Dedfrydau oes i ddau lanc am lofruddio dyn mewn ymosodiad hiliol

Cafodd Kamran Aman ei ddisgrifio fel "gŵr cariadus, ffyddlon a chymwynasgar"
- Cyhoeddwyd
Mae dau fachgen yn eu harddegau wedi cael eu dedfrydu i oes mewn uned troseddwyr ifanc am lofruddio dyn oedd yn danfon bwyd i gartref ei fam.
Cafodd Kamran Aman, 38, ei drywanu yn ei galon yn ystod ymosodiad hiliol gan ddau lanc oedd ddim yn ei adnabod.
Mae Marcus Staniforth, 17, wedi cael ei ddedfrydu i o leiaf 17 o flynyddoedd dan glo.
Cafodd ail ddiffynnydd, sy'n 16 oed a ddim yn cael ei enwi am resymau cyfreithiol, ddedfryd o 15 mlynedd cyn y bydd modd iddo wneud cais i gael ei ryddhau.
Roedd y ddau wedi eu cael yn euog gan reithgor ym mis Rhagfyr.

Dywedodd y barnwr fod Marcus Staniforth yn "defnyddio'r trais mwyaf eithriadol am y rhesymau mwyaf dibwys"
Roedd Kamran Aman wrthi'n parcio ei gar ar Stryd Y Barri yn nhref Y Barri tua 23:50 ar 30 Mehefin 2025 pan gafodd ei weld gan y diffynnydd 16 oed o dŷ cyfagos.
Roedd Mr Aman wedi bod yn gweithio drwy'r dydd cyn treulio amser gyda'i wraig a'i ferch bedair oed, ac yna aeth i ddanfon neges i gartref i fam.
Roedd Marcus Staniforth a'r ail ddiffynnydd wedi treulio'r dydd yn yfed ac wedi cyrraedd tŷ yn Y Barri, ac yno bu'r ddau yn parhau i yfed.
Clywodd y llys i'r ddau ymladd ar un adeg yn ystod y nos.
Clywodd yr achos yn erbyn y ddau fod y diffynnydd 16 oed wedi gweld Mr Aman o ystafell wely ac wedi penderfynu ymosod arno, gan geisio gadael y tŷ gyda morthwyl.
Fe gymerwyd yr arf oddi arno ac fe aeth y bachgen allan a gweiddi geiriau hiliol ar Mr Aman cyn ymosod arno.
Daeth Staniforth allan o'r tŷ ac ymuno yn yr ymosodiad, gan gicio Mr Aman.

Roedd Kamran Aman yn danfon bwyd i gartref ei fam ar Ffordd Y Barri cyn iddo gael ei drywanu
Roedd sawl cymydog ar y stryd wedi clywed y sŵn a'r gweiddi, ac wedi naill ai edrych drwy'r ffenest neu ddod allan o'u cartrefi.
Dywedodd un tyst fod Staniforth a'r ail fachgen yn ymddwyn fel anifeiliaid ac yn ymosod ar Mr Aman.
Gwelodd tyst arall Staniforth yn rhedeg yn ôl i'r tŷ cyn ymddangos eiliadau'n ddiweddarach gyda chyllell yn ei law.
Cafodd y gyllell ei chwifio sawl gwaith, yn ôl tyst arall.
Cafodd Mr Aman ei drywanu yn ei frest ac fe gerddodd i gyfeiriad tŷ cymydog i'w fam, gan ddweud ei fod yn credu iddo gael ei drywanu.
Mae'r cymydog yn cofio gweld llawer iawn o waed, ac yn dweud i wyneb Mr Aman droi'n welw. Dywedodd Mr Aman wrth y cymydog nad oedd yn gallu anadlu.
Gweiddi bygythiad hiliol
Ac yntau yn gwaedu i farwolaeth, clywodd y rheithgor i'r llanc 16 oed blygu dros Mr Aman a gweiddi bygythiad hiliol, cyn rhedeg yn ôl i'r tŷ.
Er i barafeddygon geisio achub bywyd Mr Aman, gan gynnal llawdriniaeth frys ar y stryd, bu farw o anaf i'w galon.
Ar ôl glanhau y gyllell a'i ddwylo gyda channydd (bleach), fe geisiodd Staniforth ffoi, ond cafodd y ddau lanc eu harestio yn fuan wedyn.
Daeth yr heddlu o hyd i DNA Staniforth ar y gyllell, ac olion gwaed Mr Aman ar drowsus Staniforth ac esgidiau'r ail ddiffynnydd.

"Fydd bywyd fyth yr un peth heb Kamra," meddai ei wraig
Wrth ddedfrydu'r ddau dywedodd y barnwr Mr Ustus Griffiths KC eu bod wedi ymosod ar Mr Aman oherwydd ei hil.
Dywedodd wrth y llanc 16 oed ei fod eisiau achosi niwed i Mr Aman "am nad oedd yn wyn".
Ychwanegodd fod Staniforth yn "ddyn ifanc peryglus iawn", sy'n "defnyddio'r trais mwyaf eithriadol am y rhesymau mwyaf dibwys".
Dau fachgen yn euog o lofruddio dyn mewn ymosodiad hiliol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2025
Cyhuddo dau o lofruddiaeth yn dilyn achos o drywanu yn Y Barri
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2025
Heddlu'n cyhoeddi enw'r dyn fu farw yn dilyn achos o drywanu
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2025
Fe wnaeth Gerard Hillier KC, ar ran yr ail ddiffynnydd, ddadlau nad oedd ei gleient yn ei iawn bwyll adeg yr ymosodiad, a'i fod wedi cael diagnosis o awtistiaeth ac ADHD.
Roedd wedi cael magwraeth galed ac nid oedd wedi bwriadu lladd y noson honno, meddai Mr Hillier, er bod cyfaddefiad iddo fwriadu anafu Mr Aman.
Yn ôl Mr Hillier, doedd ei gleient ddim yn gwybod fod Staniforth wedi mynd i nôl cyllell, ac nid oedd yn gwybod fod ei ffrind wedi trywanu Mr Aman.
Mewn datganiad gafodd ei ddarllen yn y llys, dywedodd gweddw Mr Aman na fyddai ei bywyd hi na'i merch fyth yr un fath.
Dywedodd Khaleela Aman: "Roedd yn dad cariadus i blentyn sydd wedi ei llorio ac sydd wedi colli ei gariad. Mae ei harwr, y person yr oedd hi yn ei addoli, wedi gadael.
"Fydd bywyd fyth yr un peth heb Kamra. Mae 'na dwll yn ein calonnau fydd wastad yn wag, a phoen fydd yn aros am byth."