John Cale i Catalunya: Y dylanwadau ar y cogydd Tomos Parry

- Cyhoeddwyd
Ar gornel stryd fach yn Soho, Llundain, mae bwyty o'r enw Mountain. Bwyty Tomos Parry ydy hwn.
Un o Landegfan, Ynys Môn ydy o, ac mae'n gogydd enwog sydd wedi ennill dwy seren Michelin – un i'r bwyty Mountain, a'r llall i'w fwyty arall Brat, yn ardal Shoreditch o Lundain.
Mae Tomos yn adnabyddus am ei ddulliau coginio dros dân, a'r rhan mae cerddoriaeth yn ei chwarae yn awyrgylch a'r profiad o fynd i'w fwytai.
Mae'r bwyty yn Soho â chysylltiadau hanesyddol â'r sîn gerddoriaeth – roedd yr adeilad mae'r bwyty ynddo yn arfer bod yn glwb jazz a chabaret, Murray's, a oedd yng nghanol sgandal Profumo yn y chwedegau.
Fe aeth y cerddor a'r cyflwynydd Georgia Ruth draw i'r bwyty i sgwrsio â'r cogydd am yr hyn sy'n ei ysbrydoli ar gyfer rhaglen arbennig i BBC Radio Cymru a gafodd ei darlledu ar Rhagfyr 23.
Dyma rai o'r pethau ddywedodd y cogydd wrth Georgia.
Cerddoriaeth yn y bwyty
" Wel, i fi mae'n bwysig iawn. Y peth cyntaf ydy fy mod i wrth fy modd efo cerddoriaeth. Pan o'n i'n sbio ar y lle [adeilad y bwyty ar Beak Street] oedd 'na rywbeth yn remindio fi o Little Tokyo Listening Bars, lle 'dach chi'n mynd i wrando ar records a chael drinks. Oeddwn i eisiau creu rhywbeth fel yna hefyd.
"Ond, i fi, yn tyfu fan hynny yng ngogledd Cymru, oedd cerddoriaeth yn rhywbeth oedd yn rhoi rhyw escapisim a connection i'r byd i fi. Oedd gwrando a chlywed cerddoriaeth wahanol yn mynd â fi i rywle arall. Felly ro i'n keen i ddod â elfen o hwnna i mewn i'r restaurants.
"Yn Brat, restaurant arall i fi, does gennym ni unrhyw le i gael record player a speaker fel hyn, ond mae Mountain yn llawer mwy ac mae Soho efo traditions o gerddoriaeth, bars, jazz, felly ro'n i eisiau cadw dipyn bach o'r elfen yna.
"Mae'n bwysig, dwi'n meddwl, bod yn rhan o gymuned Soho. Dwi'n meddwl bod creu cocktail bar fel hyn, lawr grisiau, yn cadw ysbryd o Soho yn mynd."
Dylanwad John Cale a The Velvet Underground
"Pan o'n i'n astudio TGAU, ges i casét efo Velvet Underground ar un ochr a Bob Dylan, National Skyline yn yr ochr arall. A dwi'n cofio gwrando arnyn nhw, ac oedden nhw jyst yn dangos oedd yna rhywbeth arall, oedd yna wahanol ffordd i feddwl am bethau. So nes fynd a dechrau edrych i mewn i The Velvet Underground.
"Ac oedd hyn cyn amser yr internet, really. So roedd rhaid i ti fynd i fel Cob Records a phrynu bob dim The Velvet Underground. A dwi'n ffan o bob un gân, bob dim Lou Reed, ac yn enwedig John Cale hefyd.
"Do'n i ddim yn gwybod fod John Cale o Gymru. 'Nes i wrando ar Velvet Underground, roedd hi'r gân rock'n'roll yma, yn llawn egni raw o Efrog Newydd, a nes i ddim sylwi mai person o Gymru wnaeth setio fo fyny.
"O'r moment yna, oedd o fel revelation i fi.
"Sut wnaeth o drafaelio i Efrog Newydd, yn dod o Gymru yn y chwedegau, a dechrau'r band mwyaf dylanwadol erioed. Ac oedd hynna'n reit inspiring i fi, i weld hyn a clywed hyn – bod o'n bosib i wneud pethau a dal cael connection efo lle 'dach chi'n dod."

Y chwaraewr recordiau ym mwyty Mountain
Catalunya a Gwlad y Basg
"Dwi wedi bod yn trafeilio yn Catalunya a Gwlad Basg hefyd lot dros y blynyddoedd. Dwi wedi bod yn coginio rwan ers 20 mlynedd, ac i fi y llefydd gorau i fwyta ydy Gwlad y Basg, a llefydd fel Mallorca yn Catalunya, a Barcelona hefyd.
"A beth dwi'n gweld ydy, mae yna lot o connections efo Cymru mewn ffordd – efo'r tirwedd, efo'r iaith wahanol.
"O ran coginio, mae yna beth o'r enw Mar y Montaña, sef 'cooking that's related to sea and mountains'.
"Dw i wedi cael fy nylanwadu gan y môr a'r mynyddoedd. Mae lot o'r ffyrdd dw i'n edrych ar goginio ac ar gynhwysion, mae 'na connection mawr yn fan 'na, efo'r llefydd dw i wedi tyfu fyny yn y gogledd efo Eryri a lan y môr hefyd.
"Do, dw i wedi trafaelio lot yno. Dw i wrth fy modd efo'r ffordd mae pobl yn sbïo ar goginio a chymunedau, a pethau. So, oedd o'n teimlo'n reit naturiol pan nes i agor bwytai fy hun y dyle fi gael y dylanwad cryf o'r llefydd yna."
Pobl enwog yn dod i'r bwyty
"Na, [tydi cael pobl enwog yn y bwyty] ddim yn 'neud fi'n nerfus. Dwi'n hoffi pan mae yna mix yn y restaurant. Dw i bob tro yn creu restaurant fi efo'r intention o gael mix o bobl yno.
"Dwi'n licio i bobl allu cerdded i mewn a cael set wrth y bar, neu fel pobl fel celebrities sydd eisiau dod a chael bach o privacy – dach chi eistedd nhw lawr fan hyn mewn booth.
"Mae'n neud fi'n falch ac yn browd bod pobl o bob math o gefndir yn gallu dod i'r bwyty ac yn teimlo'n gyfforddus.
"Fyswn i yn dweud clwydda os pan mae Nigella Lawson yn dod mewn bod y tîm ddim yn mwynhau. Mae pobl fel hi yn idols i chefs.
"W'st ti, Ruth Rogers, chef River Café? Hi ydi un o mentors fi, idols fi'n coginio. Pan mae hi'n dod i mewn, mae hi'n fath o celebrity i fi – dyna pwy dwi'n really cael yn nervous amdano achos dwi'n parchu be' mae hi'n dweud am fwyd.
Ond efo celebrities, pobl oddi ar y teledu a ballu, mae hynny'n creu buzz neis yn y room.
Dydy o'm yn 'neud fi'n nervous."
Gallwch wrando ar Georgia Ruth: Mountain a Miwsic ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2023

- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2020
