Trydedd llwy bren yn olynol i Gymru yn Chwe Gwlad y Merched

Sgoriodd Courtney Keight cais cyntaf Cymru - y cyntaf o bedwar gan y tîm cartref on fe sgoriodd yr ymwelwyr saith
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi darfod pencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched ar waelod y tabl gan sicrhau trydedd llwy bren yn olynol.
24-43 oedd sgôr terfynol y gêm olaf yn yr ymgyrch yn erbyn yr Eidal ym Mharc yr Arfau, Caerdydd, er mai Cymru oedd ar y blaen wedi'r hanner cyntaf.
Roedd tîm Sean Lynn hefyd wedi colli yn erbyn Yr Alban, Ffrainc, Lloegr ac Iwerddon.
Pum gêm, pum colled, tri phwynt a diffyg o 114 o ran gwahaniaeth pwyntiau - dyna'r ystadegau y bydd Lynn a'i dîm hyfforddi yn cnoi cil arnyn nhw wrth edrych yn ôl ar ymgyrch hynod siomedig.
Singleton 'nôl i ddechrau'r gêm hollbwysig yn erbyn yr Eidal
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Cymru'n cael cweir arall yn Chwe Gwlad y Merched
- Cyhoeddwyd9 Mai
Fe gafodd yr ymwelwyr y dechrau gorau posib o fewn munudau o'r chwiban gyntaf wedi cais Vittoria Ostuni Minuzzi.
Daeth Courtney Keight â Chymru'n gyfartal yn weddol fuan, ond i Francesca Granzotto dirio eto bron yn syth.
Unwaith eto daeth Cymru'n gyfartal, er bod amheuaeth bod Carys Cox wedi gollwng y bêl wrth groesi'r llinell.
Daeth trydydd cais yr Eidalwyr o'r prynhawn gan Alyssa D'Inca.
Eto i gyd, Cymru oedd ar y blaen ar yr egwyl - o 19 i 17 - wedi cais gan Kelsey Jones a chicio cywir Keira Bevan.
Newidiodd hynny yn fuan wedi dechrau'r ail hanner pan diriodd Francesca Sgorbini, Minuzzi am yr eildro wrth i Gymru ildio sawl cic gosb.
Roedd yna lygedyn o obaith y gallai Cymru fanteisio ar y ffaith fod yr Eidal un chwaraewr yn brin am gyfnod, pan gafodd Granzotto ei hel o'r maes dros dacl peryglus ar Seren Singleton.
Ond ofer oedd y gobeithion hynny - fe sgoriodd Veronica Madia yn ei habsenoldeb cyn i D'Inca dirio am yr eildro.
Gyda munud yn unig ar y cloc, fe sgoriodd Kayleigh Powell bedwerydd cais Cymru i sicrhau pwynt bonws, ond roedd hynny'n fawr o gysur wrth i'r ymwelwyr eu trechu'n gymharol hawdd yn y pen draw.
Golyga'r canlyniad bod Cymru wedi colli 10 gêm Chwe Gwlad yn olynol.
Dywedodd y capten, Bethan Lewis ei bod hi'n "ganlyniad hynod anodd, ond gallwn ni ddim beio neb heblaw ein hunain heddiw".
Ychwanegodd: "Mae gyda ni waith meddwl anodd i'w wneud nawr... Os rydym yn rhoi'r bêl i ffwrdd ac ildio ciciau cosb, rydym yn siŵr o dalu'r pris."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.