Ceiniogau poeth a theisen Berffro: Trysori traddodiadau Môn

Teisen Berffro
Disgrifiad o’r llun,

Teisen Berffro, sy'n rhan o draddodiad Ynys Môn ers y 13eg ganrif

GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae gan bob ardal ei thraddodiadau a'i harferion sy'n werth eu diogelu.

Ers 2024, mae'r Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i Gonfensiwn 2003 UNESCO ar ddiogelu treftadaeth fyw, ac yn cadw cofnod o draddodiadau sy'n gynhenid i Brydain.

Mae rhai penodol Gymreig ar y rhestr, wrth gwrs, fel yr Eisteddfod Genedlaethol, a dawnsio gwerin. Ond mae Menter Môn eisiau llunio rhestr o draddodiadau sydd ond i'w gweld yn Sir Fôn.

Yn ôl Huw Jones, Rheolwr Cynlluniau Cymunedol Menter Môn, mae meddwl am arferion 'Môn-aidd' wedi ennyn ei chwilfrydedd yn ddiweddar, ac mae eisiau cymorth y cyhoedd.

"'Nes i ddechrau pori yn benodol yn bennaf ar rai Cymru: cnapan, plygain, cwiltio, ysgolion Sul, gwyliau cerddoriaeth, hip-hop Cymraeg... ond oes 'na rai penodol i Ynys Môn?"

Traddodiadau byw heddiw

Mae nifer wedi yn dod i'r meddwl yn syth, eglurodd ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.

Ffair Borth: "Dwi'n cofio diwrnod Ffair Borth; dwi'n byw ym Mhorthaethwy, ac oedd y diwrnod yna yn rhywbeth mawr i ni. Beth oedd o'n wreiddiol oedd marchnad stoc, ond yn anffodus, mae'r traddodiad yna wedi dod i ben."

Rhywbeth mae Huw yn ei gysylltu gyda Ffair Borth, meddai, oedd cael lobsgows... tybed oedd hyn yn arferiad i bawb?

Clapio Wyau: Traddodiad cynhenid i Sir Fôn adeg y Pasg, lle'r oedd plant yn mynd o amgylch y ffermydd, gyda chlapwyr pren ac yn canu i ofyn am wyau.

Enghreifftiau eraill yw Pantos y Theatr Fach, cerdded Llwybr Arfodir Môn, Sioe Môn, ac wrth gwrs, Teisenau Berffro, sy'n cael eu siapio â chragen fylchog ac yn dyddio o'r 13eg ganrif.

Sioe MônFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru/Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Sioe Môn yn 1962 a 2025 - mae wedi bod yn rhan o draddodiad yr ynys ers 1820

Ond mae Huw a Menter Môn eisiau gwybod am fwy, ac i weld pa draddodiadau sy'n parhau hyd heddiw.

"O'n i wrth fy modd yn edrych drwy lyfr o straeon gwerin Môn pan o'n i'n ifanc - Neidr Penhesgyn, Ladi'r Henllys Fawr, Lleidr Llandyfrydog. Ydy'r chwedlau yma yn parhau i gael eu pasio ymlaen?

"'Dan ni wedi agor apêl i chwilio am y traddodiadau sy'n fyw heddiw ar Ynys Môn."

Wyddoch chi am rhain?

Mae'r apêl eisoes wedi cael ymateb, gydag ambell i draddodiad oedd yn anghyfarwydd i Huw wedi cael eu crybwyll, meddai.

Ceiniogau poeth: "Arferiad am hanner ddydd ar ddydd San Steffan ym Miwmares, lle byddai ceiniogau poeth yn cael eu taflu o falconi gwesty'r Bulkeley, wrth i'r cyfarfod hela ddechrau," eglurai Huw.

"Basai'r plant wedyn yn casglu'r pres. Roedd fy mam yng nghyfraith yn cofio hynny."

Mae Huw yn gobeithio clywed mwy gan bobl yr ardal i weld os ydy hyn dal yn digwydd.

Disgrifiad,

GWYLIWCH: Taflu ceiniogau poeth yn 1938

Chwecheiniog gam: Mae Huw yn ansicr os yw'r traddodiad yma dal yn fyw. Yn ôl y sôn, meddai, "ar ddiwedd yr 1600au, byddai bechgyn ifanc Sir Fôn yn plygu chwe cheiniog a'u dwylo i ddangos eu cryfder ac yn ei roi i ferch. Os nad oedd y ferch yn rhannu eu teimladau, byddai hi'n taflu'r chwecheiniog i gae gerllaw.

"Mae sôn fod lot o ddarnau chwecheiniog mewn caeau ar draws Sir Fôn!"

Wyddoch chi am fwy? Mae Menter Môn eisiau clywed gennych chi, dolen allanol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb