Carcharu gyrrwr tacsi o Sir Gâr a dreisiodd fenyw ar ôl ei gyrru adref

Cafodd Dominic Dalton ei ddedfrydu ddydd Mercher i naw mlynedd o garchar
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr tacsi o Sir Gâr wedi cael ei garcharu am dreisio menyw ar ôl ei gyrru adref ar ôl noson allan yn Aberystwyth.
Roedd Dominic Dalton, 30 o Bencader, yn gwadu cyhuddiad o dreisio'r fenyw, gan fynnu iddi gydsynio i gael rhyw.
Ond wedi llai na dwy awr o drafod y dystiolaeth, fe ddyfarnodd rheithgor yn Llys y Goron Abertawe fis diwethaf yn unfrydol ei fod yn euog.
Cafodd ei ddedfrydu ddydd Mercher i naw mlynedd o garchar.
Roedd y fenyw wedi treulio'r noson gyda ffrind yn Aberystwyth nos Sadwrn 24 Chwefror 2024, cyn i'r ddau gamu i dacsi Dalton.
Aeth â'r ffrind adref gyntaf, cyn cludo'r dioddefwr i'w chartref hithau, ond ni chafodd y siwrne ei chofnodi heibio i gartref y cyfaill, ac fe honnodd Dalton i'r llys bod mesurydd y tacsi wedi stopio gweithio.
Yn y car roedd y fenyw'n cysgu ac yn deffro bob yn ail, ac fe wnaeth Dalton ei deffro a'i helpu i'w chartref ac i'w hystafell wely, ble syrthiodd yn ôl i gysgu.
Dywedodd iddi ddeffro a sylweddoli bod Dalton yn ei threisio.
Fe redodd i'r gegin i nôl cyllell, gan sgrechian arno i adael.
Pan wrthododd â gwneud hynny, fe lwyddodd y fenyw i ffoi o'r eiddo yn droednoeth, gan rwygo teiars y tacsi cyn cael cymorth mewn tŷ cyfagos a ffonio'r heddlu.
'Fe fanteisiodd ar ei sefyllfa'
Fe adawodd Dalton yr eiddo yn ei dacsi a pharcio gerllaw, cyn i dacsi arall oedd yn mynd heibio stopio i'w helpu yn sgil y broblem gyda'r teiar.
Ond fe ddychwelodd wedyn i gyfeiriad y dioddefwr ar ôl sylwi bod ei ffôn symudol ganddo, ac fe welodd bod yr heddlu eisoes yn yr ardal.
Clywodd y llys ei fod wedi archwilio erthyglau ar ei ffôn ei hun ar faterion yn ymwneud â chael eich cam-gyhuddo o dreisio, gwyrdroi cwrs cyfiawnder a gwastraffu amser yr heddlu trwy wneud honiad ffug o dreisio.
Cafodd ei arestio yr un diwrnod.
Gan ganmol dewrder y dioddefwr, dywedodd arweinydd yr ymchwiliad, y Ditectif Arolygydd Mathew Nelson o Heddlu Dyfed-Powys ei bod, trwy gysylltu â'r llu, "wedi diogelu aelodau eraill o'r gymuned hefyd".
"Fel gyrrwr tacsi, dyletswydd Dalton oedd sicrhau bod ei deithwyr yn cyrraedd adref yn ddiogel.
"Fe fanteisiodd ar ei sefyllfa y noson honno, ac ar fregusrwydd dioddefwr, ac aeth ymlaen i ddweud celwydd ynghylch yr hyn a wnaeth."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.