Heddlu nid athrawon ddylai chwilio am arfau - athrawes gafodd ei thrywanu

Cafodd Liz Hopkin a dau arall eu trywanu gan ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Aman yn Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd
Roedd Liz Hopkin yn meddwl ei bod hi'n mynd i farw pan gafodd ei thrywanu gan ddisgybl yn yr ysgol ble'r oedd hi'n gweithio - ond mae'n bendant nad sganwyr metel yw'r ateb i wneud ysgolion yn fwy diogel.
Dywedodd y gyn-athrawes yn Ysgol Dyffryn Aman mai nid "staff diogelwch" yw athrawon ac mai'r "heddlu ddylai fod yn gyfrifol am chwilio am gyllyll neu unrhyw fath o arfau".
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai'n datblygu adnoddau i helpu staff ysgol wrth ymateb i amheuon bod gan ddisgybl arf, ond dywedodd Ms Hopkin na ddylid "rhoi'r cyfrifoldeb ar ysgolion".
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd "unrhyw ddisgwyliad i staff ymgymryd â dyletswyddau sy'n ymwneud â diogelwch".
Daw ar ôl i fachgen 15 oed gael ei gyhuddo o geisio llofruddio ar ôl i athrawes gael ei thrywanu yn Sir Benfro.

Sganiwr metel o'r math sydd wedi cael eu rhoi i ysgolion yng Nghaerdydd
Yn gynharach yn y mis, dywedodd y llywodraeth y byddai'n adeiladu ar brotocol sydd wedi cael ei gyflwyno yng Nghaerdydd ers mis Medi 2025 ble mae ysgolion wedi derbyn sganwyr metel neu search wands.
Ond dywedodd Liz Hopkin bod angen canolbwyntio ar y rhesymau pam mae plant yn dod ag arf i'r ysgol yn y lle cyntaf.
"Erbyn i'r gyllell gyrraedd yr ysgol, rydych chi wedi methu cymaint o gyfleoedd", meddai.
"Rwy'n meddwl ei fod yn bennawd newyddion da i'r llywodraeth i ddweud eu bod nhw'n cyflwyno'r protocol yma oherwydd bydd pobl yn meddwl bod gan ysgolion fwy o bwerau wedyn i ddelio â hyn, ond mewn gwirionedd rydych chi'n trosglwyddo'r cyfrifoldeb."
'Cynyddu tensiynau'
Dywedodd y gallai'r cynllun ychwanegu "rôl gwarchodwr diogelwch at swydd athrawon sydd yn ceisio adeiladu perthnasoedd gyda phobl ifanc".
Dywedodd hefyd y gallai gofyn i berson ifanc oedd "mewn sefyllfa o argyfwng" fynd i mewn i ystafell fach i gael ei sganio gynyddu tensiynau.
"Rwy'n teimlo mai'r heddlu ddylai fod yn gyfrifol am chwilio am gyllyll neu unrhyw fath o arfau.
"Mae gyda ni ddigon o gyfrifoldebau eisoes gyda llai a llai o adnoddau."
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod eu gwaith ar arfau yn "rhan o ystod eang o gamau rydyn ni'n eu cymryd ar ymddygiad" yn dilyn cynhadledd genedlaethol a thrafodaethau gyda'r sector.
"Mae'r adnoddau newydd yn ymwneud ag atal ac yn adeiladu ar y canllawiau a'r cymorth cenedlaethol presennol sydd ar gael."
Yn ôl llefarydd bydd yr adnoddau'n cynnwys hyfforddiant, strategaethau a gwybodaeth "i ddarparu dull cenedlaethol cyson i helpu i gadw pob person ifanc a staff ysgol yn ddiogel".
"Nid yw'r adnoddau hyn yn ymwneud yn benodol â sganwyr a byddai unrhyw benderfyniadau ar ddefnyddio sganwyr yn cael eu gwneud ar lefel leol."
Adnoddau newydd i athrawon ddelio gydag arfau mewn ysgolion
- Cyhoeddwyd6 Chwefror
Dedfrydu merch, 14, am geisio llofruddio tri yn Ysgol Dyffryn Aman
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2025
Enwebu athrawon Dyffryn Aman am wobr dewrder ar ôl ymosodiad
- Cyhoeddwyd30 Ionawr
Cafwyd merch 14 oed yn euog o geisio llofruddio Ms Hopkin, athrawes arall, Fiona Elias a disgybl mewn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman yn Sir Gaerfyrddin yn Ebrill 2024.
Cafodd y ferch ddedfryd 15 mlynedd llynedd.
Dywedodd Ms Hopkin, sydd wedi dweud na fydd hi byth yn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth, bod yr achosion mwyaf difrifol o drais yn tarddu o ragor o ymddygiad gwael ar lefel isel yn yr ystafell ddosbarth.
Dywedodd bod cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol yn cyfrannu at y broblem.
"Mae'n ymwneud ag ymyrraeth gynnar. Mae'n ymwneud â rhoi llawer mwy o arian, cyllid ac adnoddau i gymorth cynnar", meddai.
Ychwanegodd bod ymosodiadau yn gallu digwydd mewn unrhyw fath o ardal, gan gynnwys ardaloedd gwledig fel Rhydaman.
"Rydych chi yn symud mlaen ychydig, ond dyw e ddim yn brofiad rydych chi'n dianc rhagddo.
"Mae'n rhaid ei atal e a dyw e ddim yn fater o atal disgyblion rhag dod i mewn gydag arfau, er bod hynny'n rhan ohono, ond mae'n ymwneud ag ymdrin â holl faterion cymdeithas Cymru mewn ysgolion ac mewn cymunedau."
Dywedodd fod pwysau cyllidebol ar ysgolion a gwasanaethau eraill yn "ffactor enfawr".
"Dydyn ni ddim yn cael y gefnogaeth ariannol mewn ysgolion, nac o fewn asiantaethau allanol fel gwasanaethau ieuenctid, gwasanaethau iechyd meddwl, yr holl wasanaethau cefnogol hynny... seicoleg addysg, mae'r cyfan yn cael ei erydu."

Dywedodd Liz Hopkin bod cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol yn cyfrannu at ymddygiad gwael
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio gyda nifer o wasanaethau "wrth fynd i'r afael â'r ffactorau cymdeithasol ehangach sy'n dylanwadu ar ymddygiad mewn ysgolion".
"Yn ddiweddar fe wnaethon ni gadarnhau cydweithio gyda'r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu a'u heddluoedd i gryfhau partneriaethau rhwng yr heddlu, awdurdodau lleol ac ysgolion," ychwanegodd llefarydd.
Dywedodd Cyngor Caerdydd bod ei ganllawiau ar arfau mewn lleoliadau addysg yn rhan o "fframwaith cymorth ehangach i helpu ysgolion i gadw pob person ifanc a staff ysgol yn ddiogel".
Dywedodd mai dim ond pan oedd "pryder clir a rhesymol bod person ifanc efallai'n cario arf" y byddai disgyblion yn cael eu harchwilio a byddai hynny'n cael ei wneud "gyda'r gofal a'r parch mwyaf".
Ychwanegodd fod sganwyr metel yn cael eu defnyddio i osgoi cysylltiad corfforol.
"Dydyn nhw na chwaith y canllawiau yn cymryd lle gorfodaeth y gyfraith mewn argyfwng.
"Mae'r dull yn seiliedig ar ymagwedd sy'n ystyriol o drawma, yn cydymffurfio â'r gyfraith ac yn gyson ar draws holl ysgolion Caerdydd."
Dywedodd y llefarydd fod y canllawiau hefyd yn cynnwys strategaethau atal, gan gynnwys gweithio gyda rhieni, gofalwyr a'r gymuned, ac addysgu pobl ifanc am beryglon arfau drwy'r cwricwlwm.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.