Plaid Cymru i ddatgelu cynllun 100 diwrnod cyntaf mewn llywodraeth

"Plaid Cymru yw'r unig blaid sydd â chynllun gweithredu manwl," meddai Rhun ap Iorwerth
- Cyhoeddwyd
Bydd Plaid Cymru yn datgelu eu cynlluniau ar gyfer eu 100 diwrnod cyntaf mewn llywodraeth - pe baent yn ennill etholiad y Senedd fis Mai.
Honnodd yr arweinydd, Rhun ap Iorwerth, mai nhw ydy'r unig blaid gyda "chynllun gweithredu manwl" ar gyfer llywodraethu.
Nid oedd manylion ar gael dros nos, er bod yr arweinydd wedi dweud ddydd Gwener nad oedden nhw'n "ceisio gwneud yr amhosibl" a bod arian yn "brin".
Mae un Aelod o'r Senedd o'r blaid wedi dweud bod rhai pethau y bydden nhw "wrth ein boddau yn eu gwneud" ond na fyddent yn gallu eu hariannu.

Yn ei araith ddydd Gwener, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth bortreadu etholiad y Senedd fel brwydr rhwng Plaid Cymru a Reform
Mae Llafur wedi bod mewn grym ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru - fel yr oedd ar y pryd - agor ym Mae Caerdydd 27 mlynedd yn ôl.
Mae arolygon barn wedi awgrymu bod Plaid Cymru yn cystadlu gyda Reform i fod y blaid fwyaf wedi etholiad y Senedd ar 7 Mai.
Nid ydy'r blaid erioed wedi ennill etholiad ar gyfer Cymru gyfan, ac mae wedi cefnogi llywodraethau Llafur Cymru yn y gorffennol.
'Cenedl yn brin o arian'
Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod "bron i 27 mlynedd o reolaeth dan arweiniad Llafur wedi gadael ein cenedl yn brin o arian".
"Mae'r GIG o dan bwysau gormodol gan y galw, mae safonau addysg ymhlith y gwaethaf yn Ewrop ac mae'r economi yn dal i fod yn rhy ynghlwm â San Steffan i gael unrhyw rym go iawn.
"Efallai y bydd eraill yn addo newid, ond fel mae'r cynllun hwn yn ei brofi - Plaid Cymru yw'r unig blaid sydd â chynllun gweithredu manwl, sy'n cynrychioli'r arweinyddiaeth gwirioneddol newydd y mae pobl Cymru yn ei haeddu."

Siaradodd Rhun ap Iorwerth yng nghynhadledd ei blaid yng Nghasnewydd
Yn ei araith ddydd Gwener dywedodd Rhun ap Iorwerth y byddai'n canolbwyntio ei lywodraeth ar "set glir o flaenoriaethau - ar wneud y pethau sylfaenol yn well, fel y gallwn ni wir wella bywydau pobl mewn ffyrdd sy'n bwysig".
Fe wnaeth addo "gwasanaeth iechyd a gofal sy'n gweithio" a system addysg "sy'n canolbwyntio ar roi sgiliau bywyd hanfodol i bob disgybl".
Dywedodd fod y blaid yn gwybod "y bydd arian yn brin a dyna pam y bydd effeithlonrwydd a gwerth am arian wrth wraidd ein gweledigaeth ar gyfer llywodraeth effeithiol".
Dywedodd llefarydd cyllid Plaid Cymru, Heledd Fychan, yn y gynhadledd fod llefarwyr yng ngrŵp y blaid yn y Senedd yn bod yn "realistig" wrth weithio ar y maniffesto ar gyfer yr etholiad.
"Mae yna rai pethau y bydden ni wrth ein boddau yn eu gwneud, ond dydy'r cyllid ddim yna ar hyn o bryd," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd19 Chwefror

- Cyhoeddwyd18 Chwefror
