Dau fachgen yn euog o lofruddio dyn mewn ymosodiad hiliol

Llun o Kamran AmanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kamran Aman yn 38 oed ac yn dad i un plentyn

  • Cyhoeddwyd

Mae dau fachgen, 16 a 17 oed, wedi eu cael yn euog o lofruddio dyn 38 oed o'r Barri mewn ymosodiad hiliol.

Bu farw Kamran Rasool Aman, a oedd yn dad i un plentyn, o un clwyf ar ôl cael ei drywanu yn ei frest yn fuan wedi hanner nos ar 1 Gorffennaf eleni.

Nid oes modd i'r bechgyn, sydd o Lanilltud Fawr ym Mro Morgannwg, gael eu henwi oherwydd eu hoedran.

Roedd y ddau wedi cyfaddef dynladdiad Mr Aman ond yn gwadu llofruddio.

Cymerodd rheithgor o bum menyw a saith dyn yn Llys y Goron Caerdydd lai na saith awr i gyhoeddi eu dyfarniad unfrydol.

Fe wnaeth y ddau ddiffynnydd ymateb yn flin yn y doc yn dilyn y dyfarniad, gydag un yn dyrnu'r waliau ac yn cyfeirio sylwadau at deulu Mr Aman yn yr oriel.

Bydd y ddau fachgen yn cael eu dedfrydu ar 20 Chwefror.

Pabell fforensig
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ar Heol Y Barri wedi'r digwyddiad ar 1 Gorffennaf

Roedd Mr Aman yn eistedd yn ei gar tua 23:50 ar 30 Mehefin ar Heol Y Barri yn y dref pan gafodd ei weld gan y bachgen 16 oed.

Fe wnaeth y bachgen - a oedd wedi bod yn yfed alcohol ers sawl awr ac wedi bod yn cwffio gyda'r bachgen 17 oed yn gynharach y noson honno - dargedu Mr Aman oherwydd lliw ei groen, a dechreuodd weiddi sylwadau sarhaus a hiliol ar ôl methu ag agor drws ei gar.

Clywodd y llys sut y daeth Mr Aman - a oedd wedi mynd â bwyd i'w wraig a'i blentyn pedair oed yn gynharach yn y noson cyn gyrru i Heol Y Barri i fynd â'r siopa i'w fam - allan o'r car i amddiffyn ei hun yn erbyn y bachgen 16 oed.

Dywedodd nifer o gymdogion wrth yr achos eu bod wedi eu dychryn gan y gweiddi yn y stryd a gweld y ddau fachgen yn ymosod ar Mr Aman fel "anifeiliaid".

Clywodd y llys fod y bachgen 17 oed wedi mynd yn ôl i'r tŷ lle roedden nhw wedi bod yn yfed cyn dychwelyd 15 eiliad yn ddiweddarach gyda chyllell.

Dywedodd tyst wrth yr heddlu eu bod nhw wedi gweld y llanc yn chwifio'r gyllell "sawl gwaith".

Dywedodd cymydog arall, a oedd yn adnabod Mr Aman ers blynyddoedd lawer, ei fod wedi mynd at ei drws a dweud "dwi'n meddwl fy mod i wedi cael fy nhrywanu".

Dywedodd y cymydog ei bod wedi synnu faint o waed oedd ar y llawr a fod Mr Aman wedi dweud wrthi "alla i ddim anadlu".

Gyda Mr Aman yn gwaedu i farwolaeth clywodd y llys sut roedd y ddau fachgen yn dal i fod yn benderfynol o gwffio, gyda'r bachgen 16 oed yn gweiddi sarhad hiliol wrth sefyll dros Mr Aman.

Yna rhedodd y ddau i ffwrdd, ar ôl ceisio golchi'r gyllell a'u dwylo gyda channydd (bleach), ond cawsant eu harestio mewn stryd gyfagos ychydig ar ôl hanner nos.

Er gwaethaf ymdrechion meddyg ambiwlans awyr a roddodd lawdriniaeth frys i galon Mr Aman ar y stryd, cyhoeddwyd ei fod wedi marw am 01:07.

Shenaz
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r galar dwi'n ei deimlo fel mam yn annirnadwy," meddai mam Mr Aman, Shenaz

Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen ar ei rhan y tu allan i'r llys, dywedodd gwraig Mr Aman, Khaleela, fod ei gwr yn berson "ffyddlon, cariadus a thrugarog".

"Roedd o wastad yn mynd allan o'i ffordd i helpu eraill, a'r bobl yr oedd yn gofalu amdanyn nhw, heb ddisgwyl dim byd yn ôl byth," meddai.

"Fydd bywyd byth yr un fath i ni heb Kamran. Mae yna dwll yn ein calonnau all byth gael ei lenwi... wnaeth rhan ohonom farw gydag ef y diwrnod y bu farw."

Dywedodd mam Mr Aman, Shenaz, bod ei mab wedi rhoi "gymaint o lawenydd, cefnogaeth, a heddwch" iddi.

"Mae'r galar dwi'n ei deimlo fel mam yn annirnadwy," meddai.

"Mae'n dal i boeni fi doeddwn i ddim yn gallu ei ddal o a bod hefo fo ar yr adeg roedd o fy angen y mwyaf."

Ychwanegodd ei deulu mewn datganiad arall fod "y boen hyd yn oed yn ddyfnach oherwydd yr elfen hiliol ffiaidd... a'r ffaith ei fod wedi'i dargedu oherwydd pwy oedd o."

Ditectif Arolygydd Kath Barry
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kamran yn mynd â'r siopa i'w fam pan ddigwyddodd yr ymosodiad gan ddau berson nad oedd yn ei nabod, meddai'r Ditectif Arolygydd Kath Barry

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Kath Barry, o Heddlu'r De, fod Mr Aman "yn aelod poblogaidd a hoffus o'i gymuned".

"Roedd Kamran yn mynd â'r siopa i'w fam pan ddigwyddodd yr ymosodiad gan ddau berson nad oedd yn ei nabod," meddai.

"Wnaeth Kamran ddim byd i haeddu hyn... roedd y trais hyd yn oed yn fwy syfrdanol oherwydd yr hiliaeth ffiaidd oedd yn cael ei ddefnyddio cyn, yn ystod, ac ar ôl [yr ymosodiad], a gafodd ei ddal ar fideo."

Dywedodd bod teulu Mr Aman "wedi ymddwyn gydag urddas a thawelwch rhyfeddol yn ystod yr achos".

Ychwanegodd bod Heddlu'r De yn diolch i drigolion Heol Y Barri am eu hymdrechion i helpu Mr Aman ac yn cydnabod "dealltwriaeth y gymuned leol, ac yn benodol Cymuned Fwslimaidd Y Barri" yn ystod yr achos.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig