Colli 295 swydd ar ôl i gwmni yn y de fynd i ddwylo gweinyddwyr

Safle AbertaweFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae CES yn cyflogi 295 o bobl yn Abertawe (uchod) a Threorci

  • Cyhoeddwyd

Mae bron i 300 o swyddi wedi cael eu colli ar ôl i gwmni ynni yn ne Cymru gael ei roi yn nwylo gweinyddwyr.

Mae City Energy Group wedi cyhoeddi y byddan nhw'n ailstrwythuro, gan olygu y bydd cannoedd o swyddi'n cael eu colli yn Consumer Energy Solutions (CES) yn Abertawe a Threorci.

Mae'r grŵp wedi dweud bod yn rhaid ailstrwythuro oherwydd "dirywiad" cynllun ariannu ECO4 gan Lywodraeth y DU.

Bydd y fenter, sydd â'r nod o wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi incwm isel a bregus, yn dod i ben eleni.

Mae CES wedi cadarnhau eu bod yn cyflogi 295 o bobl ar eu safleoedd yn Abertawe a Threorci.

Dywedodd City Energy Group fod diwedd cynllun ECO4 "wedi creu rhwystrau sylweddol i gangen CES ein busnes".

Dywedodd llefarydd ar ran bwrdd City Energy Group: "Er gwaethaf ymdrechion diflino i sicrhau ffordd ymlaen, yn anffodus nid oedd hi'n hyfyw parhau i fasnachu."

Mae disgwyl i'r swyddi sy'n cael eu colli gynnwys cynghorwyr gwerthu, cynllunwyr prosiectau a staff mewn adrannau gwresogi ac inswleiddio.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni mai'r gweinyddwyr fydd yn gyfrifol am gefnogi staff.

Ychwanegodd: "Ni fyddwn yn gallu cynnal unrhyw waith adfer na thrwsio, na pharhau neu ddatrys unrhyw gwynion sy'n bodoli eisoes."

Dywedon nhw fod cwsmeriaid a gafodd offer wedi'i osod gan CES yn cael eu cyfeirio at ddarparwyr gwarant sydd â chefnogaeth yswiriant a fydd yn gallu rhoi cyngor, os oes rhywbeth yn mynd o'i le.

'Dim gwerth am arian i'r cynllun'

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Diogelwch Ynni a Net Sero nad oedd cynlluniau ECO a GBIS yn "darparu gwerth am arian".

"Yn lle hynny, rydym yn buddsoddi £1.5bn ychwanegol yn ein Cynllun Cartrefi Cynnes, gan ei gymryd at bron i £15bn."

Ychwanegodd mai dyma'r "buddsoddiad cyhoeddus mwyaf erioed i uwchraddio cartrefi a mynd i'r afael â thlodi tanwydd".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.