Lluniau: Awyr Dywyll Cymru

Y llwybr llaethog uwchben Bryn Celli Ddu
- Cyhoeddwyd
A hithau'n Wythnos Awyr Dywyll Cymru, y ffotograffydd o ogledd Cymru, Hanna Baguley sy'n rhannu ei hoff luniau o'r awyr dywyll yng Nghymru.
Meddai Hanna: "Mae byw a gweithio dan awyr dywyll mannau prydferthaf Cymru wedi fy ysbrydoli.
"Dwi wrth fy modd yn dogfennu sut mae'r sêr, y môr a'r tirwedd yn byw mewn harmoni â'i gilydd ar ôl iddi dywyllu.
"Trwy fy ngwaith rwy'n gobeithio fy mod yn dal harddwch y cosmos, ond hefyd y teimlad ein bod yn sefyll dan yr un sêr â'n hynafiaid."

Lliwiau llachar yr aurora borealis yng Ngwynedd

Yr awyr dywyll yn goleuo Traeth Dulas

Sêr Llynau Mymbyr yn goleuo'r awyr dywyll

Llwybr llaethog Ynys Cwyfan

Awyr binc uwchlaw Mynyddoedd Cambrian

Penmon yn gweld sêr

Dawnsio i'r sêr ym Mhorth Tyn Tywyn

Ynys Enlli sy'n noddfa awyr dywyll

Ynys Enlli o Uwchmynydd

Yr aurora borealis yn goleuo Ynys Môn
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2024

- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2023

- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2023
