Cyngor am i safle hen orsaf bŵer niwclear fod yn ganolfan arloesi

Mae Cyngor Gwynedd yn cefnogi cynllun i droi safle'r hen orsaf bŵer niwclear yn Nhrawsfynydd yn ganolfan arloesi
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd eisiau troi safle'r hen orsaf bŵer niwclear yn Nhrawsfynydd yn ganolfan arloesi newydd mewn prosiect gwerth tua £20 miliwn.
Cafodd y safle ei ddiystyru i gael gorsaf niwclear newydd yn 2024 er i Lywodraeth y DU ddweud yn 2022 eu bod yn ystyried adeiladu adweithydd niwclear bychan (SMRs) yno.
Bellach mae'r cyngor yn awyddus i gefnogi prosiect sydd am ddatblygu Canolfan Arloesi, Busnes a Sgiliau arfaethedig.
Yn ôl Arweinydd y Cyngor, Nia Jeffreys mae'n "newyddion cadarnhaol a chyffrous i bobl yr ardal gyda photensial am gyfleon gwaith hirdymor o ansawdd uchel".

Mae Nia Jeffreys yn credu y gallai'r cynllun yma "helpu i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac economaidd ym Meirionnydd"
Y nod yw cael canolfan fydd yn cynnig swyddi a chyfleoedd mewn sectorau gwahanol.
Mae datganiad y cyngor yn nodi'r sector "dadgomisiynu niwclear, ynni carbon isel, deallusrwydd artiffisial (AI) a thechnoleg ddatblygol".
Os yw'r cynllun, sy'n cael ei noddi gan Gyngor Gwynedd, yn llwyddiannus byddai'n cynnig:
90 o swyddi llawn amser ychwanegol;
buddsoddiad £21.8m i economi gogledd Cymru;
3,000+ metr sgwâr o ofod llawr masnachol ac ymchwil a;
chefnogaeth i 100 o fentrau gan gynnwys busnesau bach a newydd.
Dywedodd y cynghorydd Nia Jeffreys y bydd y cynlluniau'n "helpu i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac economaidd ym Meirionnydd".
Mi fydd yn "manteisio i'r eithaf ar werth economaidd hirdymor safle Trawsfynydd", ychwanegodd.
"Mae'n gyfle i ddatblygu sgiliau pobl i'r dyfodol ar safle o arwyddocâd cenedlaethol o fewn Gwynedd a gogledd Cymru."
Gwaith £70m i leihau tyrrau niwclear Trawsfynydd i ddechrau
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2025
Dim gorsaf niwclear newydd i Drawsfynydd
- Cyhoeddwyd3 Mai 2024
Yn natganiad y cyngor fe esbonion nhw y bydd y prosiect yn "darparu cyfleusterau a datblygu sgiliau sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraethau Cymru a'r DU megis pontio sero-net, arloesi ac adfywio rhanbarthol".
Mae'r Cynghorydd Medwyn Hughes, yn credu bod y prosiect yn "sbardun i gefnogi cyflogaeth gynaliadwy yn yr ardal, i gefnogi busnesau ac i groesawu busnesau ac arloesedd newydd i'r gadwyn gyflenwi yn lleol".
Dyma ydy'r cam cyntaf yn y broses, meddai'r cyngor, ac yn dilyn cyfarfod y Cabinet bydd achos busnes amlinellol yn cael ei gyflwyno i Uchelgais Gogledd Cymru am gyfraniad o gyllid Cynllun Twf Gogledd Cymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.