Enwebu athrawon Dyffryn Aman am wobr dewrder ar ôl ymosodiad

Fiona Elias a Liz Hopkin
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Fiona Elias a Liz Hopkin eu trywanu yn y digwyddiad yn Ebrill 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae tri aelod o staff Ysgol Dyffryn Aman yn Sir Gâr wedi cael eu henwebu am wobr dewrder yn dilyn ymosodiad gyda chyllell gan ddisgybl yn eu hysgol.

Fe gafodd dwy athrawes sydd wedi'u henwebu - Fiona Elias a Liz Hopkin - eu trywanu sawl gwaith yn yr ymosodiad ar 24 Ebrill 2024.

Cafodd merch 14 oed ddedfryd 15 mlynedd y llynedd wedi iddi ei chael yn euog o geisio llofruddio.

Dydd Gwener daeth y cyhoeddiad bod y ddwy athrawes a Darrel Campbell - aelod o staff oedd hefyd wedi ymyrryd ar ddiwrnod yr ymosodiad - wedi cael eu henwebu am wobr dewrder Dewi Sant.

Y rhain yw gwobrau cenedlaethol Cymru, sy'n dathlu rhai o bobl fwyaf dewr a disglair y wlad.

Darrel Campbell
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Darrel Campbell ymyrryd er mwyn ceisio atal yr ymosodiad

Wrth gyhoeddi'r enwebiadau ar gyfer y gwobrau, cafodd Ms Elias, Ms Hopkin a Mr Campbell eu disgrifio fel enghreifftiau o "wir ysbryd Gwobr Dewi Sant am ddewrder".

"Er gwaethaf ei hanafiadau difrifol, bu gweithredoedd dewr Liz Hopkin yn allweddol wrth achub bywydau," meddai'r enwebiad.

"Ymatebodd y cyn-bennaeth cynorthwyol Darrel Campbell yn gyflym hefyd, gan ddiarfogi'r ymosodwr ac atal niwed pellach.

"Mae Fiona Elias wedi dangos dewrder a chryfder drwy ddychwelyd i'r gwaith yn fuan ar ôl yr ymosodiad, gan barhau i gefnogi disgyblion a staff ar adeg mor heriol."

Mae dewrder y tri wedi ei ddisgrifio fel "cwbl arbennig", gyda'u gweithredoedd y diwrnod hwnnw yn "osgoi trasiedi waeth".

Bob blwyddyn mae 11 gwobr Dewi Sant yn cael eu cyflwyno, gyda phob un yn cynrychioli categori penodol - o chwaraeon i fusnes, a pherson ifanc y flwyddyn.

Mae'r 10 enillydd cyntaf yn cael eu henwebu gan y cyhoedd, gyda'r olaf yn cael ei ddewis gan Brif Weinidog Cymru.

Mae athrawon Ysgol Dyffryn Aman yn un o dri sydd wedi'u henwebu, dolen allanol ar gyfer y wobr dewrder eleni.

Y ddau arall sydd wedi'u henwebu yn yr un categori yw James Riley, wnaeth achub dynes oedd yn boddi, a William Newbury, wnaeth achub babi o ymosodiad gan gi.

Bydd enillwyr yr holl wobrau yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn y Senedd ar 26 Chwefror.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.