili - mai ef oedd "y meistr".

"Yn ei ardal ei hun, yng Nghaerfyrddin, roedd yn enwog i bawb... Roedd wedi meithrin cysylltiadau anhygoel yn yr ardal ac wedi dod i nabod ei gymuned, ei bobl a'i ardal yn well na neb," meddai ar Dros Frecwast fore Mawrth.

"O'dd na ddim cyfryngau cymdeithasol a dwi'n credu mai Stondin Sulwyn oedd Facebook y cyfnod - pobl yn cyfrannu o bob cwr o Gymru a'i gryfder oedd bod o'n gallu delio efo'r dwys a'r doniol.

"O'dd e'n gyfrifol am yrfaoedd cymaint o bobl. Cynnig cyngor i bobl, cymorth i bobl mewn ffordd humble - byth yn brolio na chwilio am ddiolch, bod yn garedig.

"Fe oedd y meistr, dim ots pwy oeddech chi oedd e'n gallu gwneud i bobl deimlo yn gyfforddus a gallu teimlo ei fod yn ffrind. Oedd e'n ffrind i gannoedd ar y radio a'r ddawn i'ch gwneud yn gartrefol."

'Roedd yn dynnwr coes anhygoel'

Un a gafodd ei holi ddwsinau o weithiau gan Sulwyn ydy cyn-Brif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts.

"Roeddwn i'n cael gwahoddiad i fynd ar y Stondin sawl gwaith yn y flwyddyn a sawl gwaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod," meddai.

"Yn amlach na pheidio fydde rhywun ddim yn awyddus i fynd ar y Stondin oherwydd mater o drafod rhyw gŵyn oedd y peth bob tro - ond teimlo bod rhaid mynd neu fysa'r stori neu'r gwyn wedi mynd fel caseg eira.

"Roedd Sulwyn yn holwr caled, ond bob tro yn deg. Yn barod i roi cyfle i bawb roi ei ochr. [Ges i] dipyn o hwyl efo fo ac anghytuno sawl tro am sawl peth, ond ar y diwedd, dal yn ffrindiau... Cymeriad a hanner."

Wrth ymateb i stori ffŵl Ebrill am yr Eisteddfod yn mynd i LA, dywedodd fod hyn yn "dangos pa mor ddireidus oedd o... roedd yn dynnwr coes anhygoel, yn ddyn y bobl".

Sulwyn Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sulwyn yn "holwr caled, ond bob tro yn deg" yn ôl cyn-Brif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd Prif Weithredwr S4C, Geraint Evans: "Fel gohebydd y gorllewin i raglenni newyddion Y Dydd a Heddiw, roedd Sulwyn Thomas yn un o arloeswyr newyddiaduraeth darlledu yn y Gymraeg.

"Roedd ei raglen radio, Stondin Sulwyn, yn gwbwl unigryw, ac yn greadigaeth na welwn ni byth mo'i thebyg eto. Ac roedd hi'n fwy na rhaglen radio, roedd yn feithrinfa i newyddiadurwyr.

"Bues i'n ddigon ffodus i gynhyrchu'r rhaglen am dair blynedd, ac yno dan adain Sulwyn y gwnes i ddysgu mai straeon am bobl oedd newyddiaduraeth go iawn."

Ychwanegodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: "Mae'n newyddion trist am golli Sulwyn Thomas, cymeriad lliwgar yn hanes darlledu Cymraeg, bu'n cyfrannu fel gohebydd ar raglenni newyddion teledu dyddiol Cymraeg am flynyddoedd.

"Fel un fu'n gweithio gyda Sulwyn ar ei sioe radio dyddiol roedd y cynhyrchu'n rhwydd – byrlymai gyda syniadau ac awgrymiadau am gyfranwyr – yn ogystal a'u rhifau ffon.

"Roedd ei ddiddordeb ysol mewn pobl a'u straeon yn gyrru ei raglen fel peiriant. Cydymdeimlad dwys gyda'i deulu a'i ffrindiau."

Alun Lenny
Disgrifiad o’r llun,

'Ro'dd Sulwyn yn berson hynod garedig ac yn gyfaill da iawn i fi,' medd Alun Lenny

Wrth ei gofio ar raglen y Post Prynhawn ddydd Llun dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny a fu'n cydweithio â Sulwyn Thomas am flynyddoedd ei fod e'n cofio amdano fel newyddiadurwr a thynnwr coes ond hefyd fel Cristion a pherson hynod garedig.

"Roeddwn i'n 'nabod Sulwyn ers dros hanner can mlynedd a fi gafodd ei swydd pan wnaeth e adael y rhaglen Heddiw.

"Roedd Stondin Sulwyn yn rhaglen rhyngweithiol - cyn dyddiau y we ac roedd e'n hynod o weithgar wrth ei chyflwyno ac yn hynod hwyliog hefyd. Ro'dd e wrth ei fodd yn tynnu coes ac yn hoff iawn o geir cyflym.

"Ro'dd e'n weithgar hefyd yn ei gymuned - yn 'neud y gwaith yn dawel a ddim yn chwilio am unrhyw anrhydedd.

"Ro'dd e'n berson hynod garedig ac yn gyfaill da iawn. Mae gen i brofiad personol o hynny ac am hynny y byddaf i yn ei gofio - Cristion gwirioneddol."

Ym mis Rhagfyr 2008, cyhoeddodd Sulwyn Thomas ei hunangofiant fel rhan o Gyfres y Cewri.

Bu farw yn yr ysbyty wedi cyfnod byr o salwch.

Mae'n gadael ei wraig Glenys a dau o blant - Owain a Branwen a phedwar o wyrion.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.