Agor caffi Cymreig yn Llundain wedi'i ysbrydoli gan ryseitiau Mam-gu

Cecily a Zoë tu allan i BaraFfynhonnell y llun, Michael Hani
  • Cyhoeddwyd

Agorodd caffi Cymreig yn Llundain ei ddrysau am y tro cyntaf dros y penwythnos, ar ôl i un o'r perchnogion gymryd ysbrydoliaeth o hen lyfr ryseitiau ei mam-gu.

Mae Bara, yn ardal Peckham, yn cael ei redeg gan Cecily Dalladay a Zoë Heiman.

Un o Aberdâr yw Cecily, ac efallai y bydd yn wyneb adnabyddus i wylwyr Masterchef: The Professionals lle bu hi'n gystadleuydd yn 2023, ac mae Zoë o dde Llundain.

Mae'r ddwy wedi gweithio fel cogyddion am flynyddoedd, ond nawr maen nhw wedi mynd amdani ac agor eu lle eu hunain.

Ar Dros Frecwast dywedodd Cecily ei bod hi a Zoë "wastad wedi chwarae gyda'r syniad o agor caffi ein hunain ond heb really gymryd y cam".

"Doedd gennym ni'm ongl ein hunain – na rheswm i fynd amdani.

"Ond ar ôl cynnal sesiwn Supper Club gyda London Wales y llynedd ar ddydd Gŵyl Dewi, wnaethon ni benderfynu mynd amdani."

IogwrtFfynhonnell y llun, Michael Hani

Mae'r ddwy yn caru bara a dyna hyd a lled y rheswm dros enw'r caffi, ond mae'r bwyd sy'n cael ei weini yno wedi'i ysbrydoli gan hen lyfr ryseitiau mam-gu Cecily.

"Tua blwyddyn yn ôl roeddwn i'n chwilota ar-lein am ragor o ryseitiau newydd, eisiau gwneud rhywbeth gwahanol.

"Des i o hyd i lyfr ryseitiau really ciwt 'ma ar Etsy... a phythefnos wedyn, anfonodd Dad neges destun draw ata i gan ddweud fod ganddo hen lyfr ryseitiau Mam-gu.

"A phan ddywedodd o y byddwn i'n ei gael ganddo – 'nes i sylwi mai'r un llyfr ryseitiau oedd o!"

Hen lyfr ryseitiau wedi'i gyhoeddi gan Fwrdd Nwy Cymru oedd o, o'r 1950au, ond roedd gan y fersiwn gan ei thad nodiadau ei mam-gu ynddo, gyda mân newidiadau wedi'u gwneud i ambell un o'r ryseitiau.

Mae rhai o ddanteithion caffi Bara wedi'u hysbrydoli gan rai o'r cynhwysion sy'n ymddangos yn y llyfr hwnnw, fel bara lawr a chocos.

Cynrychiolaeth o fwyd Cymreig

"Dwi'n byw [yn Llundain] ers dros 10 mlynedd," dywedodd Cecily, "a dwi wastad wedi sylwi bod 'na loads o fwytai Gwyddelig ac Albanaidd yma – ond dim byd Cymraeg really."

Felly, bydd Bara yn ceisio llenwi'r bwlch yna drwy gynnig bwydydd traddodiadol Cymreig fel bara brith, bara lawr a chocos, yn ogystâl â thro Cymreig ar seigiau mwy cyfarwydd fel y Caerphilly Cheese Steak.

Y "Caerphilly Cheese Steak" yn nghaffi BaraFfynhonnell y llun, Michael Hani
Disgrifiad o’r llun,

Y Caerphilly Cheese Steak yn nghaffi Bara

Dywedodd Cecily eu bod nhw wedi gweithio'n galed am "dri mis anodd" i gael y caffi yn barod, ac fe ddaeth y diwrnod i agor y drysau dros y penwythnos, a bu'n un prysur iawn meddai.

Meddai: "Mae wedi bod yn mental gyda phobl yn ciwio rownd y gornel."

Daeth cynrychiolaeth gref o Gymry Llundain draw i gefnogi meddai Zoë ar BBC Radio Wales, gyda phobl yn dweud "roedd fy nain o Aberdâr" neu "dywedodd fy ffrind o Gaerdydd wrtha' i am fan hyn".

Ychwanegodd Cecily: "Doedden ni ddim yn meddwl byddai'r croeso mor fawr â hynny – ond 'dyn ni wrth ein boddau gyda'r ymateb hyd hyn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb