125 o swyddi mewn peryg o gael eu colli mewn ffatri alwminiwm

Fe agorodd y safle ym Medwas yn wreiddiol 'nôl yn 1971
- Cyhoeddwyd
Mae dros 100 o swyddi mewn peryg o gael eu colli mewn ffatri alwminiwm a nwyddau ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy yn Sir Caerffili.
Mae cwmni Norsk Hydro yn dweud bod eu safle ym Medwas ymhlith pum lleoliad ar hyd Ewrop all gau yn sgil heriau yn y sector.
Yn ogystal â'r ffatri ym Medwas - ble mae tua 125 o bobl yn gweithio - fe allai'r cwmni gau safleoedd yn Cheltenham, yn Yr Almaen, Yr Eidal a'r Iseldiroedd.
Mae ymgynghoriad ffurfiol wedi dechrau gyda chynrychiolwyr staff yn y lleoliadau dan sylw.
'Ergyd drychinebus cyn y Nadolig'
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni - sy'n berchen ar y ffatri ym Medwas ers 2017 - eu bod yn ystyried y newidiadau er mwyn eu gwneud yn fwy cystadleuol.
"Mae proses ymgynghori ffurfiol gyda chynrychiolwyr staff yn mynd rhagddo, ac yn ystod y broses yma fe fydd Hydro yn trafod datrysiadau posib yn unol â rheoliadau'r DU.
"Os yw'r cynlluniau yn cael eu cadarnhau, mae'r ffatri ym Medwas yn debygol o gau yn 2026."
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd yr Aelod Plaid Cymru o'r Senedd, Lindsay Whittle: "Mae hon yn ergyd drychinebus cyn y Nadolig.
"Os ydyn nhw'n penderfynu cau wedi'r cyfnod ymgynghori yma, yna mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys i sicrhau fod staff yn derbyn hyfforddiant a, gobeithio, cyfleoedd cyflogaeth newydd cyn gynted â phosib."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.