Adnoddau newydd i athrawon ddelio gydag arfau mewn ysgolion

Bydd adnoddau newydd i ysgolion ar sut i ddelio â sefyllfa lle mae arf ar y safle yn helpu i sicrhau bod ysgolion yn ddiogel, meddai'r ysgrifennydd addysg
- Cyhoeddwyd
Ers mis Medi mae penaethiaid ysgolion Caerdydd wedi cael canllaw newydd gan y cyngor ynglŷn â beth i wneud os yw disgybl yn dod ag arf i'r ysgol.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu adeiladu ar y gwaith yna i greu adnoddau newydd i ysgolion Cymru.
Yn ôl pennaeth un ysgol yn y brifddinas mae'r canllaw yno i "gefnogi ni fel staff ond hefyd i gefnogi disgyblion a chadw pawb yn ddiogel".
Dywedodd yr ysgrifennydd addysg Lynne Neagle bod y nod o gyflwyno cynllun i Gymru gyfan yn deillio o'r uwch-gynhadledd ymddygiad a gafodd ei chynnal gan y llywodraeth y llynedd.

Mae pob ysgol yng Nghaerdydd wedi derbyn sganiwr metel tebyg i hwn
Yng Nghaerdydd mae pob ysgol gynradd ac uwchradd wedi derbyn sganwyr metel, neu search wands.
"Dydyn ni ddim wedi gorfod defnyddio'r canllawiau hyd yma," meddai pennaeth Ysgol Plasmawr, Rhodri Thomas.
"Ond o brofiad o weithio mewn gwledydd eraill, dwi'n ymwybodol bod hi'n bwysig bod y cynllun mewn lle fel ein bod ni'n gwybod beth i wneud os yw'n disgybl ni mewn perygl neu ddisgybl wedi dod ag arf ar y safle.
"Ni'n gwybod beth i wneud a mae hefyd yn rhoi cysur i rieni eu bod nhw'n gwybod, achos ni wedi cyfathrebu hwn i bob rhiant."

Mae'r canllaw mewn lle "i gefnogi ni fel staff ond hefyd i gefnogi disgyblion a chadw pawb yn ddiogel", meddai Rhodri Thomas
Os oes angen mae staff yn gallu "archwilio gyda synhwyrydd metel sydd ddim yn cyffwrdd eu corff nhw".
"Dyw e ddim yn cysylltu â nhw, ond sydd yn gallu dweud wrtho ni os oes eitem metel wedi cuddio o dan eu dillad nhw neu mewn man arall," meddai Dr Thomas.
"Mae hyn yn digwydd mewn man preifat ond gyda thystion ac wedyn 'da ni'n cysylltu gyda rhiant wrth gwrs, a'u bo nhw'n ymwybodol bod hwn wedi digwydd a pham mae wedi digwydd."
Dywedodd bod ysgolion yn falch o gael canllaw cyson ar draws y sir - un a fydd nawr yn sail i gyngor tebyg i ysgolion ar draws Cymru.
Roedd Dr Thomas arfer gweithio gydag ysgolion a phrifysgolion yn yr Unol Daleithiau ble roedd y bygythiad gan arfau yn fwy amlwg.
"Mae dod fan hyn a chlywed yr un pryderon yn bryder i fi wrth gwrs fel unrhyw unigolyn, ond dwi'n ymwybodol bod e'n bwysig bod 'da ni'n cynlluniau mewn lle i ddiogelu ni a gobeithio byddwn ni byth yn gorfod defnyddio nhw."
'Seiliedig ar amgylchiadau lleol'
Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru yn dilyn uwch-gynhadledd ymddygiad y flwyddyn diwethaf, a hynny yn sgil digwyddiad difrifol gyda chyllell yn Ysgol Dyffryn Aman yn Ebrill 2024.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai Cyngor Caerdydd yn gweithio gydag awdurdodau lleol eraill i ddatblygu adnoddau i gefnogi ysgolion ar draws Cymru.
Ond dywedodd yr ysgrifennydd addysg Lynne Neagle y byddai angen trafod a fyddai pob ysgol yn derbyn y sganwyr, fel yng Nghaerdydd.
"Rwy'n meddwl y bydd yn rhaid datblygu'r canllawiau yn seiliedig ar amgylchiadau lleol," meddai.
"Gall ysgolion eisoes ddefnyddio pethau fel sganwyr llaw - mae ganddyn nhw'r hawl i sgrinio am arfau, felly rwy'n meddwl byddwn ni'n gwneud y gwaith yma gyda phartneriaid ledled Cymru a bydd hynny'n fater i'w ystyried gydag ysgolion ag awdurdodau lleol yn yr ardaloedd hynny."

Dywedodd Lynne Neagle mai'r nod yw "tawelu meddyliau" staff
Dywedodd y byddai'r adnoddau wedi'u "dylunio i gefnogi staff ysgol yn hytrach na rhoi baich arnyn nhw".
"Mae staff ysgolion eisoes yn dweud wrtha i eu bod yn bryderus am y pethau hyn.
"Rwy'n gobeithio y bydd cael y math yma o adnoddau yn tawelu eu meddyliau nhw".
Byddai protocol ar gyfer Cymru gyfan yn rhoi "mwy o eglurder i ysgolion, dysgwyr a theuluoedd i sicrhau bod ysgolion yn lle diogel", ychwanegodd.

Dywedodd Llinos Jones y byddai ysgolion yn croesawu unrhyw ganllawiau i'w gwneud yn fwy diogel
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd Llinos Jones, pennaeth Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin, y byddai "unrhyw ysgol yn croesawu unrhyw newidiadau gan y llywodraeth er mwyn gwneud ysgolion yn lleoliadau saff".
"Beth mae ysgolion yn dueddol o wneud nawr yw gwneud yn siŵr bod pob plentyn a phob aelod o staff yn gyfarwydd iawn gydag ymarfer cyfnod clo - yr un peth ag ymarfer tân - er mwyn bod pob aelod o gymuned yr ysgol yn gwybod yn gwmws beth i'w wneud os oes 'na fygythiad," meddai.
"Unrhyw beth i wneud ein cymuned, ein hysgol yn saffach, byddwn i'n ei groesawu.
"Oherwydd ar hyn o bryd mae 'na duedd i ni ofyn os bydde 'na fygythiad, neu rywun yn dweud bod 'na arf mewn bag, yr arfer gyda ni yw bod plentyn yn dangos ei fag i ni, bod ni ddim yn chwilio drwy'r bag oherwydd does dim hawl gyda ni i wneud hynny heb ganiatâd, a chael y plentyn ei hun i wneud.
"Dy'n ni ddim wedi cael tystiolaeth o unrhyw broblem fel'na ond fi'n gwybod ei fod e ar gynnydd mewn ysgolion."
Pwysleisiodd hefyd mai "prin iawn yw'r bygythiadau hyn, a bod ni ddim yn mynd i banig o gwbl".
Beth yw'r farn am y cynlluniau?
Yng Nghaerfyrddin, dywedodd Kevin Chambers bod hi'n bwysig i gadw'r plant yn ddiogel.
"Pam bod ishe cyllyll arnyn nhw mewn ysgolion, sai'n siŵr gwybod pam," meddai.
"Ond dwi'n meddwl bo' nhw [athrawon] yn gweithio'n galed i gadw diogelwch y plant."
Dywedodd Dorian Williams, sy'n gyn-bennaeth, bod yr heriau'n ymestyn tu hwnt i'r ysgol.
"Ma' tipyn o bwyse ar athrawon i wneud pob math o benderfyniadau sydyn er diogelwch plant.
"Ma' cyfrifoldeb mawr gyda rhieni wrth gwrs, ac os oes tueddiadau gan blant i gymryd diddordeb mewn cyllyll ac yn y blaen, wel dyle fod 'na gyfathrebu rhwng y rhieni a'r ysgolion."

Dywedodd Dorian Williams fod cyfathrebu rhwng rhieni a'r ysgol yn hanfodol
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod yna "ddiffyg disgyblaeth gynyddol" mewn ysgolion.
Yn ôl eu llefarydd addysg, Natasha Asghar AS: "Mae myfyrwyr, rhieni a'n hysgolion yn haeddu, ac angen, gweithredu cadarn – nid geiriau cynnes."
Dywedodd fod cynllun y Ceidwadwyr yn cynnwys "gwahardd ffônau symudol mewn ysgolion, atal pobl dan 16 rhag defnyddio cyfryngau cymdeithasol a gwaharddiad awtomatig i ddisgyblion sy'n dod ag arfau i ysgolion".
Dywedodd Plaid Cymru fod athrawon a staff ysgolion yn "aros i Lywodraeth Cymru gyflawni eu haddewidion".
Mae cyflwyno canllaw Caerdydd yn "un cam yn unig", meddai llefarydd.
"Mae llawer o'r 49 o gamau a gafodd eu hawgrymu gan adroddiad yr uwch-gynhadledd (ymddygiad) yn dal heb eu gweithredu, gan adael ysgolion a theuluoedd heb y cymorth sydd eu hangen arnynt," ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd Reform UK Cymru: "Yn anffodus, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi caniatáu i ddiogelwch a safonau i ddirywio yn ein hysgolion."
Dywedodd Plaid Werdd Cymru: "Er ein bod yn gobeithio y bydd y canllawiau newydd hyn yn gwneud ysgolion yn llefydd mwy diogel, mae angen i ni hefyd fuddsoddi mwy mewn adnoddau iechyd meddwl i bobl ifanc yng Nghymru i ategu'r canllawiau newydd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2025

- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2025
