Arweinydd Plaid Cymru yn cefnu ar addewid allyriadau sero net

Dywedodd Rhun ap Iorwerth nad oedd cyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2035 yn "realistig"
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi cefnu ar addewid i gyflawni allyriadau carbon sero net yng Nghymru erbyn 2035.
Roedd y blaid wedi ymrwymo i'r targed yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, ac wedi'i wneud yn rhan o'i chytundeb cydweithio â llywodraeth Lafur Cymru yn 2021.
Ond dywedodd Rhun ap Iorwerth wrth BBC Cymru nad yw'r targed yn "realistig".
Daw hyn ddiwrnod ar ôl iddo ddweud y bydd angen i brosiectau ynni adnewyddadwy gynnig rhywfaint o'u helw i gymunedau lleol er mwyn cael eu cymeradwyo, os ydy Plaid Cymru'n cael eu hethol fel llywodraeth nesaf Cymru.
Plaid Cymru: Bydd prosiectau ynni'n gorfod rhoi elw i gymunedau lleol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Cyngor am i safle hen orsaf bŵer niwclear fod yn ganolfan arloesi
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
'Dim swyddi gwyrdd yn lle'r cannoedd a gollwyd ym Mhort Talbot'
- Cyhoeddwyd14 Mai 2025
Mae sero net yn cyfeirio at y cydbwysedd rhwng faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu gollwng i'r awyrgylch, a faint sy'n cael eu tynnu allan.
Byddai sero net yn golygu nad ydym yn ychwanegu mwy na'r ydym yn ei dynnu allan, trwy blannu coed, dal carbon neu dechnegau eraill.
Byddai'n ei gwneud yn ofynnol i Gymru symud i ffwrdd o ffynonellau pŵer sy'n allyrru carbon, a dibynnu mwy ar wynt a solar.
Cytunodd Plaid Cymru â llywodraeth Lafur Cymru yn 2021 ar sut y gallai Cymru gyflawni'r targed erbyn 2035, pan oedd Adam Price yn arweinydd y blaid.
Dywedodd yr astudiaeth gan y llywodraeth bryd hynny y byddai'r cynllun yn gofyn am "newid sylweddol mewn uchelgais gan Lywodraeth Cymru, cefnogaeth gan Lywodraeth y DU a mwy o fandad cymdeithasol ar gyfer newid".
Cadarnhaodd maniffesto etholiad cyffredinol 2024 Plaid Cymru, dan arweinyddiaeth Rhun ap Iorwerth, darged y blaid, gan ddweud eu bod yn cydnabod mai "argyfyngau hinsawdd a natur yw'r bygythiad mwyaf i ddynolryw ar raddfa fyd-eang, ac yn ailddatgan ein hymrwymiad i gyrraedd targedau sero net yng Nghymru erbyn 2035 a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth erbyn 2030".
'Cyflymach na 2050'
Mae gan Lywodraeth y DU darged o gyrraedd sero net erbyn 2050.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru ei fod yn credu "y gallwn anelu at fod yn gyflymach na 2050, yn bendant".
Ond wrth siarad â'r BBC, dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Rwy'n credu y gall y rhan fwyaf o bobl weld nawr nad yw 2035 yn realistig.
"Rydym yn agos iawn, iawn. Mae amser yn mynd heibio, ac mae'n rhaid i ni edrych yn ymarferol ar hynny."

Byddai angen dibynnu mwy ar ynni gwynt a solar er mwyn cyrraedd allyriadau sero net
Mae Plaid Cymru wedi cael eu beirniadu gan Lafur am wrthwynebu seilwaith ynni gwyrdd i Gymru, fel peilonau, "dro ar ôl tro".
Pe bai'n ennill etholiad y Senedd ym mis Mai, mae Plaid Cymru wedi dweud y bydd yn sefydlu "rhagdybiaeth gref o blaid tanddaearu" a "defnyddio polion pren lle bo' angen, wrth i Gymru drawsnewid i system ynni werdd fodern, gan wahardd peilonau dur ar gyfer unrhyw linell" o 132 cilofolt neu lai.
Mae Plaid Cymru wedi mynnu eu bod yn cefnogi ynni adnewyddadwy "yn ddiamwys".
Ond dywedodd arweinydd y blaid y dylai "fod rhagdybiaeth o blaid" defnyddio ceblau tanddaearol.
Dywedodd mewn "rhai mannau y bydd yn rhaid i chi gael peilonau" oherwydd costau.
"Ar hyn o bryd mae cysylltiadau'n cael eu gwneud ar draws rhannau helaeth o gefn gwlad Cymru, lle rwy'n credu y gallai fod yn gymysgedd o'r ddau, tanddaearu'n rhannol, defnyddio opsiynau rhatach... lle mae hynny'n bosibl yn ddaearyddol, a chael polion sengl yn hytrach na cheblau dellt dur mewn mannau eraill."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.